Agenda item
Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020-21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, i hysbysu’r Cyngor o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2020/21.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybod am Adroddiad Atodol Drafft a gyhoeddwyd gan y Panel yn ymwneud ag ad-dalu Costau Gofal sy'n destun ymgynghori.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 yn darparu ar gyfer sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Hwn oedd deuddegfed Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r nawfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad). Ymestynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.
Dangoswyd penderfyniadau Adroddiad Blynyddol 2020 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodiad 2 yr adroddiad, er hwylustod.
Er bod cyllid y sector cyhoeddus yn parhau i gael ei gyfyngu, dywedodd bod y Panel o'r farn bod cyfiawnhad dros gynnydd yn y cyflog sylfaenol. Mae wedi penderfynu y bydd cynnydd o £350 y flwyddyn (sy'n cyfateb i 2.5%) yn weithredol o 1 Ebrill 2020 i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau prif gynghorau. Mae'r cynnydd arfaethedig i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau prif gynghorau yn cydnabod y dyletswyddau sylfaenol a ddisgwylir gan yr holl Aelodau Etholedig. Cynigiwyd cyflog sylfaenol o £14,218 yn 2020/2021 ar gyfer Aelodau Etholedig prif gynghorau. (Penderfyniad 1).
Penderfynodd y Panel na thelir unrhyw godiadau ychwanegol i ddeiliaid cyflogau uwch yn 2020-21. Derbyniodd yr aelodau godiad yn adroddiad blynyddol y llynedd a bydd deiliaid cyflogau uwch yn derbyn cynnydd yr elfen gyflog sylfaenol yn unig. Bydd y lefelau cyflog uwch yn 2020-21 ar gyfer aelodau prif gynghorau fel y nodir yn Nhabl 5, tudalen 17 yr adroddiad (mae Atodiad 1 yn cyfeirio at hyn). Mae'r Panel o'r farn mai'r rolau arwain a gweithredol sydd â'r atebolrwydd unigol mwyaf a bod maint y boblogaeth yn parhau i fod yn ffactor o bwys wrth ddylanwadu ar lefelau cyfrifoldeb ac felly mae'r defnydd o'r grwpiau poblogaeth wedi'i gadw. (Penderfyniad 2).
O ran yr Adroddiad Atodol Drafft, cynigiodd y Panel set o egwyddorion y dylid eu mabwysiadu gan yr holl awdurdodau perthnasol ac mae wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori yn gofyn am gyflwyno ymatebion i'r Panel erbyn 9 Ebrill 2020, cyn cyhoeddi'r Adroddiad terfynol. Mae'r adroddiad atodol drafft yn nodi cynigion y Panel ar gyfer ymgynghori, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 i'r adroddiad ac yn nodi'r isafswm y dylai'r awdurdodau ei wneud a sut y gellid gwneud hyn mewn perthynas ag Ad-dalu Costau Gofal. Pwrpas y cynnig yw galluogi pob aelod ac aelod cyfetholedig awdurdodau perthnasol i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol.
Eglurodd y Swyddog Monitro, bod yr adroddiad atodol drafft, wedi'i gylchredeg i Arweinwyr Gr?p ac y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Mawrth 2020, er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y set o egwyddorion ac ymateb i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn y dyddiad cau sef 9 Ebrill 2020.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cyngor yn nodi Adroddiad Panel Annibynnol Cymru 2020 ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn cymeradwyo:
· Mabwysiadu penderfyniadau perthnasol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a gynhwysir yn ei adroddiad (yn Atodiad 1);
· Y swyddi hynny (fel y dangosir yn Atodlen Dâl yr Aelodau diwygiedig yn Atodiad 4 i’r adroddiad), a fydd yn derbyn cyflog uwch/dinesig;
· Lefel y gydnabyddiaeth i’r Cyflogau Uwch a Dinesig (lle bo hynny'n briodol);
· Atodlen Dâl yr Aelodau diwygiedig yn Atodiad 4 i’r adroddiad a bod hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020;
· Bod Atodlen Dâl yr Aelodau yn cael ei diweddaru gydag unrhyw newidiadau i swyddi Cyflogau Uwch/Dinesig a wnaed wedi hynny gan y Cyngor yn ystod blwyddyn y cyngor 2020-21.
(2) Nododd y Cyngor ymhellach yr adroddiad atodol drafft (yn Atodiad 3 i'r adroddiad) ar gyfer Ad-dalu Costau Gofal a'r dyddiad cau o 9 Ebrill 2020 ar gyfer ymatebion.
Dogfennau ategol:
- 200311 IRP Annual Report, eitem 413. PDF 85 KB
- 200311 IRP Annual Report 2020 to 2021 Appendix 1, eitem 413. PDF 1 MB
- 200311 IRP Annual Report 2020 to 2021 Appendix 2 Determinations, eitem 413. PDF 75 KB
- 200311 IRP Supplementary Report Appendix 3, eitem 413. PDF 322 KB
- 200311 IRP Schedule of Remuneration 2020-21 without names Appendix 4, eitem 413. PDF 117 KB