Agenda item

Gofal Cymdeithasol Plant – Trefniadau Mabwysiadu Rhanbarthol: Gwerthuso Opsiynau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad yn hysbysu’r Cabinet am ganlyniad y gwerthusiad annibynnol o’r trefniadau mabwysiadu rhanbarthol presennol a’u priodoldeb yn sgil creu Partneriaeth Ranbarthol newydd Cwm Taf Morgannwg.  Hefyd, ceisiodd hi gymeradwyaeth gan y Cabinet i fwrw ymlaen â’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ers 1 Ebrill 2019, wedi’u darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fel bod penderfyniadau yn cyd-fynd ar draws iechyd a llywodraeth leol.

 

Ychwanegodd fod y newidiadau i’r ffiniau wedi effeithio ar nifer o wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er nad oedd y tarfu ar wasanaethau cyffredinol efallai wedi bod mor arwyddocaol â’r tarfu ar y Byrddau Iechyd.  Esboniodd fod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr angen gwerthusiad trylwyr o’r trefniadau mabwysiadu rhanbarthol cydweithredol presennol o gymharu ag opsiynau eraill, oherwydd y trosglwyddiad.  Mae’r opsiynau i’w gwerthuso wedi’u crynhoi isod:

 

Opsiwn 1: Parhau â’r trefniadau cydweithredol rhanbarthol presennol h.y. bod Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn aros yn rhan o Ranbarth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros yn rhan o Ranbarth Bae’r Gorllewin gynt (Gorllewin Morgannwg bellach).

 

Opsiwn 2: Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gadael cydweithrediad rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ac yn ymuno â chydweithrediad rhanbarthol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.

 

Opsiwn 3: Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn creu Cydweithrediad (Mabwysiadu) Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod y prosiect wedi’i gynnal yn ystod misoedd Hydref i Ragfyr 2019 a’i fod yn cynnwys cyfres o gyfweliadau wyneb yn wyneb gydag unigolion a grwpiau bychain, gweithdy gyda staff o’r tîm rhanbarthol presennol, galwadau cynadledda a darllen a dadansoddi nifer o ddogfennau.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr ystyrid y byddai angen i’r trefniadau presennol, o safbwynt cyflwyno gwasanaethau, barhau yn y tymor canolig o leiaf, ond er hynny, roedd hyn eisoes wedi ac y byddai’n parhau i beri rhai heriau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran ei drefniadau partneriaeth a chynllunio strategol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i’r cyfarwyddwr corfforaethol am yr adroddiad cynhwysfawr a chroesawodd yr argymhellion. Dywedodd fod y penderfyniadau wrth edrych at y dyfodol yn synhwyrol iawn i’r gwasanaeth mabwysiadu ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Ychwanegodd y byddem yn parhau i weithio tuag at alinio ymhellach o fewn rhanbarthau’r byrddau iechyd ac o ran y gwaith y gwna’r Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pwysigrwydd ac angen mawr i bobl fabwysiad plant mewn gofal ac, er ei bod yn broses hir, roedd yn broses drylwyr gan fod dyletswydd gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tuag at y plant hyn. 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol fel y’u rhestrir yn Atodiad 1:

 

  • Parhau â’r trefniadau cydweithredol rhanbarthol presennol: h.y.  bod Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn aros yn rhan o Ranbarth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros yn rhan o Ranbarth Bae’r Gorllewin gynt (Gorllewin Morgannwg bellach).

 

  • Bod y trefniadau hyn yn aros ar waith am gyfnod o 3 blynedd o leiaf. Bydd hyn yn caniatáu amser i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a chynllunio cynnar at y tymor hwy

 

  • Dechrau gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol i amlygu’r heriau penodol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i aros yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol Bae’r Gorllewin a datblygu strategaethau i liniaru rhai o’r materion hyn.

 

Hysbysu Cadeirydd Byrddau Rheoli Bae’r Gorllewin a’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Chyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am ganlyniad y Prosiect.

Dogfennau ategol: