Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20 (AGS) i'w gymeradwyo a'i gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2019-20 sydd heb ei archwilio.
I egluro’r cefndir, dywedodd fod Rheoliad 5 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal, fel rhan o'i drefniadau ar gyfer llywodraethu corfforaethol, adolygiad blynyddol o lywodraethu ac adroddiad ar reolaeth fewnol.
Ychwanegodd Rheolwr Interim y Gr?p – Prif Gyfrifydd fod llywodraethu corfforaethol da yn gofyn am gyfranogiad gweithredol Aelodau a Swyddogion
ar draws y Cyngor. Adolygir y trefniadau hyn yn flynyddol a defnyddir y canfyddiadau i ddiweddaru'r AGS. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant llywodraethu corfforaethol y Cyngor yn gwella'n barhaus. Roedd cynnwys yr AGS yn y Datganiad o Gyfrifon hefyd yn darparu arfarniad cyffredinol o'r rheolaethau a oedd ar waith i reoli risgiau allweddol y Cyngor ac yn nodi lle mae angen gwneud gwelliannau.
Adolygwyd drafft o AGS 2019-20 gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB) a'r Cabinet. Amgaewyd y ddogfen yn Atodiad A i'r adroddiad.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 219 o'r AGS a rôl Cynghorwyr fel cyfeillion beirniadol llywodraethu corfforaethol. Nododd, oherwydd Covid-19 a chau Swyddfeydd y Cyngor yn ei sgil, fod yn rhaid canslo cyfarfodydd Pwyllgor hyd nes y byddent yn ail-gychwyn o bell drwy Skype.
Gofynnodd i gynrychiolwyr Archwilio Cymru beth oedd eu canfyddiad o drefniadau llywodraethu CBSP (o'i gymharu ag awdurdodau cyfagos eraill) drwy gydol argyfwng Covid-19, yn enwedig mewn perthynas â pharhau i gynnal cyfarfodydd o bell a rôl Aelodau ym mhrosesau penderfynu'r Cyngor. Gofynnodd hyn gan fod y pandemig wedi rhoi heriau ychwanegol i awdurdodau lleol a bod dyletswydd ar Aelodau i ymateb iddynt.
Dywedodd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru fod Covid-19 a’r cyfnod clo wedi arwain at ganslo cyfarfodydd ers peth amser gan fod Swyddfeydd y Cyngor wedi gorfod cau oherwydd ymbellhau cymdeithasol ac er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.
Ychwanegodd fod pob Cyngor yng Nghymru bellach wedi dechrau cynnal cyfarfodydd Pwyllgor o bell, ar adegau gwahanol, a bod pob un bellach yn cynnull cyfarfodydd drwy Skype neu Microsoft Teams. Nid oedd o'r farn bod CBSP wedi bod yn araf i weithredu yn hyn o beth, o'i gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru.
Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod CBSP, mewn perthynas â chynnal Pwyllgorau Archwilio ers y cyfnod clo fel y cyfeiriodd yr Aelod ato, wedi dechrau cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor hwn cyn unrhyw un o'r awdurdodau lleol eraill a oedd yn rhan o'r Gwasanaeth a Rennir.
PENDERFYNWYD: Fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r drafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20, gyda mân ddiwygiad i gynnwys cyfeiriad at reoliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd rhithwir yn Atodiad A yr adroddiad, a chytunwyd i'w gynnwys o fewn Datganiad o Gyfrifon 2019-20 sydd heb ei archwilio.
Dogfennau ategol: