Agenda item

Darparu Gwasanaethau Diogelwch Traethau a Dŵr mewn Partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar ddarparu gwasanaethau Diogelwch Traethau a D?r gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn 2020 yn dilyn yr achosion o’r Coronafeirws. Hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu trefniant partneriaeth hirdymor newydd gyda’r RNLI i gynnal gwasanaeth tymhorol achub bywydau ar draethau lleol a, thrwy wneud hynny, ceisio hawlildiad o dan baragraff 3.2.3 Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor o’r gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau trwy gystadleuaeth agored a chytundeb i lunio contract gyda’r RNLI.

 

Esboniodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod y Coronafeirws wedi cael effaith sylfaenol ar gyflwyno gwasanaethau yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn ymgymryd â nhw yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud yn genedlaethol. Darparwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr  a staff yr RNLI, dros yr wythnosau diwethaf, wedi cymryd rhan mewn proses bedwar cam i bennu lefel gwasanaeth sy’n ymarferol ac yn ddiogel. Rhestrwyd y pedwar cam yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod cynllunio ar gyfer darpariaeth 2020 wedi dod o dan ddylanwad:

 

  • Y cyfnod rhybudd cyn diwygio cyfyngiadau’r Llywodraeth
  • Gallu ac argaeledd achubwyr bywyd i’w defnyddio ac, mewn ambell achos, eu hyfforddi ar fyr rybudd
  • Y logisteg gyffredinol sy’n ofynnol i gynnal gwasanaeth effeithiol
  • Proffil risg y traeth (sydd, efallai, wedi newid yn sgil cyfyngiadau ar deithio a gofynion cadw pellter cymdeithasol)
  • Data achub hanesyddol
  • Adolygu pa seilwaith sydd eisoes yn ei le ac ymhle’r oedd y bylchau.

 

Esboniodd fod swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r RNLI wedi dod i gytundeb ynghylch darparu gwasanaethau diogelwch traethau a d?r ar gyfer tymor yr haf 2020.  Roedd y ddarpariaeth a lansiwyd yn cynnwys y canlynol, a oedd yn destun monitro ac y gallai newid:

 

· Bae Rest: 20 Mehefin gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen.

· Traeth Coney/Sandy Bay: 4 Gorffennaf gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen.

· Bae Trecco: 4 Gorffennaf gyda 6 Medi yn ddyddiad gorffen (yn amodol ar gadarnhad cyllid gan barc gwyliau Parkdean ym Mae Trecco)

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd mai’r cynnig, felly, oedd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r RNLI yn dod i gytundeb partneriaeth tair blynedd newydd i weithredu gwasanaethau tymhorol i achub bywydau ar draethau Porthcawl, yn dechrau yn 2021.  Esboniodd y cyfraniad cyllid craidd o £38,000 y flwyddyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac y byddid yn ceisio cyllid ychwanegol oddi wrth randdeiliaid allweddol er mwyn cynyddu lefel yr adnodd sydd ar gael. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd am yr adroddiad a’r gwaith ar y gwasanaeth hanfodol hwn.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Aelodau’r Cabinet yn pryderu am effaith cyni ar wasanaeth y badau achub a’u bod yn pryderu y byddai angen gwneud arbedion yn y maes hwn, ond roedd y cytundebau a wnaed ar y pryd gyda’r RNLI yn rhyddhad mawr ac, felly, roeddent yn cefnogi’r cytundeb newydd hwn.  Ychwanegodd fod llawer o fusnesau ar lan y môr yn elwa o’r gwasanaethau a ddarparwyd ac yn cyfrannu tuag at gadw’r gwasanaethau hyn i fynd, a’i fod yn gobeithio y byddai’r cyfraniadau hyn yn parhau.

 

Hefyd, ychwanegodd fod y sawl sy’n cynnal Ysgol Syrffio Porthcawl wedi sôn, mewn cyfarfod diweddar ar reoli cyrchfannau, y gallem fod yn defnyddio fwy ar achubwyr bywyd gwirfoddol felly gallai fod yn werth mynd ar drywydd hynny ar gyfer ardaloedd penodol o’r arfordir nad oeddent yn cael eu staffio cymaint neu nad oedd ganddynt oruchwyliaeth y tu allan i oriau.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr RNLI mewn sefyllfa arbennig o anodd gan eu bod yn dibynnu’n helaeth ar roddion elusennol a gweithgareddau codi arian, yn hytrach na grantiau Llywodraeth Cymru.  Ychwanegodd ei fod yn falch bod y Cyngor yn parhau i weithio gyda Chyngor Tref Porthcawl, ynghyd â Parkdean, a thalodd deyrnged i’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yng ngorsafoedd y badau achub.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  1. Yn nodi’r broses yr ymgymerodd swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r RNLI â hi i bennu lefel y gwasanaeth diogelwch traethau a d?r a gyhoeddwyd cyn lansio’r gwasanaeth ar 20 Mehefin 2020 a’r broses fonitro gyfredol.

 

Yn awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau i orffen y trafodaethau gyda’r RNLI a dod i gytundeb partneriaeth tair blynedd a chytundeb lefel gwasanaeth cysylltiedig gyda’r RNLI a, thrwy wneud hynny, roedd yn cytuno ar hawlildiad o dan baragraff 3.2.2 Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor.

Dogfennau ategol: