Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cynllunio ar gyfer Adfer yn sgil Effaith COVID-19

Cofnodion:

Ceisiodd y Prif Weithredwr gymeradwyaeth ar gyfer dull arfaethedig o gynllunio ar gyfer adfer yn sgil pandemig a rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y Panel Adfer trawsbleidiol arfaethedig, yr adroddir ac y cytunir ar ei fanylion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, ac y bydd yn helpu i lywio, hysbysu a chynghori’r Cabinet ar ymateb y Cyngor a’i gynllun adfer.

 

Adroddodd fod Llywodraeth y DU, ar 23 Mawrth, wedi gosod cyfyngiadau cenedlaethol ar symud mewn ymateb i bandemig byd-eang COVID-19 mewn ymdrech i helpu gostwng lledaeniad y coronafeirws ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y Cyngor wedi bod trwy newid mawr dros y tri mis diwethaf, yn aml yn ymateb ar frys i newidiadau mewn amgylchiadau, canllawiau a rheoliadau.  Dywedodd fod gwasanaethau wedi’u creu, rhai gwasanaethau wedi’u hatal, staff wedi’u hadleoli ac arferion gweithio newydd wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys galluogi pobl sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny.  Dywedodd fod y ffocws wedi bod ar gyflwyno gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i’r bobl fwyaf agored i niwed yng nghymunedau’r Cyngor, ac ar geisio atal lledaeniad y firws er mwyn achub bywydau.  Byddai angen i lawer o’r newidiadau barhau y tu hwnt i gyfnod hwn yr argyfwng ac, o bosibl, ddod yn rhan o’r ‘normal newydd’ i’r Cyngor. 

 

Hefyd, oherwydd cyflymder a difrifoldeb y newidiadau yr oedd eu hangen, dywedodd fod trefniadau llywodraethu brys wedi’u rhoi ar waith yn unol â chyfansoddiad y Cyngor a’i gynllun dirprwyo er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr ymateb yn briodol i faterion brys ac, yn aml, critigol.  Dywedodd fod cyfarfod rheoli ‘Aur’ brys y Cabinet/Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CCMB) wedi’i sefydlu’n ddyddiol, ac yn hysbysu’r cyfarfodydd hyn yr oedd Adroddiadau Sefyllfa Dyddiol ac, yn ddiweddarach, Adroddiadau Sefyllfa Wythnosol gan bob Cyfarwyddiaeth yn amlinellu risgiau a phroblemau allweddol a materion yr oedd angen penderfynu arnynt.  Roedd penderfyniadau ffurfiol wythnosol wedi’u dosbarthu trwy gydol y cyfnod hwn i Arweinwyr Gr?p a Chadeiryddion Craffu.  Yn ogystal, darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad dyddiol i Arweinydd y gr?p mwyaf nad yw’n gr?p gweinyddol a chynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol gyda holl arweinwyr y grwpiau gwleidyddol a’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr, i sicrhau bod aelodau etholedig yn cael eu hysbysu a’u cynnwys cymaint â phosibl yn yr amgylchiadau eithriadol.

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod ymateb y staff wedi bod yn eithriadol er mwyn parhau i gyflwyno gwasanaethau hanfodol yn effeithiol. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, parhawyd i gyflwyno gwasanaethau rheng flaen hanfodol ond mewn ffyrdd gwahanol, a chafodd perthynas waith gadarn gyda Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a’r trydydd sector ei datblygu a’i gwella.  Dywedodd fod gofal cymdeithasol, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a’r ganolfan cyswllt cwsmeriaid wedi cydweithio i ddarparu cymorth i unigolion a warchodir.  Darparwyd darpariaeth gofal plant brys mewn canolfannau i blant gweithwyr allweddol, a bu’n rhaid i’r gwasanaeth arlwyo fynd ati’n gyflym i gynllunio a threfnu bod prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu.  Cydnabu gymorth rhagorol gwasanaethau llai gweladwy wrth ymateb yn gyflym i ddosbarthu grantiau i gefnogi busnesau lleol, gofal cwsmeriaid, timau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a, hefyd, mewn timau gwastraff a strydoedd glanach, cofrestreion, mynwentydd ac amlosgfeydd, datblygu economaidd ac adfywio, tai, glanhau, eiddo, cynllunio, trafnidiaeth, cyfreithiol, caffael a chyd-wasanaethau rheoleiddio.  Dywedodd fod y dull ‘Un Cyngor’ wedi bod yn amlwg iawn dros y tri mis diwethaf, yn y ffordd yr oedd pob Cyfarwyddiaeth a maes gwasanaeth wedi cefnogi ei gilydd a, hefyd, yn y ffordd y bu cefnogaeth drawsbleidiol, helaeth, i’r mesurau y bu’n rhaid i’r Cyngor ymgymryd â nhw. 

 

Amlygodd y mesurau y bu’n ofynnol wrth lacio’r cyfyngiadau a’r cyfnod cloi, a’r heriau ychwanegol y mae angen mynd i’r afael a nhw, sydd wedi golygu y bu’n rhaid i’r Cyngor baratoi i ailddechrau ac addasu amrywiaeth fawr o wasanaethau’r Cyngor yng nghyd-destun gofynion caeth, estynedig i gadw pellter cymdeithasol.  Cynigiwyd defnyddio fframwaith cynllunio yn amlinellu sut ac, yn ddelfrydol, pryd y gall gwasanaethau ailddechrau, adfer ac adnewyddu.  Yng nghyd-destun Ailddechrau, mae hyn yn perthyn yn bennaf i’r camau y mae’n rhaid eu cymryd ar unwaith i ailddechrau gwasanaethau. Dywedodd fod cam Adfer y fframwaith cynllunio yn galw am ymateb strategol er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i ddod drwy’r argyfwng a’i fod yn debygol o ganolbwyntio ar y deuddeg i ddeunaw mis nesaf. Bydd hyn yn galw am ailosod Cyllideb 2020-21 a gosod Strategaeth Cyllideb 2021-22 yng nghyd-destun ffocws ‘Adfer’ ac ‘Adnewyddu’, gyda goblygiadau o ran refeniw a chyfalaf, ail-flaenoriaethu cyllid presennol y Cyngor, ac ymyriadau strategol ar gyfer meysydd gwasanaeth allweddol/â blaenoriaeth.  Bydd y cam Adnewyddu yn cynnwys datblygu strategaeth ar gyfer y ‘normal newydd’ a model gweithredu newydd i’r Cyngor ar gyfer y pump i ddeng mlynedd nesaf, a bydd angen ei datblygu’n raddol dros y 18 mis nesaf.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr y camau nesaf i gynnal y momentwm, sef: Ailddechrau: - Ymateb yn syth i’r materion/blaenoriaethau critigol a amlygwyd; mae cynllunio gweithredol i symud o fodel gwasanaethau hanfodol wrthi’n cael ei gwblhau nawr.  Adfer: sefydlu Panel Adfer yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i helpu llywio, hysbysu a chynghori ar gynllunio’r Cyngor ar gyfer adfer; datblygu Adroddiad Adfer Integredig ar sail gwybodaeth y meysydd gwasanaeth y dylid ei chyflwyno erbyn diwedd Gorffennaf 2020.  Datblygu Strategaeth Cyllideb a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig diwygiedig, a Chynllun corfforaethol ac asesiad risg corfforaethol 2020/21 wedi’u haddasu a’u hailgymhwyso erbyn Medi 2020.  Adnewyddu - Gweithio i ddechrau rhaglen ymgysylltu gyda phartneriaid, aelodau, staff a dinasyddion dros yr haf a’r hydref, ac asesu’r Asesiad arfaethedig o’r Effaith ar y Gymuned sydd i’w gynnal gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dechrau datblygu fframwaith polisi newydd a chynllun corfforaethol newydd ar sail sut olwg y bydd angen iddo fod ar y normal newydd er mwyn i’r Cyngor gyflwyno gwasanaethau cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer y 5-10 mlynedd nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol sut mae’r risgiau a’r blaenoriaethau wedi’u hamlygu.  Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Cabinet fod asesiad wedi’i wneud ar sail gorfforaethol a risgiau newydd tybiedig twyll seiber digidol ac ymosodiadau ar systemau TG.  Dywedodd fod y Cyngor yn cefnogi pobl agored i niwed, gan ystyried gwydnwch economaidd a chymunedol.  Gofynnwyd i Gyfarwyddwyr adolygu risgiau Cyfarwyddiaethau ac, yn fwy diweddar, bu’n rhaid yn awr i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddod o hyd i ardal storio Cyfarpar Diogelu Personol, na fu angen gwneud hynny yn flaenorol. 

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw am bwysigrwydd rôl y Panel Adfer yn y broses adfer a mynegodd bryder ynghylch p’un a fyddai Llywodraeth Cymru yn ad-dalu gwariant y Cyngor yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.  Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Cabinet ei fod yn ystyried bod y Panel Adfer yn debyg i Banel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb, a byddai’n galw cynrychiolwyr arweinwyr busnes a’r fforwm busnes ato fel y bo’n briodol.  Ystyriodd y byddai’r Panel Adfer yn adrodd ei ganfyddiadau a’i argymhellion i’r Cabinet. 

 

Croesawodd yr Arweinydd gynnwys yr Aelodau yn y Panel Adfer a phwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi fod y Cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet:

 

                                       Yn nodi ac yn cymeradwyo’r dull arfaethedig a amlinellir yng nghorff yr adroddiad i ymateb i bandemig COVID-19 a chaniatáu i’r Cyngor ailddechrau, adfer ac adnewyddu ei ddarpariaeth gwasanaethau;

 

                                       Yn nodi sefydlu Panel Adfer trawsbleidiol, gydag aelodau etholedig, i helpu llywio, hysbysu a chynghori’r Cabinet ar gynllunio’r Cyngor ar gyfer adfer. Dylai’r pwyllgor Trosolwg a Chraffu, ar 13 Gorffennaf, gael adroddiad yn cynnig manylion y sawl a ddylai gymryd rhan yn y panel a’i gylch gorchwyl.           

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z