Agenda item

Datganiad o Gyfrifon 2019-20 (heb eu harchwilio)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad i gyflwyno'r Datganiad o Gyfrifon heb ei archwilio ar gyfer y cyfnod uchod er mwyn i'r Pwyllgor gael ei nodi.

 

Dywedodd fod paratoi Datganiad o Gyfrifon yn un o ofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd yn 2018) a diffinnir ei gynnwys gan 'God Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig' (y Cod).

 

Yn unol â'r rheoliadau hyn, roedd angen i'r swyddog cyllid cyfrifol gymeradwyo a llofnodi'r Datganiad o Gyfrifon heb ei archwilio ar gyfer 2019-20 erbyn 15 Mehefin 2020, gan ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Cyngor. Yna, rhaid i'r Pwyllgor Archwilio gymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon archwiliedig erbyn 15 Medi 2020 yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor. Os na ellir llofnodi a chyhoeddi'r cyfrifon erbyn y dyddiad hwn yna rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad Rheoliad 10 sy'n nodi'r rhesymau pam.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd nad oedd y Cyngor, o ganlyniad i'r pandemig Coronafeirws, wedi gallu bodloni'r dyddiad cau 15 Mehefin 2020 ac felly, yn unol â gofynion y Rheoliadau, cyhoeddodd hysbysiad yn rhoi gwybod am hyn. Llofnodwyd y cyfrifon heb eu harchwilio gan y swyddog cyllid cyfrifol ar 30 Mehefin 2020, a'u hanfon i Archwilio Cymru yr un diwrnod.

 

Atodir Datganiad Cyfrifon heb ei archwilio gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Aeth ymlaen wedyn i roi cyflwyniad Powerpoint i’r Aelodau a oedd yn tynnu sylw at rywfaint o wybodaeth allweddol o Ddatganiad Cyfrifon 2019-20, er budd yr Aelodau, yn ogystal ag ymhelaethu ar rywfaint o'r wybodaeth ariannol allweddol a ddangoswyd yn y prif adroddiad.

 

Nododd Aelod ei bod yn ymddangos o’r adroddiad bod yr Awdurdod wedi bod yn tanwario o ran ei Gyllideb.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod adroddiadau Monitro chwarterol wedi'u cyflwyno fel rhan o'r Gyllideb Refeniw i Bwyllgorau'r Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac roedd y rhain yn nodi'r manylion mewn perthynas â phob un o'r Cyfarwyddiaethau a oedd yn rhan o'r Cyngor, gan amlinellu meysydd lle'r oedd gorwariant a thanwariant ym meysydd gwasanaeth y Cyngor cyfan a oedd yn cynnwys pob Cyfarwyddiaeth.

 

Cyflwynwyd adroddiad Alldro Ariannol i'r Cabinet ar 30 Mehefin 2020 ac o ran cyllidebau'r Cyngor cyfan, roedd yr adroddiad hwn yn adlewyrchu tanwariant sylweddol o tua £3m o gyllid nas rhagwelwyd ar gyfer pensiynau cyflog/pensiynau athrawon a phensiynau staff y Gwasanaeth Tân, a bod yr Awdurdod wedi'i gynnwys yn ei gyllideb ei hun. Fodd bynnag, cafodd y lefel hon o gyllid ei derbyn wedyn gan Lywodraeth Cymru.  Roedd £2m wedi'i ddyrannu i Gronfa Gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn cymunedau.

 

Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion pa bryd yr oeddent yn credu y byddai'r setliad ar gyfer 2021-2022 yn dod, o gofio ei fod yn hwyr eleni.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yr amcangyfrifwyd y byddai’n dod yn yr hydref eleni, h.y. gyda Datganiad drafft yn gyntaf ym mis Hydref. Er byddai’r amserlen hon yn dibynnu ar ffactorau eraill, yn fwyaf nodedig y sefyllfa barhaus o ran Covid-19. Byddai'r setliad terfynol, pe bai popeth yn mynd i'r cynllun, wedyn yn cael ei dderbyn tua mis Rhagfyr.

 

Pwysleisiodd, fodd bynnag, mai dim amcangyfrif oedd y dyddiadau hyn yn hytrach na rhai cadarn.        

 

PENDERFYNWYD:                      Bod yr Aelodau wedi nodi'r Cyflwyniad ynghyd â'r Datganiad o Gyfrifon 2019-20 sydd heb ei archwilio (Atodiad A i'r adroddiad).

Dogfennau ategol: