Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyraniad grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau ailgylchu Cynnyrch Hylendid Amsugnol, atal Rheolau Gweithdrefnau Contract perthnasol y Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gweithrediadau – Cymunedau gydweithio â Kier i brynu cerbydau ac offer er mwyn cefnogi’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol.
Esboniodd fod y Cyngor, tra’n caffael contract gwastraff y Cyngor yn 2017, wedi cyflwyno casgliad ar wahân ar ochr y ffordd ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol a’u hailgylchu. Dywedodd fod hwn wedi bod yn wasanaeth poblogaidd ers ei gyflwyno a bod 1,187 tunnell fetrig o’r gwastraff hwn wedi’i atal rhag mynd i dirlenwi yn 2019-20. Ar hyn o bryd, roedd gan y gwasanaeth tua 7,000 o ddefnyddwyr cofrestredig ar ddiwedd Mai 2020, ac roedd y gwasanaeth yn cael ei reoli’n rheolaidd i osgoi ymweliadau diangen â phobl nad oes arnynt angen y gwasanaeth hwn mwyach.
Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol cynaliadwy i gynifer o bobl ledled Cymru â phosibl, trwy gyllid cyfalaf Awdurdodau Lleol ar gyfer offer a thrwy ystyried atebion triniaeth yn y dyfodol ar gyfer ailgylchu’r cynnyrch hwn. Roedd manylion pellach i’w gweld yn adran 3 yr adroddiad.
Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor wedi ymgymryd ag ymarfer marchnad feddal i bennu p’un a ellid prynu’r cerbydau arbenigol gofynnol am bris tebyg i’r cerbydau yr oedd Kier Environmental Services yn eu caffael. Trwy’r ymarfer hwn, ymddengys fod cynnydd mewn costau o oddeutu £5000 y cerbyd, o gymharu â’r costau a drafodwyd gan Kier.
Ceisiodd awdurdod dirprwyedig i gysylltu â Kier i brynu dau gerbyd ar gyfer Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac y byddai’r cerbydau’n aros ym mherchenogaeth y Cyngor. Ond, Kier fyddai’n cynnal diogelwch ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw’r cerbydau trwy gydol cyfnod y contract. Ar ddiwedd cyfnod y contract, byddai’r cerbydau’n cael eu dychwelyd i’r Cyngor a byddai’r Cyngor yn elwa o ostyngiad ariannol yng nghost flynyddol y contract ar gyfer yr eitemau hyn a byddai hyn yn gofyn am amrywiad i’r contract gwastraff presennol.
Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod Canolfan Ailgylchu Cymunedol a Gorsaf Drosglwyddo Tondu yn gweithredu o dan drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn ystod 2019, arolygodd CNC y safleoedd a rhoi cyfarwyddyd am waith gwella draenio er mwyn caniatáu i’r ardaloedd storio allanol barhau i gael eu defnyddio. Mewn ymdrech i gyfyngu risg cyfyngiadau gan CNC, rhoddodd Kier gyfarwyddyd ar unwaith i gontractwr osod a thrwsio’r draenio ar y safleoedd hyn.
Ychwanegodd fod y Cyngor yn gosod Canolfan Ailgylchu Cymunedol a Gorsaf Drosglwyddo Tondu ar brydles i Kier a bod y brydles yn gosod ymrwymiad ‘cynnal a chadw a thrwsio’ ar Kier. Fodd bynnag, cydnabu’r gwasanaeth fod y gwaith draenio hwn yn mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn a bod yr addasiadau hyn o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth CNC i wella safonau gweithrediadau safle. Byddai’r gwaith draenio hwn yn caniatáu am barhau i ddefnyddio’r tir i reoli gwastraff, y tu hwnt i ddiwedd cyfnod y contract. Dywedodd fod Kier wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am y gwaith gwella a’u bod wedi gofyn am gyfraniad tuag at y costau gan fod y gwelliannau hyn yn caniatáu mwy o ddefnydd o ardaloedd y safle i storio, a’u bod yn amddiffyn rhag risgiau halogi o storio Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Ychwanegodd fod argymhelliad bod y Cyngor yn cyfrannu £29,877.29, sy’n cyfateb i oddeutu 60% o werth y gwaith.
Ac yntau’n canmol yr adroddiad, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant i ariannu’r gwasanaeth yn llawn a’i fod yn dangos ymrwymiad ganddynt i gynnig ateb rhanbarthol i reoli problemau gwastraff.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gweithrediadau – Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio, i gytuno ar delerau gweithred amrywio’r contract gwastraff gyda Kier a threfnu cyflawni’r weithred amrywio ar ran y Cyngor, yn amodol ar arfer y cyfryw awdurdod dirprwyedig mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio.
Dogfennau ategol: