Agenda item

Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – Band B Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol Band B diwygiedig i Lywodraeth Cymru sy’n newid Cynllun De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr am Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd (dau ddosbarth mynediad a dosbarth meithrin). Hefyd, ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnal arfarniad opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cabinet, ym mis Hydref 2017, wedi cymeradwyo blaenoriaethau Band B Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn cynnwys ysgol â 2.5 dosbarth mynediad ynghyd â dosbarth meithrin i ardal de-ddwyrain bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar y pryd, cytunodd y Cabinet hefyd i ymgymryd â gwaith dichonoldeb pellach ar gyfer Ysgol Gynradd newydd i Fynydd Cynffig a fyddai, yn dibynnu ar y canlyniad a’r cyllid sydd ar gael, yn gallu cael ei gyflwyno fel cynllun â blaenoriaeth ym Mand C.

 

Ychwanegodd fod cymeradwyaeth ddilynol y Cabinet wedi’i gael ym mis Ionawr 2020, i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ysgol dwy ffrwd, dau ddosbarth mynediad, a dosbarth meithrin (h.y. darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar safle datblygu arfaethedig Parc Afon Ewenni.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod system wresogi safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi methu’n drychinebus ym mis Tachwedd 2019 a bod y gwaith trwsio wedi gorfodi’r ysgol i gau am dair wythnos. Dosbarthwyd disgyblion a staff i ysgolion cyfagos dros dro er mwyn i’r dysgu a’r addysgu barhau. Roedd arolwg o gyflwr yr adeilad a gynhaliwyd pan oedd yr ysgol ar gau wedi gostwng cyflwr yr ysgol o’i gyflwr blaenorol, hynny yw “C”, i gategori “D”. Ychwanegodd fod penderfyniad wedi’i wneud ar 13 Mawrth 2020 i gau’r ysgol a darparu gofod addysgu arall fel mater o frys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cynllun i ddarparu ystafelloedd dros dro wedi’i roi ar dendr trwy gystadleuaeth fechan dan Lot 11 Fframwaith Caffael Cyfalaf Ysgolion De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP 3). Gwerthuswyd y cynigion i sefydlu pa dendr oedd yn fwyaf manteisiol yn economaidd. Darparwyd rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig, sy’n ail-gydbwyso’r rhaglen rhwng y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain (fel yr amlinellir ym mharagraff 3.9 yr adroddiad hwn), wedi’i hystyried gan y panel cyfalaf. Roedd y panel wedi argymell bod y Gweinidog yn cymeradwyo’r diwygiad hwn. Fodd bynnag, nid oedd cadarnhad swyddogol o benderfyniad y Gweinidog wedi cyrraedd eto.

 

Ychwanegodd eu bod wrthi’n dyfarnu’r Tendr ar gyfer prynu adeiladau dros dro i safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig. Er bod ymrwymiad ariannol sylweddol i gyflenwi adeiladau, mae’r pryderon cyffredinol am ddau safle ar wahân yr ysgol gynradd, ynghyd â maint yr adeilad iau, yn parhau.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd oblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd â’r Goblygiadau Ariannol a restrir yn adrannau 6 a 7 yr adroddiad.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr angen hwn o ganlyniad i argyfwng, ac nad oedd yn disodli’r syniad o gael ysgol ddeuol Cymraeg/Saesneg ym Mharc Afon Ewenni a bydd yn cyd-fynd ac amseriadau ysgol Band C. Byddai’r ymrwymiad i ddwyieithrwydd yn parhau’n flaenoriaeth.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod gwahanol ffyrdd o sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y Cyngor, a’i ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hystyried.  Dywedodd fod angen gweithredu ar yr argyfwng hwn oherwydd bod y safle ym Mynydd Cynffig wedi methu ac, felly, roedd angen datrysiad parhaol.  Fe wnaeth ganmol y pennaeth, y corff llywodraethol a’r athrawon yn yr ysgol am ddarparu addysgu o ansawdd uchel; dyletswydd y Cyngor oedd darparu’r ysgol â’r cyfleusterau yr oedd arni eu hangen.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn cymeradwyo cyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol Band B ddiwygiedig i Lywodraeth Cymru sy’n newid cynllun De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr gydag Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig (2 ddosbarth mynediad a dosbarth meithrin); ac

 

yn cymeradwyo cynnal arfarniad opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig.

Dogfennau ategol: