Agenda item

Gweddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau, ac yn rhoi safbwyntiau ar ba gyfarfodydd y dylid eu gweddarlledu.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr ystadegau gweddarlledu ar gyfer y blynyddoedd 2018/19 a 2019/20 a oedd yn dangos Gwylio’n Fyw, Gwylio Ar Gais, a Chyfanswm Gwylio ar gyfer pob cyfarfod a weddarlledwyd. Rhestrir y tablau ar gyfer y blynyddoedd unigol isod:

 

Gweddarlledu cyfarfodydd 2018/19

 

Dyddiad

Enw’r Cyfarfod

Gwylio’n Fyw

Gwylio Ar Gais

Cyfanswm Gwylio

1

30-Awst-18

Pwyllgor Rheoli Datblygu

38

51

89

2

17-Medi-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

11

131

142

3

16–Hyd-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

0

42

42

4

18-Hyd-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2

22

47

69

5

18-Rhag-18

Cabinet

27

31

58

6

03-Ion-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

10

28

38

7

14-Chwef-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

70

72

142

8

25-Chwef-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

6

10

16

9

18-Maw-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

10

32

42

10

19-Maw-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

55

120

175

Niferoedd Gwylio ar Gyfartaledd

25

56

81

Cyfanswm Niferoedd Gwylio

249

564

813

 

 

 

Gweddarlledu cyfarfodydd 2019/20

 

Dyddiad

Enw’r Cyfarfod

Gwylio’n Fyw

Gwylio Ar Gais

Cyfanswm Gwylio

1

29-Ebr-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

3

49

52

2

09-Mai-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

6

29

35

3

04-Meh-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

42

64

106

4

03-Gorff-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2

4

31

35

5

05Medi-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

15

52

67

6

13-Tach-19

Cabinet Arbennig

133

360

493

7

05-Rhag-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

3

18

21

8

16-Ion-20

Pwyllgor Rheoli Datblygu

17

23

40

9

27-Chwef-20

Pwyllgor Rheoli Datblygu

9

8

17

Niferoedd Gwylio ar Gyfartaledd

26

70

96

Cyfanswm Niferoedd Gwylio

232

634

866

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod amryw flaengynlluniau gwaith a rhaglenni gwaith pwyllgor wedi cael eu hadolygu gyda’r bwriad o gadarnhau pa gyfarfodydd y cynigir eu gweddarlledu yn ystod y tri mis nesaf. Ychwanegodd fod y cynigion wedi cael eu datblygu gan roi ystyriaeth i eitemau y tybiwyd eu bod o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd. Cynigiwyd gweddarlledu’r cyfarfodydd canlynol:

 

  • Cyfarfod Cyfunol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 a 2 – 19 Mawrth 2020 (Trefniadau Teithio Dysgwyr ac Addysg Ôl-16)
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 – 23 Mawrth 2020 (Gweithio Tuag at Ben-y-bont ar Ogwr Ddi-blastig)
  • Pwyllgor Rheoli Datblygu – 9 Ebrill 2020
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 – 27 Ebrill 2020 (Rheoli Gwastraff / Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu)
  •  

Esboniodd Aelod fod problem wedi codi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor lle’r oedd cyflwyniad Skype wedi’i drefnu gan unigolyn gwadd. Esboniodd nad oedd modd defnyddio Siambr y Cyngor ar gyfer y trefniant hwn ac y bu’n rhaid symud y cyfarfod i’r Ystafelloedd Pwyllgor, a achosodd oedi a dryswch. Gofynnodd a ellid ystyried datblygu system lle’r oedd modd i wahoddedigion a Chynghorwyr fynychu o bell. Ychwanegodd y dylai hyn fod yn flaenoriaeth yng ngoleuni deddfwriaeth newydd y llywodraeth.

 

Cytunodd Aelod â’r sylwadau uchod a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cyfrannu tuag at ariannu hyn gan y byddai Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn ei chael hi’n anodd talu’r costau sy’n gysylltiedig â hyn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

  • Yn nodi’r diweddariad ar y trefniadau ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau, fel y manylir yn adran 4 yr adroddiad
  • Yn gwneud sylwadau ar y rhestr o gyfarfodydd y cynigir eu gweddarlledu, fel y manylir yn adran 4.4.4 yr adroddiad, ac yn rhoi ei farn yngl?n â pha gyfarfodydd y dylid eu gweddarlledu yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: