Agenda item

Arolygiad Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd Katy Young, Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i'r cyfarfod.

 

Gwnaeth yr Arolygydd, AGC, gyflwyniad i’r Cabinet yn amlinellu’r cryfderau a’r meysydd sydd angen eu gwella yn dilyn arolygiad o wasanaethau Oedolion H?n Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gynhaliwyd ym mis Medi 2019. Ar adeg yr arolygiad, roedd cynlluniau ar gyfer gwella ar waith yn barod ac roedd rhai o'r canfyddiadau'n adlewyrchu'r gwaith roeddent yn bwriadu ei ddatblygu yn barod. Roedd ffiniau newydd wedi'u cyflwyno ac roeddent yn cydnabod bod hwn wedi bod yn waith sylweddol, yn weithredol ac yn strategol.

 

Ychwanegodd yr Arolygydd, AGC ei bod wedi bod yn bleser cynnal yr arolygiad a bod staff a rheolwyr yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud yr hyn roedd angen ei wneud.

 

Gwnaeth yr Arweinydd ddiolch i'r Arolygydd am y trosolwg cadarnhaol ac am gydnabod bod yr awdurdod yn ceisio gwella. 

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod yn falch o’r adroddiad ac yn falch o’r staff, yn arbennig yng ngoleuni 10 mlynedd o gyni ac ailstrwythuro. Roedd y gwasanaeth cyfan yn newid yng Nghymru ac roedd gweithio mewn partneriaeth yn chwarae rhan sylweddol yn hyn o beth.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod y rhain yn amseroedd digynsail o ran pwysau ar adnoddau. Roedd yn falch o'r adroddiad a oedd yn darparu hyder a boddhad. Gofynnodd a gafwyd unrhyw adborth am y cynllun gweithredu. Atebodd yr Arolygydd, AGC, ei fod yn fodlon bod y cynllun gweithredu yn cwrdd â gofynion a bod ond angen ystyried sut y byddai'n cael ei weithredu.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr arolygiad wedi bod yn gadarn, yn deg ac yn gytbwys ac y cafwyd nifer o ganfyddiadau allweddol fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd y cynllun gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â'r canfyddiadau hyn yn cynnwys 17 o gamau gweithredu ar draws pedair thema.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn falch bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ystyried yn sefydliad sy’n dysgu ac y cafwyd ymgysylltiad llawn â'r staff i gyd. Cafwyd pryderon ynghylch capasiti ledled Cymru ac roedd trafodaethau'n parhau ynghylch proffilio, tâl ac amodau. Roedd Strategaeth ar y cyd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod arian grant yn effeithio ar allu'r cyngor i recriwtio. Roedd hefyd angen i'r cyngor fod yn fwy arloesol o ran eu dull o recriwtio, megis defnyddio Facebook a LinkedIn. Diolchodd i AGC am y ffordd y cynhaliwyd yr arolygiad a dywedodd ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yr adroddiad yn arbennig yng ngoleuni 10 mlynedd o gyni. Roedd y sylwadau a gafwyd yn yr adroddiad yn ôl y disgwyl. Cynhaliwyd yr Arolygiad yn ystod cyfnod o newid mawr ac roedd yn falch o'r staff a'r sefyllfa roeddent ynddi.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol pryd byddai'r arolygiad nesaf yn cael ei gynnal. Esboniodd yr Arolygydd, AGC, fod rhaglen pedair blynedd a gweithgarwch â ffocws a gweithgareddau thematig yn cael eu cynnal bob blwyddyn hefyd. Caniatawyd amser i wneud gwelliannau rhwng ymweliadau ac i ddatblygu agenda'r awdurdod ei hun.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod ymgysylltu rheolaidd, agored ac adeiladol yn helpu'r ddau barti i weithio gyda'i gilydd.

 

PENDERFYNWYD:                Cafodd yr adroddiad ei nodi gan y Cabinet.

 

Dogfennau ategol: