Agenda item

Rhaglen Drawsnewid – Cyflymu Cyflymder y Newid ar gyfer Gwasanaethau Integredig (CCNGI)

Gwahoddedigion:

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd

 Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Andrew Thomas, Rheolwr Grwp , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Carmel Donovan, Rheolwr Grwp, Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Rhwydweithiau Cymunedol

Michelle King, Rheolwr Grwp, Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Adnodd Cymunedol

Heidi Bennett, Prif Weithredwr - BAVO

Kay Harries, Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau - BAVO

Anthony Hughes, Pennaeth Swyddfa Rheoli Rhaglen y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cofnodion:

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i'r Aelodau y byddai cyflwyniad byr. Tynnodd sylw'r Aelodau at dudalen 13 o'r adroddiad, ac yn arbennig 3.1, Cymru Iachach – Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cynllun wedi ei lunio o amgylch 'Y Nod Pedwarplyg' - pedair thema gysylltiedig.

 

Gwnaeth y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cymunedol Integredig – Rhwydweithiau Cymunedol – a’r Rheolwr Gr?p – Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol gyflwyno trosolwg o'r Rhaglen Drawsnewid.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i Aelodau, ar ôl clywed cyflwyniad am ehangu gwasanaethau, rwy'n gwybod y bydd pryderon o ran sut rydym yn ymdopi ar y funud a blaenoriaethau i gyflenwi'r gwasanaeth yn sgil argyfwng y coronafeirws sy'n bodoli eisoes. Byddwch yn ymwybodol fod y Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn cyfarfod yn ddyddiol wrth i'r mater newid yn ddyddiol a hynny'n llifo yn ôl i'r gwahanol Gyfarwyddiaethau. O ran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae gan yr holl dimau gynlluniau parhad busnes ac mae'r rheiny wedi cael eu diweddaru ac mae rheolwyr wedi cwmpasu eu staff a'r gr?p cleientiaid maent yn gweithio ag ef i edrych ar flaenoriaethau hanfodol, deall sefyllfaoedd teuluoedd, neu i'r rheiny sydd â rhwydweithiau prin o'u hamgylch, gydag unigolion.

 

Rydym wedi gwneud proffil ar symudedd staff a lle maent yn byw. Rhaglen hyfforddi llwybr cyflym, gwneud yn si?r bod gennym weithlu i barhau i gyflenwi – adeiladu ein gweithlu ac adleoli ein staff ar draws y cyngor a byddwn yn edrych ar adleoli staff y trydydd sector neu staff sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Gwnawn anelu i wahanu staff, lle bo hynny'n bosibl fel y gallant weithio gartref. Hefyd timau o staff ond wedi'u rhannu’n grwpiau llai, yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn naturiol, mae gwasanaethau gofal dydd a seibiant mewn cysylltiad â phobl ac yn edrych ar bwy sy’n defnyddio’r gwasanaeth gofal seibiant gyda dull cynlluniedig. Rydym yn gweithio drwy hyn yn drefnus, ac yn gynlluniedig, nid drwy ruthro. Mae gan gynghorau eu blaenoriaethau. Mae sicrwydd fod gennym gysylltiad agos a pherthynas dda gyda'n cydweithwyr iechyd a bydd cyfarfod am 2pm heddiw o ran cyfathrebu.

 

Cododd Aelod bryder mewn perthynas â sicrhau y byddai'r rhai sy'n dod i gysylltiad â phobl fregus neu h?n yn cael gwiriad DBS priodol, neu debyg, a gofynnodd a oedd dull cydgysylltiedig o wneud hyn?

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai dyma lle yr oedd cymunedau yn chwarae rhan flaenllaw gan na allwn blismona popeth, ond roedd yn deall pryder yr Aelod. Gwnaeth y Prif Weithredwr – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, gydnabod bod diogelu yn broblem. Eglurodd fod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, fel sefydliad, yn chwilio am bobl i gofrestru yn ffurfiol drwy'r wefan. Roeddynt hefyd yn cyhoeddi a chyfeirio at ganllawiau ac yn cysylltu pobl i grwpiau â strwythurau llywodraethu da ar waith.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gofrestrfa wirfoddoli yr oedd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei darparu a theimlodd fod  angen llinell gymorth ar y Cyngor. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod hyn yn rhan o Uchelgais 1, Pwynt Mynediad Cyffredin, a dyna oedd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Gofynnodd Aelod sut fyddai buddsoddiad £22.7 miliwn y Gronfa Drawsnewid yn cael ei ddosbarthu rhwng Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yng nghanol y newidiadau i'r ôl-troed rhanbarthol ar adeg y cynnig gwreiddiol, ar ôl bod yn rhan o Fae'r Gorllewin yn flaenorol. Eglurodd fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno eu cynnig eu hunain yn ychwanegol i'r cynnig gan Rhondda Cynon Taf a Merthyr fel rhan o Fwrdd Iechyd newydd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio gydag iechyd er mwyn sicrhau na fyddem dan anfantais, ond wedi'n halinio'n agos i'r hen Gwm Taf. Cyfeiriodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr Aelod at dudalen 23, 8.1 o'r ddogfen. Nododd y ffigur gwreiddiol o £6.673 miliwn a'r ffigur diwygiedig o ychydig dros £6 miliwn yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr. 

 

Nododd yr Aelod hefyd y ddwy raglen wahanol a gyflenwyd drwy Ben-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf/Merthyr a cheisiodd eglurhad ynghylch y gwahaniaeth rhwng y ddwy ardal i sicrhau bod integreiddio rhwng y gwaith o gyflenwi'r gwasanaeth yn unffurf. Eglurodd Pennaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fod Swyddfa Rheoli'r Rhaglen wedi cael ei sefydlu i gydlynu’r gwaith o gyflenwi'r rhaglen ledled y rhanbarth. Nododd y pum prosiect/tri phrosiect sydd wedi'u rhannu rhwng Rhondda Cynon Taf/Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr a'r angen i safoni ledled y rhanbarth. Nododd y sawl tebygrwydd rhwng y prosiectau a dull system gyfan. Roedd angen rhannu arferion da.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 20, a’r dyddiad mynd yn fyw sef Ebrill 2020 ar gyfer Uchelgais 2 - Un Pwynt Mynediad a gofynnodd a oedd hwn yn ddyddiad cychwyn realistig o ystyried y digwyddiadau parhaus presennol.  Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion na allai roi dyddiadau pendant o ran cynlluniau parhad, ond gwelir hyn fel blaenoriaeth.

 

Gofynnodd Aelod sut y byddai'r bwlch o safbwynt gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol yn cael ei lenwi a ph'un a fyddai adleoli yn llenwi’r bwlch hwn. Eglurodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cymunedol Integredig na cheisiwyd penodiadau drwy adleoli ond drwy benodiadau allanol yn hytrach.

 

Nododd Aelod fod y Sefydliad Gofal Cyhoeddus wedi cael ei benodi i gynnal gwerthusiad annibynnol o effaith y rhaglenni a ariennir gan grantiau ledled y rhanbarth a gofynnodd a fyddent yn edrych arnynt yn unffurf. Eglurodd Pennaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol na fyddai'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus yn gwerthuso'r wyth prosiect yn benodol, ond yn hytrach y dull thematig, a byddent yn gwneud adolygiad cynnydd cyflym. Dylai'r canlyniadau fod yr un peth ar gyfer y boblogaeth. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant eu bod yn anelu am yr un canlyniad ond na fyddem yn dymuno i Ben-y-bont ar Ogwr symud ar y cyflymder mwyaf araf. Rydym yn cyrraedd pwynt o gysondeb ledled y rhanbarth, ymateb ac egwyddorion rhanbarthol ond cyflenwi lleol.

 

Gofynnodd yr Aelod ymhellach, o ran gwasanaethau integredig, mae hyn wedi bod gennym am y chwe blynedd diwethaf, a gofynnodd beth fydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei roi i ni fel gwasanaethau ychwanegol. Eglurodd y Prif Weithredwr - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, fod yna ymateb gwydn cymunedol, gyda chymunedau yn cymryd rôl gefnogol. Eglurodd fod dau ddarn o waith roeddent yn eu cyflawni; dull cyfannol a llyw-wyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion a'u cysylltu â meddygon teulu a gwasanaethau mapio.

 

Gofynnodd Aelod pa mor wydn yw'r ffrwd gyllido ar gyfer llyw-wyr cymunedol. Eglurodd Prif Weithredwr – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr fod hwn yn ddull gorchwyl a gorffen. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a gobeithio y bydd lefel y gwydnwch cystal fel na fydd angen llyw-wyr arnom e.e. Model Frome.

 

Gofynnodd aelod am eglurhad ynghylch rôl cydlynwyr cymunedol. Cynghorodd y Rheolwr Gr?p - Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, y defnyddir dull haenog, a fyddai’n gofyn am dair rôl unigryw.  Yn gyntaf, mae’r adnodd cydlynydd cymunedol lleol yn cefnogi pobl sydd â lefelau uwch o anghenion a chymhlethdod, tra bod y rolau Llywiwr Cymunedol yn mynd i'r afael ag anghenion lefel is, gan gysylltu pobl â chymunedau a helpu i ddatblygu ac ehangu cyfleoedd cymorth cymunedol. Y drydedd rôl yw Adeiladwyr Rhwydwaith.

 

Nododd Aelod fod buddsoddiad y Gronfa Drawsnewid ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2021 a gofynnodd beth fyddai'n digwydd y tu hwnt i hyn.

Nododd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr angen i gyflawni cynaliadwyedd ariannol parhaus ar draws gofal cymdeithasol drwy ail-fuddsoddi arian yn yr hyn sy'n gweithio'n dda. Drwy werthuso beth sy'n gweithio'n dda rydym yn dargyfeirio arian o amgylch y system o gyfuniad o fuddsoddiad rheolaidd wedi’i glustnodi gan Lywodraeth Cymru a chostau y disgwylir iddynt gael eu rhyddhau o'r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

 

Nododd Aelod fod pobl h?n yn aml yn amharod i ofyn am wasanaethau.

Eglurodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaeth Cymunedol Integredig, fod popeth yn dod drwy un pwynt mynediad, ond os oes ganddynt wasanaethau gofal, y byddent yn cael eu hadolygu yn flynyddol o leiaf. Gallant gysylltu â ni ar unrhyw adeg i gael eu hadolygu. Amlygodd Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 ar dudalen 21 a chydnabyddodd ei bod yn bwysig cydnabod y bydd y tri uchelgais o fewn Trawsnewid yn cydweithio ar draws y rhaglen i gefnogi a galluogi'r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ynghylch y cynnydd mewn ymateb symudol. Eglurodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cymunedol Integredig – Rhwydweithiau Cymunedol, pan wnaethom sefydlu'r ymateb, fod Pen-y-bont ar Ogwr yn arweinydd yn cofrestru gofal cartref gyda 2600 o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio gwasanaethau ymateb symudol a theleofal. Gyda disgwyl i'r boblogaeth h?n gynyddu, er mwyn helpu pobl, sut ydyn ni wedyn yn bodloni'r galw cynyddol i roi gwydnwch i bobl yn eu cartref, fel y gallant fod yn hyderus y bydd rhywun yn galw heibio. Mae rhan o'r gwaith hwn yn datblygu hyder gartref; rhan o'r uchelgais oedd cynyddu'r ymateb hwnnw.

 

Gofynnodd Aelod a oedd tystiolaeth o arferion gorau wrth ddod â’r ddau fodel at ei gilydd.  Nododd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y rhaglen drawsnewid ledled Cymru yn debyg mewn rhanbarthau eraill gyda rhai addasiadau a'r hyblygrwydd i ymateb i anghenion cymunedau lleol. Ystyriwyd bod Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi arferion da ar waith o ran ein modelau, gan ddysgu oddi wrth eraill hefyd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol, mai un system gofal cymdeithasol ac iechyd sydd gennym ledled Cymru; gallai’r hyn sy'n gweithio'n dda mewn un ardal, gael ei gyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y cynllun yw y gwnawn ddysgu gan yr ardaloedd eraill. Rydym yn teimlo ein bod wedi dysgu o fodel gwasanaeth Torbay ac wedi cyrraedd y pwynt lle y byddem wedi mynd ychydig ymhellach. Gwnaeth Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hysbysu’r aelodau ei fod wedi mynychu nifer o Wasanaethau Partneriaeth – a saith ohonynt ar adegau gwahanol. Roedd am fynychu un arall eto ac roedd Pen-y-bont ar Ogwr dal yn yr un sefyllfa. Rydym yn ceisio cyrraedd yno ar sail gyfunol. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain llawer yn y maes hwn.

 

 

PENDERFYNWYD :    Bod y Pwyllgor wedi nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Rhaglen Drawsnewid Ranbarthol – Cyflymu Cyflymder y Newid ar gyfer Gwasanaethau Integredig.

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu adroddiad gwybodaeth ar gyfer monitro cynnydd y camau gweithredu ar y broses o gyflenwi'r amserlen ymhen chwe mis.

 

Dogfennau ategol: