Agenda item

Cynllun Adfer Economaidd Lleol

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i ddechrau ar broses Cynllunio Adfer Economaidd Lleol, rhoi Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar waith a nodi’r cyllid sydd ar gael i gefnogi ‘Cronfa Dyfodol Economaidd’.

 

Dywedodd fod llawer o gyfyngiadau wedi’u rhoi ar waith yn gysylltiedig â gweithgarwch cymdeithas a’r economi o ganlyniad i’r coronafeirws a’r ‘cyfyngiadau symud’ cenedlaethol dilynol.  Dywedodd fod Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ‘Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi’ yn amlinellu methodoleg glir a strwythuredig ar gyfer ystyried opsiynau i symud yr economi a chymdeithas yn eu blaen o’r cyfyngiadau presennol sydd ar waith.  Dywedodd wrth y Cabinet fod y Fwrdeistref Sirol yn cael ei hun mewn sefyllfa ddigynsail, gyda newid cyson yn digwydd yn gyflym, a bod arweiniad gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn datblygu gyda’r sefyllfa ac y bydd yn parhau i wneud dros y misoedd ac, o bosibl, y blynyddoedd i ddod.  Dywedodd fod y Cyngor wedi chwarae rhan allweddol yn hwyluso, yn cydlynu ac yn arwain y trefniadau angenrheidiol ar gyfer delio ag effaith yr achosion o’r coronafeirws ar gymunedau a busnesau. 

 

Adroddodd fod proses o Gynllunio Adfer Economaidd Lleol wedi’i gosod yn y cyd-destun hwn yn cyflwyno amrywiaeth eang o heriau, ac er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid wedi cydweithio hyd yn hyn i gyflwyno amrywiaeth eang o ymatebion i’r achosion o coronafeirws, roedd llawer o hyn wedi bod yn ymatebion tymor byr.  Byddai angen o hyd am y gallu i ymateb, ar y cyd ag ymagwedd ragweithiol tymor hwy at Gynllunio Adfer Economaidd Lleol, a byddai’r ymagwedd hon yn cael ei chysylltu ag ymagwedd ehangach y Cyngor tuag at Gynllunio Adfer holistig. 

 

Amlinellodd gynnig ar gyfer dechrau’r broses o Gynllunio Adfer Economaidd Lleol trwy roi’r canlynol ar waith:

 

·         Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

·         Rhaglen ymgysylltu economaidd

·         Cyllideb benodol wedi’i chlustnodi i gefnogi’r gweithgareddau hyn – y Gronfa Dyfodol Economaidd.

 

Yr Arweinydd fyddai’n cadeirio’r Tasglu a byddai’n adeiladu ar, ac yn ychwanegu gwerth at, gamau gweithredu wedi’u cymryd gan Lywodraethau Cymru a’r DU a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a’r Tasglu fyddai yn y sefyllfa orau i sicrhau cyllid a chyfleoedd i Ben-y-bont ar Ogwr trwy nodi a gweithredu’r mesurau penodol a lleol y mae eu hangen i gefnogi preswylwyr a busnesau’r Cyngor yn y tymor byr, canolig a hir.  Dywedodd y bydd y tasglu’n datblygu cynllun economaidd ar gyfer dyfodol y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn cynnwys camau i helpu busnesau i addasu i’r tirlun economaidd sy’n newid a gwella gwydnwch, ynghyd â chefnogaeth i breswylwyr ddatblygu sgiliau newydd, a chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.  Bydd gwaith yn cyd-fynd â gr?p Cynllunio Adfer Strategol y Cyngor ac yn cyfrannu ato.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet y byddai Cronfa Dyfodol Economaidd o £1.687 miliwn yn cefnogi rhoi camau gweithredu â blaenoriaeth y tasglu ar waith a chyflwyno cynllun economaidd y dyfodol.  Pan fyddai cyllid allanol yn cael ei gynnig, dywedodd na fyddai hwn yn cael ei dderbyn hyd nes bod y Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio yn fodlon bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu cydymffurfio â’r holl delerau, amodau a gofynion cyfreithiol cysylltiedig a rheolau gweithdrefnau grant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wrth ganmol y cynigion, diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i’r Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd a’r tîm am eu cymorth i fusnesau lleol.  Hefyd, diolchodd yr Arweinydd i’r tîm am y ffordd yr oeddent wedi ymateb i fusnesau ac roedd yn gobeithio y byddai’r Gronfa Dyfodol Economaidd yn denu buddsoddiad.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet

 

  • Yn cymeradwyo creu Tasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr, dan gadeiryddiaeth Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
  • Yn cymeradwyo datblygiad rhaglen ymgysylltu economaidd;

Yn nodi y byddai cymeradwyaeth cyfalaf gan y Gronfa Dyfodol Economaidd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor i’w gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

Dogfennau ategol: