Agenda item

Ymchwiliadau Twyll i Leihau'r Dreth Gyngor: Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ar y gweithgareddau a gynhaliwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 mewn perthynas â thwyll Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTR), ymchwiliadau Bathodynnau Parcio Pobl Anabl (Bathodyn Glas), yn ogystal â chrynodeb o ganlyniadau a gyflawnwyd yn ystod 2019/20 o gymharu â'r sefyllfa ar gyfer 2018/19.

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y gwaith ymchwilio ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor wedi'i drosglwyddo i Wasanaeth Ymchwilio Twyll Sengl (SFIS) yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 1 Tachwedd 2015.

 

  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Budd-daliadau, er mwyn cynnal gweithgareddau gwrth-dwyll effeithiol a gweithredol ar gyfer CTR, yn cyflogi Ymchwilydd Twyll i ymgymryd â'r canlynol yn bennaf:

 

  • Ymchwilio i honiadau o dwyll CTR, anghysondebau disgownt un person, a chamddefnyddio Bathodyn Glas.
  • Ymgymryd â gweithgareddau ymyrraeth sy'n seiliedig ar risg
  • Cynorthwyo SFIS i ddarparu gwybodaeth a/neu ddogfennaeth
  • Gwella ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i staff mewn perthynas â thwyll, camdriniaeth, a cholled ariannol

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod yr Ymchwilydd Twyll wedi datblygu rhwydwaith o gysylltiadau gydag Ymchwilwyr Twyll eraill o fewn awdurdodau cyfagos, a bod swyddogion ledled Cymru yn cyfarfod bob chwarter i drafod twyll CTR, camddefnyddio Bathodynnau Glas, a materion twyll eraill, yn ogystal ag i rannu arfer gorau.  Dywedodd fod hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll yn parhau i gael ei gynnal ar gyfer staff Budd-daliadau, Opsiynau Tai, y Dreth Gyngor, a'r Gwasanaeth Cwsmeriaid, yn ogystal â gydag asiantaethau allanol.   Mae ymwybyddiaeth o dwyll hefyd yn rhan o'r broses sefydlu ar gyfer yr holl staff Budd-daliadau newydd.  Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid hefyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi ymrwymo i feithrin a chynnal diwylliant dim goddefgarwch o ran twyll a llygredd, gan ddatblygu modiwl e-ddysgu Atal Twyll i gefnogi'r polisïau atal Twyll, Llwgrwobrwyo, a Gwyngalchu Arian.  Bydd hyfforddi staff yn gwella eu dealltwriaeth o sut y gall twyll ddigwydd, yn gwella eu gallu i’w atal, yn hwyluso’r gwaith o adnabod gweithgareddau amheus, ac yn gymorth iddynt weithredu gydag uniondeb ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau.  Caiff y modiwl E-Ddysgu i'w ryddhau yn ystod haf 2020.

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ar y grynodeb o atgyfeiriadau twyll, sy'n dangos bod gostyngiad o 12.6% yn nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd ar draws pob ffynhonnell yn ystod 2019/20.

Fodd bynnag, nid oedd rheswm amlwg dros y gostyngiad cyffredinol, ond byddai hyn yn cael ei ymchwilio yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod dau ymchwiliad CTR a gynhaliwyd gan yr Ymchwilydd Twyll wedi arwain at erlyniadau llwyddiannus yn 2019/20. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2019, wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm arbenigol o

Gyngor Dinas Portsmouth i gymryd camau gorfodi o ran Bathodynnau Glas. Gan weithio mewn lleoliadau Bwrdeistref Sirol dethol, arweiniodd yr ymgyrch deuddydd at 68 o ymyriadau, ac roedd 15 ohonynt yn ddigon difrifol i roi cosbau penodedig.  Dywedodd fod 5 o’r 20 bathodyn a gadwyd wedi'u dinistrio'n ddiogel am eu bod wedi'u canslo neu wedi dod i ben, cafodd 1 ei ddychwelyd i ddeiliad y bathodyn gyda llythyr rhybudd swyddogol, dychwelwyd 3 at ddeiliaid y bathodynnau heb unrhyw gamau pellach, ac ystyriwyd bod 11 yn ddigon difrifol i'w herlyn.  O'r 12 achos a erlynwyd, cafwyd 10 yn euog gan Lys yr Ynadon.  Rhoddwyd dirwy i bob un, yn ogystal â gordal dioddefwr, costau cyfreithiol ac ymchwilio.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor wedi nodi'r adroddiad.   

Dogfennau ategol: