Agenda item

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai diben yr adroddiad oedd rhoi rhestr i Aelodau'r Pwyllgor o eitemau posibl y Flaenraglen Waith ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol. Cyfeiriodd at baragraff 4.1, sy’n nodi mai'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am bennu a blaenoriaethu'r Flaenraglen Waith gyffredinol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc. Amlinellodd yr eitemau/pynciau a oedd wedi'u blaenoriaethu a'u cytuno gan y Pwyllgor hwn, a gasglwyd o’r eitemau a awgrymwyd mewn cyfarfodydd blaenorol o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth a gynigiwyd gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau a oeddent yn dymuno ychwanegu unrhyw beth at y rhestr o bynciau.

 

Gofynnodd Aelod am gynnwys digartrefedd, o ystyried y bu gan Craffu rôl yn y gorffennol wrth edrych ar e.e. tai a chartrefi gwag Fodd bynnag, nid oedd am i Waith Craffu ddyblygu unrhyw waith arall a wnaed ar y pwnc. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd y byddai Llywodraeth Cymru yn allweddol o ran sut y gall yr Awdurdod fynd i'r afael â'r mater ac y bydd yn dibynnu ar adnoddau, ond cytunodd y dylai Craffu chwarae rhan mewn digartrefedd.

 

Teimlai Aelod y byddai rhoi Digartrefedd ar y Flaenraglen Waith Craffu yn ddyblygiad gan ei fod yn rhywbeth yr oedd eisoes yn cael sylw. Roedd yr Awdurdod eisoes wedi ystyried hawlio rhywfaint o'r £20M a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y llety dros dro i'r digartref ac mae'n aros am ateb. Rhaid i'r Awdurdod allu ailgartrefu'r bobl hynny sydd wedi'u rhoi mewn llety dros dro ar draws y fwrdeistref rhag iddynt ddychwelyd i fyw ar y strydoedd. Cytunodd y Cadeirydd fod angen i ni edrych ar ba mor llwyddiannus yr ydym wedi bod wrth ddatrys problem digartrefedd yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod a allai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol edrych ar y BGC ym mis Medi i gyd-fynd â chwblhad disgwyliedig yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar yr hyn y dymuna’r Panel fynd i'r afael â hwy. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Panel yn cyfarfod â Thîm y BGC cyn bo hir. Eglurodd yr Aelod ymhellach y bydd Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn nodi'r hyn sydd wedi'i wneud yn dda a'r pethau yr oedd angen eu gwneud yn y tymor hwy i reoli pegynau pellach mewn pandemig. Er enghraifft, mewn perthynas ag ysgolion, eu hagor i bob disgybl ar 14 Medi gydag oediad o 2 wythnos i roi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith. Felly, erbyn canol mis Medi gellid gweld problemau gydag ysgolion, ac mae sawl mater arall hefyd sydd angen sylw. Dadleuodd fod digartrefedd yn fater hirdymor y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi'i ariannu amser maith yn ôl, a bod angen i lywodraeth leol fod yn llafar am y diffyg cyllid sydd ar gael, mae'n rhywbeth y mae angen i'r Panel ei ystyried wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod a allai Craffu fod â rhan yn rôl llywodraethwyr a sut y cant eu penodi, eu trefnu, a'u hyfforddi. Teimlai fod angen i ysgolion, yn awr yn fwy nag erioed, gael eu llywodraethu mor sefydlog a phroffesiynol â phosibl, a bod ysgolion yn cael eu siomi ar y funud. Teimlai nad oedd llywodraethwyr yn cael eu recriwtio'n iawn, nad oedd y bobl iawn yn eistedd ar gyrff llywodraethu, ac nad oedd yr hyfforddiant gan Gonsortiwm Canolbarth y De yn ddigon effeithiol na chyson. Nid oedd yr Aelod yn teimlo bod gan bob ysgol gyflenwad llawn o lywodraethwyr effeithiol, a phe byddent yn cael hynny byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r ffordd yr ydym yn ymateb i'r argyfwng pandemig.

 

Mewn ymateb, mynegodd y Cadeirydd ei dealltwriaeth mai'r unig lywodraethwyr y gallai’r Awdurdod eu dewis oedd cynrychiolwyr yr AALl. Rhieni sy’n ethol y gweddill, neu’r corff llywodraethu swrth gytuno i benodi aelod o'r gymuned. Er y gall Craffu gynghori'r Cabinet, nid oedd o fewn ei gylch gwaith i benodi. Teimlai fod meini prawf y Cabinet ar y cyfan yn dda ar gyfer ethol aelodau o'r Awdurdod, y Dref, a'r Gymuned neu wrth ethol athrawon sydd wedi ymddeol sydd â'r profiad angenrheidiol i wneud cyfraniad.

 

Cytunodd Aelod ar fater y cyrff llywodraethu. Er ei bod yn credu bod y cyrff llywodraethu wedi dod yn llawer mwy effeithiol, nid oedd yn teimlo eu bod yn ddigon effeithiol.

Dywedodd Aelod mai ei ddealltwriaeth ef oedd mai dim ond llywodraethwyr AALl a benodir gan yr Awdurdod Lleol. Penodir pob swydd llywodraethwr arall gan yr ysgol. Yn y gorffennol, roedd yr Aelod wedi cynnig y dylid canoli mwy i arbed Penaethiaid rhag gorfod bod yn arbenigwyr ym mhob maes yn ogystal â'r ysgol. Ond byddai hyn yn golygu newid mewn trefniadau cyllidebu oherwydd bod gan ysgolion ymreolaeth o ran sut y maent yn gwario eu harian. Cytunodd yr Aelod ei bod yn ymddangos nad yw pob llywodraethwr yn meddu ar y gallu na'r sgiliau cywir, ond, mewn ysgolion llai, y broblem yw sicrhau llywodraethwyr o gwbl, heb sôn am allu dewis o restr. Daeth yr Aelod i ben drwy ddweud ei fod yn faes cymhleth.

 

Yna, atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o'r Argymhellion ym mharagraff 9.1 o'r Flaenraglen Waith. Cytunwyd ar yr Argymhellion ym mharagraff 4.2 a chadarnhawyd:

 

Argymhellion

(1) Cadarnhau’r eitemau a flaenoriaethir ym mharagraff 4.2 a'r eitemau hynny a ddirprwyir i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc;

 

(2) Bod unrhyw eitemau ychwanegol yn cael eu nodi gan ddefnyddio'r Ffurflen Meini Prawf ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol ar y Flaenraglen Waith Craffu.

 

Dogfennau ategol: