Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Alldro’r Gyllideb Refeniw 2019-20

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad ar berfformiad ariannol refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.  Rhoddodd hi wybod i’r Cabinet fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20.  Crynhodd yr alldro cyfan ar 31 Mawrth 2020, a ddangosodd danwariant net o £563,000, a drosglwyddwyd i Gronfa’r Cyngor, a oedd yn dod â’r balans i £9.339m yn unol ag Egwyddor 9 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod Cyfanswm cyllidebau Cyfarwyddiaethau wedi darparu tanwariant net o £1.765 miliwn a bod tanwariant net o £7.690 miliwn yng nghyllidebau’r Cyngor Cyfan, gyda’r gofyniad i ddarparu cronfeydd wrth gefn newydd, wedi’u neilltuo, ar gyfer amrywiaeth o ymrwymiadau gwariant a risgiau newydd yn y dyfodol i dalu costau penodol yn gwrthbwyso hynny.  Y prif reswm dros danwario £6.050 miliwn yn ‘Cyllidebau Corfforaethol Eraill’ yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori awdurdodau lleol y byddai cyllid grant ychwanegol yn cael ei ryddhau yn ystod 2019-20 i dalu’r cynnydd yng nghost pensiynau athrawon (£2,006,096), pensiynau’r gwasanaeth tân (£272,405), a chodiad cyflog athrawon (£343,701), y cyfan wedi’u hariannu’n llawn yn wreiddiol drwy’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid wybod i’r Cabinet fod y tanwariant yn cuddio’n sylweddol y pwysau cyllidebol sylfaenol yng nghyllidebau rhai gwasanaethau yr adroddwyd arnynt yn ystod y flwyddyn ac sy’n parhau o hyd, ym meysydd gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol a Chasglu a gwaredu gwastraff; mae nifer o ostyngiadau hanesyddol i’w cyllidebau heb eu gwireddu o hyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sefyllfa net hefyd yn cyfrif am incwm y dreth gyngor o £1.502m yn ystod y flwyddyn ariannol.  Un o’r prif resymau dros incwm cronnus y dreth gyngor oedd oherwydd cyfuniad o ddileu’r gostyngiad a’r Strategaeth Eiddo Gwag, sydd wedi cael effaith arwyddocaol.  Mae eiddo ychwanegol a adeiladwyd yn ystod 2019-20 wedi cyfrannu hefyd at incwm cronnus y dreth gyngor. 

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid y sefyllfa o ran monitro cynigion i ostwng cyllidebau; o’r cynigion cyllidebol gwerth £2.342m sy’n weddill, roedd £1.883m wedi’i wireddu, gan adael balans o £459,000.  O’r cynigion i ostwng cyllidebau ar gyfer 2019-20, sef cyfanswm o £7.621m, rhoddodd wybod i’r Cabinet fod targed o £806,000 yn brin.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid sylw ar y sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2020, gan amlygu’r gwahaniaethau mwyaf sylweddol.  Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid  wybod i’r Cabinet am yr hyn sy’n ansicr yng nghyllidebau eraill y Cyngor cyfan ac effaith ariannol pandemig Covid-19 ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2020-21; bydd unrhyw gyllid sy’n weddill o gyllidebau’r cyngor cyfan yn cael eu dwyn ymlaen i ateb pwysau.  Crëwyd cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi yn gysylltiedig â covid-19 o £3m ar ddiwedd y flwyddyn, a phan fyddwn yn fwy siwr o’r sefyllfa ariannol ar gyfer 2020-21, bydd unrhyw danwariant rheolaidd posibl yn cael ei ystyried er arbedion yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn y dyfodol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar sefyllfa cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi y Cyngor er mwyn bodloni anghenion y sefydliad; cyfanswm y rhain yw £8.3m. 

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiadau am y tanwariant net a rhoddodd wybod i’r Cabinet ei fod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol i dalu’r cynnydd yng nghost pensiynau athrawon, pensiynau’r gwasanaeth tân a chodiad cyflog athrawon.  Mynegodd bryder am y gostyngiad yng ngweddillion ysgolion yn ystod 2019-20.  Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid wybod i’r Cabinet fod cyllidebau ysgolion yn cael eu monitro trwy gydol y flwyddyn ac y caiff ysgolion gymorth i adfer eu sefyllfa ariannol.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wybod i’r Cabinet fod cynllun adfer yn cael ei roi ar waith os aiff ysgolion i sefyllfa ariannol heriol. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol wybod i’r Cabinet ei bod yn falch o weld bod 866 o dai gwag wedi’u hadfer i’w defnyddio eto o ganlyniad i roi’r strategaeth eiddo gwag ar waith.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Tîm Cyllid am y ffordd ofalus y caiff cyllid y Cyngor ei reoli.  Amlygodd pa mor bwysig oedd hi fod gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn, sy’n galluogi’r Cyngor i allu ymateb yn ystwyth i bwysau.  Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru’n ad-dalu gwariant y Cyngor yn ystod y pandemig iddo.

 

PENDERFYNWYD: Nododd y Cabinet sefyllfa’r alldro refeniw ar gyfer 2019-20.           

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z