Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Contractau Cartrefi Gofal a Gofynion Cronfa Gyfun

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p – Comisiynu Contractau a Pherfformiad adroddiad i ddiweddaru’r Cabinet ar gyfrifoldebau Awdurdodau Lleol mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau cartrefi gofal preswyl a nyrsio, ar ôl gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ceisiodd yr adroddiad gymeradwyaeth hefyd i barhau â'r hawlildiad o dan Reol Gweithdrefn Contract 3.2.3, o'r gofyniad i dendro'r ddarpariaeth gwasanaethau cartrefi gofal preswyl a nyrsio yn gystadleuol am gyfnod o flwyddyn arall ac i ymrwymo i gontractau newydd gyda darparwyr gofal preswyl a nyrsio presennol, a chychwyn contractau gydag unrhyw ddarparwyr newydd a nodwyd gan yr Awdurdod Lleol, am gyfnod contract o flwyddyn; er mwyn gweithredu a gwneud taliadau i gartrefi gofal yn erbyn Amserlen Prisiau Safonol ar gyfer Cartrefi Gofal ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 ac i ymrwymo i Gytundeb Cronfa ar y Cyd a threfniadau ar gyfer swyddogaethau llety cartrefi gofal pobl h?n gyda phartneriaid Cwm Taf Morgannwg.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p – Comisiynu Contractau a Pherfformiad y cefndir a'r sefyllfa bresennol o ran contractau cartrefi gofal. Adroddodd am gywiriad i'r adroddiad, paragraff 4.11 - “Mae'r ymgysylltiad cychwynnol hwn yn cael ei ddilyn gan ddrafft terfynol a gaiff ei ddosbarthu ym mis Chwefror 2020” a ddylai ddarllen “Mawrth 2020”.  Esboniodd yr Atodlen Prisiau Cartrefi Gofal ar gyfer 2020/21, taliadau costau ychwanegol atodol ar gyfer trydydd partïon a sut mae cyfraddau 2019-20 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymharu â chyfartaleddau cenedlaethol. Adroddodd ynghylch y gofyniad i sefydlu a chynnal cronfa ranbarthol ar y cyd mewn perthynas â chyflawni eu swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n. Ychwanegodd fod cytundeb cronfa ar y cyd drafft sy'n seiliedig ar delerau'r trefniant Cwm Taf presennol wedi'i baratoi a'i fod yn destun adolygiad a chytundeb ar hyn o bryd.

 

Adroddodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod hwn yn adroddiad cynhwysfawr sy'n amlinellu'r hyn a gyflwynodd yr awdurdod a safle'r awdurdod yng Nghymru. Roedd angen cwrdd â phwysau cost gwerth £157,000 trwy'r adnoddau presennol a/neu drwy wneud arbedion effeithlonrwydd mewn mannau eraill o fewn y gyfarwyddiaeth. Roedd yn ddefnyddiol bod trefniadau cyllido ar y cyd ar waith a chyda chostau cynyddol ar gyfer darpariaeth gofal nyrsio, roedd yn rhaid iddynt nodi pa ofal oedd ar gael yn ychwanegol i'r 420 o leoliadau presennol.

 

Atebodd Rheolwr y Gr?p – Comisiynu Contractau a Pherfformiad eu bod yn adolygu lleoliadau ac yn ystyried gweithio gyda darparwyr cartrefi gofal ychwanegol.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd cronfa ar y cyd ar gael yn barod yng Nghwm Taf. Esboniodd Rheolwr y Gr?p – Comisiynu Contractau a Pherfformiad fod cronfa ar y cyd ar waith a bod y ddau awdurdod arall eisoes yn rhan ohoni. Roedd wedi mynychu rhai o'r cyfarfodydd yn barod felly roedd ganddo syniad da o sut roedd yn gweithio.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn ofynnol ledled Cymru bod pawb yn ymrwymo i drefniant ar y cyd. Nid oeddent wedi ymrwymo i drefniant ar y cyd eto oherwydd eu bod wrthi’n symud i Gwm Taf.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a oedd y rhestr o ddarparwyr gofal preswyl a nyrsio presennol a gynhwysir yn yr adroddiad yn rhestr ddiffiniol. Atebodd Rheolwr y Gr?p – Comisiynu Contractau a Pherfformiad ei bod yn rhestr o ddarparwyr achrededig a darparwyr sydd ar gontract. Os bydd y galw yn cynyddu, byddent yn edrych ar ymrwymo i gontractau os byddai angen.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am daliad premiwm ar gyfer darparwyr sy'n darparu lefel uwch o ofal a'r gydran Gofal Nyrsio a Ariennir (FNC). Esboniodd Rheolwr y Gr?p - Comisiynu Contractau a Pherfformiad fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ac yna amlinellodd y modd y cafodd ei gyfrifo a chadarnhaodd ei fod wedi cael ei gyllido. Ychwanegodd fod ymweliadau monitro cadarn ar waith a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda darparwyr gofal. Roedd systemau ar waith i atgyfeirio pryderon gan gynnwys atal derbyniadau pe bai angen.

 

PENDERFYNWYD:                Cabinet:

 

·      Rhoddwyd cymeradwyaeth i barhau â'r hawlildiad o dan Reol Gweithdrefn Contract 3.2.3, o'r gofyniad i dendro'n darpariaeth gwasanaethau cartrefi gofal preswyl a nyrsio yn gystadleuol am gyfnod o flwyddyn arall.

·      Rhoddwyd cymeradwyaeth i ymrwymo i gontractau newydd sy'n seiliedig ar y contract cyffredin a'r fanyleb y cytunwyd arnynt gyda darparwyr gofal preswyl a nyrsio presennol (Atodiad 1), ac i ymrwymo i gontractau gydag unrhyw ddarparwyr newydd a nodwyd gan yr Awdurdod Lleol, am gyfnod contract o flwyddyn.

·      Nodwyd y byddai Swyddogion yn ystod y cyfnod o flwyddyn hwnnw yn monitro effeithiolrwydd y telerau ac amodau cytundebol rhanbarthol newydd, yn cysylltu â darparwyr gwasanaethau achrededig presennol ac yn ystyried dichonoldeb sefydlu fframwaith hyblyg o ddarparwyr cartrefi gofal a gafaelir yn agored sy'n seiliedig ar delerau ac amodau'r contract a manyleb ranbarthol am gyfnod hirach.

·      Rhoddwyd cymeradwyaeth i weithredu a gwneud taliadau i gartrefi gofal yn erbyn Amserlen Prisiau Safonol ar gyfer Cartrefi Gofal ddiwygiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 - paragraff 4.22.

·      Dirprwyodd awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i drafod ac ymrwymo i Gytundeb Cronfa ar y Cyd a threfniadau ar gyfer swyddogaethau llety cartrefi gofal pobl h?n gyda phartneriaid rhanbarthol (Cwm Taf Morgannwg).

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z