Cofnodion:
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cais cynllunio uchod, yn amodol ar y canlynol:-
1) Bod yr ymgeisydd yn llunio Cytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniadau ariannol fel a ganlyn:
- swm o £8,000 i ariannu gorchmynion traffig cyfreithiol;
- swm o £60,000 (i’w dalu o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd) tuag at asesiad dichonoldeb o lwybr Teithio Llesol trwy Gwm Llynfi;
- swm o £20,000 i ariannu mesurau gostegu traffig porth yng Ngoetre-hen.
2) Bod y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn cael pwerau dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad sy’n rhoi caniatâd mewn perthynas â’r cynnig hwn pan fydd yr ymgeisydd wedi llunio’r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodau ac unrhyw Nodiadau a gynhwysir yn ei adroddiad a ddiwygiwyd fel y’u hamlinellir yn y Daflen Ddiwygiadau ac a fanylir isod.
Cynnig:
Ymestyn y gweithrediad presennol, gan gynnwys estyniad ar gyfer ardal paratoi stoc a pheiriant papur newydd, cyfleusterau trawsnewid a warws newydd ac adeiladau atodol.
Yn ddarostyngedig i’r canlynol, o ran yr Amodau yn Adroddiad y Swyddog:-
Nid oes angen Amod 8 gan fod y manylion wedi’u cynnwys gyda’r cais.
Ar ôl derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd, dylai Amod 14 ddarllen fel a ganlyn:
14.O fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd hwn, bydd Adroddiad Disgrifiad a Phroses diwygiedig ar gyfer y Prosiect yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau bod digon o gapasiti yn y Gwaith Trin D?r Gwastraff presennol i dderbyn y cynnydd mewn elifion masnach a llifoedd d?r brwnt. Bydd yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio mewn ffordd fuddiol, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Drwydded Amgylcheddol.
Dylai Amod 17 gynnwys cyfeiriad penodol at Gamau 2 a 3 y datblygiad o ganlyniad i leoliad nodweddion glofaol, a gellir ei ddiwygio fel a ganlyn:
17. Ar ôl gweithredu a chwblhau’r cynllun adfer cymeradwy ar gyfer camau 2 a 3 (sy’n ofynnol gan amod 16 uchod), a chyn i’r rhan honno o’r datblygiad gael ei defnyddio’n fuddiol am y tro cyntaf, bydd adroddiad dilysu yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig i gadarnhau bod y cynllun adfer wedi cael ei gwblhau yn unol â’r manylion cymeradwy.
Gellir diwygio Amod 18 fel a ganlyn:
18.Cyn i bob Cam o’r datblygiad gael ei weithredu uwchben lefel sylfeini/slab, bydd cynllun manwl yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a’i gytuno ganddo, i ddangos y bydd y gwerthoedd inswleiddio sain a ddefnyddiwyd yn y rhagfynegiadau modelu s?n yn adran 4.3 yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol – S?n 57100_0219_Asesiad S?n ar gyfer yr unedau caeëdig a’r adeiladau canlynol yn cael eu cyflawni:
• Bydd byrnwr Adran B wedi’i amgáu yn llwyr. Bydd uned gaeëdig byrnwr Adran B yn darparu gwerth inswleiddio sain (Rw) o 40dB(A) o leiaf
• Bydd pob elfen o waliau a tho Adran C yn darparu gwerth inswleiddio sain (Rw) o 50dB(A) o leiaf
• Bydd waliau a tho Adran F yn darparu gwerth inswleiddio sain (Rw) o 40dB(A) o leiaf
Bydd y cynllun cytunedig yn cael ei weithredu’n llawn a bydd gwerthoedd inswleiddio sain yr uned gaeëdig a’r adeiladau y cyfeirir atynt uchod yn cael eu cadw ar hyd oes y datblygiad.
Gellir diwygio Amod 20 fel a ganlyn:
20.Oni nodir fel arall, cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio’n fuddiol, bydd y mesurau lliniaru canlynol yn cael eu gweithredu’n llawn yn unol ag adran 5.2 yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol – S?n 57100_0219_Asesiad S?n:
• Cyn i Gam 3 y cynllun (Adeilad Storio Cilfachau Uchel) gael ei ddefnyddio’n fuddiol, bydd rhwystr acwstig 6m o uchder yn cael ei osod i sgrinio rhwng yr Adran F arfaethedig a Fferm Brynsiriol (Derbynnydd NSR02 yn yr adroddiad s?n), fel y dangosir ar gynllun llawr y rhwystr acwstig a Chynllun Trychiad Rhif: 51106-1005. Bydd y rhwystr yn ddi-fwlch ac yn amhydradwy. Bydd manylion dylunio’r rhwystr yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a’u cytuno ganddo, cyn iddo gael ei osod, gan gynnwys y math o rwystr, ei fàs a’r lefel wanhau y bydd yn ei darparu. Bydd y rhwystr acwstig yn cael ei gynnal a’i gadw ar hyd oes y datblygiad.
• Dim ond symudiadau HGV ‘Nwyddau Gorffenedig’ a ‘Phaledi’ a fydd yn digwydd rhwng 23.00 a 07.00 o’r gloch. Bydd gostyngiad 50% mewn symudiadau HGV oriau brig (fel y dangosir yn y golofn ‘Fesul Awr ar gyfer y Model’ yn Nhabl 2-12 yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol – S?n 57100_0219_Asesiad S?n) rhwng 23.00 a 07.00 o’r gloch.
• Rhwng 23.00 a 07.00 o’r gloch, ni fydd mwy nag un cerbyd ar y tro yn cael ei lwytho’n allanol, h.y. er y ceir parcio mwy nag un cerbyd ar gyfer llwytho, rhaid i ffynonellau s?n allanol a ddefnyddir ar gyfer llwytho sawl cerbyd beidio â gweithredu ar yr un pryd.
Dylai’r Rheswm dros Amod 28 yr adroddiad ddileu’r geiriau “i’r Ysgol ac oddi yno.”
Dogfennau ategol: