Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar ddarparu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau’r Cyngor a gweithgareddau cysylltiedig. Ychwanegodd mai diben hyn hefyd oedd gofyn am gynigion ar gyfer unrhyw bynciau i’w cynnwys yn y rhaglen.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau, y Sesiynau Briffio Cyn-Gyngor a Sesiynau Hyfforddi’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 17 Hydref 2019. Rhestrwyd y rhain yn y tabl yn adrannau 4.1, 4.2 a 4.3 yr adroddiad.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y sesiynau briffio cyn-gyngor a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Sesiynau Hyfforddi’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i sesiwn hyfforddi gael ei threfnu ar Ddiogelu, ond nad oedd y dyddiad wedi’i gadarnhau eto.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y pwyllgor wedi cael gwybod am ddatblygiad modiwlau e-ddysgu cenedlaethol mewn cyfarfod blaenorol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn a disgwyliwyd iddo gael ei ddarparu ym mis Medi 2020.
Esboniodd fod nifer o gyrsiau e-ddysgu wedi cael eu darparu ers dechrau’r tymor presennol. Roedd y cyrsiau e-ddysgu canlynol wedi cael eu cwblhau gan aelodau:
Ychwanegodd fod dwy sesiwn galw heibio wedi cael eu trefnu, a hwyluswyd gan y Tîm Dysgu a Datblygu, i gynorthwyo Aelodau er mwyn eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o’r Modiwlau E-ddysgu sydd ar gael. Trefnwyd y sesiynau hyn rhwng 17 Mawrth ac 1 Ebrill 2020 yn yr Ystafell TG, Ravens Court, a gellid eu mynychu unrhyw bryd rhwng 9:30am a 3:00pm.
Gofynnodd Aelod a oedd modd manteisio ar y sesiynau hyn mewn man arall heblaw am swyddfeydd y Cyngor. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallent fanteisio ar y rhain o’u cartrefi eu hunain os oeddent yn dymuno.
Croesawodd Aelod y sesiynau hyfforddi gan nad oedd yn si?r pa fodiwlau yr oedd angen eu cwblhau. Gofynnodd hefyd a ellid ffonio Aelodau i gadarnhau eu bod yn gallu cyrchu’r Modiwlau E-ddysgu ac i’w cynorthwyo os oedd angen.
Dywedodd Aelod fod nifer o negeseuon e-bost sothach yn ymddangos yn y blwch negeseuon yn aml, sy’n llethu’r negeseuon dilys. Gofynnodd a oedd modd o gael gwared ar negeseuon e-bost o’r fath.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallent anfon unrhyw negeseuon e-bost sy’n cyrraedd eu blychau negeseuon ymlaen i’r adran TG a’u marcio fel negeseuon ‘sbam’. Trwy wneud hyn, byddent yn derbyn llai ohonynt ymhen amser.
Gofynnodd Aelod a ellid gofyn i’r holl Aelodau a oedd ganddynt unrhyw Sesiynau Datblygu Aelodau i’w hychwanegu fel nad oedd sesiynau hyfforddi gwerthfawr yn cael eu colli.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: