Agenda item

Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ar Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd i asesu cynaliadwyedd sefyllfa ariannol tymor byr a chanolig y cynghorau, roedd yn canolbwyntio ar strategaeth ariannol pob cyngor yn ogystal ag adolygu rhai dangosyddion ariannol allweddol o sefyllfa ariannol pob cyngor mewn perthynas â:

 

  • perfformiad yn erbyn y gyllideb;
  • cyflawni cynlluniau arbedion;
  • defnyddio cronfeydd wrth gefn;
  • y dreth gyngor; a
  • benthyca

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor ei fod wedi cynnal yr asesiad gan ei fod wedi nodi fod cynaliadwyedd ariannol yn risg i gynghorau wrth roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio ei adnoddau. Roedd hyn yn rhannol seiliedig ar brofiadau rhai o gynghorau Lloegr yn ddiweddar, ar wybodaeth am y sefyllfa ariannol yng Nghynghorau Cymru, a'r duedd gyffredinol o leihau adnoddau i lywodraeth leol, ynghyd â'r galw cynyddol am rai gwasanaethau.  Dywedodd wrth y Pwyllgor nad oedd gan Archwilio Cymru bryderon sylweddol am sefyllfa ariannol y Cyngor hwn a bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn gryf, ond byddai rhai agweddau o’r cynllunio ariannol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn elwa o gael eu cryfhau. Roedd wedi dod i'r casgliadau canlynol:

 

·     Byddai Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn elwa o gael ei gryfhau mewn rhai meysydd pwysig.

·      Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi tanwario ei holl gyllidebau blynyddol ac mae hefyd yn disgwyl tanwario ei gyllideb ar gyfer 2019-20.

·     Mae gan y Cyngor hanes da o gyflawni'r rhan fwyaf o'i arbedion arfaethedig.

·         Mae gan y Cyngor lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

·         Mae gan y Cyngor hanes da o gasglu ei dreth gyngor.

·     Mae gan y Cyngor lefel gymharol isel o gostau benthyca a llog ac nid yw wedi ceisio unrhyw fenthyciadau hirdymor newydd ers 2012.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod sefyllfa ariannol a chynaliadwyedd y Cyngor wedi newid yn fawr yn ystod y pandemig.  Mae hawliadau i Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno bob mis, gyda rhai hawliadau'n cael eu talu ar gyfradd o 50%, gyda'r Cyngor yn gorfod ariannu'r 50% sy'n weddill.  Roedd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a oedd yn rhagweld gorwariant o £3m ar gyfer y chwarter cyntaf.  Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro wrth y Cabinet fod nifer o geisiadau am gostau ychwanegol a cholli incwm wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru, er nad oedd yn hysbys a fyddai'r Cyngor yn cael ei ad-dalu am yr hawliadau a gyflwynwyd neu ddim.  Dywedodd fod incwm o barcio ceir a'r Dreth Gyngor wedi gostwng a bod mwy o geisiadau wedi dod i law am gymorth y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai.  Dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn anodd rhagweld yr effaith ariannol ar y Cyngor yn y dyfodol.

 

Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod y darn hwn o waith wedi'i wneud cyn y pandemig ac y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar gynaliadwyedd ariannol Cynghorau ac effaith y pandemig. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod y llif arian yn cael ei reoli a bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ad-dalu'r Cyngor cyn gynted â phosibl, gyda thaliadau'n cael eu derbyn am grantiau ardrethi busnes.  Rhagwelwyd y byddai taliadau ar gyfer staff gofal cymdeithasol yn cael eu gwneud yn ystod mis Awst.  Dywedodd y gall y Cyngor ddibynnu ar fenthyca tymor byr, a bod y Cyngor yn bod yn bwyllog iawn. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y diffyg argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru ac oherwydd bod sawl dehongliad gwahanol y gellid ei wneud o’r sylwadau a wnaed, a holwyd os ystyriwyd bod safbwynt y Cyngor o ran ei gronfeydd wrth gefn yn gadarnhaol neu'n negyddol.  Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod Archwilio Cymru wedi penderfynu peidio â chynnwys argymhellion ar hyn o bryd, ond y byddai argymhellion yn cael eu gwneud mewn adroddiad cenedlaethol a oedd wedi'i ohirio oherwydd y pandemig, ond a fyddai ar gael ym mis Awst 2020.  O ran y cronfeydd wrth gefn dywedodd eu bod yn rhoi gwydnwch ariannol i’r Cyngor.  

 

Cyfeiriodd Aelod o'r Pwyllgor at ganfyddiadau Archwilio Cymru a gofynnodd am esboniad mewn perthynas â'r gwelliannau a awgrymwyd i'r MTFS.  Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor ei fod yn ymwneud â chysylltu cyllid â pherfformiad, rhywbeth y mae llawer o gyrff cyhoeddus yn ei chael yn anodd ei wneud, er mwyn cynhyrchu costau unedau gwerth am arian, a’i fod yn rhywbeth y dylid ymdrechu i’w wneud.  Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol yn gysylltiedig â'r MTFS a bod angen sicrhau bod lefelau gweithgarwch yn gysylltiedig â chost, ond dylid edrych ar feincnodi hefyd er mwyn ceisio gweld a yw gwerth am arian yn cael ei ddarparu ac i fesur effeithiolrwydd.  Roedd angen defnyddio dadansoddiadau a thrafod gydag Audit Wales i weld sut y gallant ein helpu i gyflawni hynny o ran meincnodi, a sut y gellid gwella cysylltiad amcanion gyda’r gost o gyflawni hynny.  Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod sgyrsiau wedi'u cynnal gyda swyddogion i drafod cynlluniau cynilo, sut y bydd y bwlch yng nghyllideb yr MTFS yn cael ei fodloni, a sut y gall y Cyngor gryfhau'r MTFS.  Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor y bydd yr adroddiad cenedlaethol yn barod ym mis Awst 2020 a'i fod wedi bod yn gweithio gyda Swyddogion Adran 151 a CLlLC ar yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor wedi nodi Adroddiad Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru.   

Dogfennau ategol: