Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad a ddarparodd Farn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol, ac a oedd yn hysbysu'r Pwyllgor Archwilio o waith a pherfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019-20.
Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu Adroddiad Blynyddol i gefnogi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Dylai'r adroddiad gwmpasu'r 5 pwynt bwled fel y'u rhestrir ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad
Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Mewnol 2019-20 i'r Pwyllgor Archwilio ei
ystyried a’i gymeradwyo ar 18 Ebrill 2019 a nodwyd gwaith archwilio a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn benodol honno.
Roedd Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol yn Atodiad A i'r adroddiad, ac roedd yn crynhoi'r adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod 2019-20 gan gynnwys unrhyw waith gwrth-dwyll, yr argymhellion a wnaed, ac unrhyw faterion rheoli a nodwyd. Cwblhawyd cyfanswm o 35 o adolygiadau gyda barn archwilio, a gwnaed cyfanswm o 103 o argymhellion canolig ac uchel. Mae dadansoddiad manwl wedi'i gynnwys yn Annex 1 o'r atodiad.
Mae’r cynnydd yn erbyn Cynllun seiliedig ar Risg 2019-20 wedi’i atodi i Annex 2 yr adroddiad, a dangosodd fod y rhan fwyaf o'r adolygiadau archwilio arfaethedig wedi'u cynnal yn ystod 2019-20, er gwaethaf yr adnoddau staffio is.
Gan ystyried canlyniadau'r adolygiadau archwilio mewnol a gwblhawyd yn ystod 2019-20, yr argymhellion a wnaed, a’r ffynonellau eraill o sicrwydd, barn flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor ar gyfer 2019-20 oedd bod sicrwydd rhesymol. Ni nodwyd unrhyw faterion rheoli trawsbynciol sylweddol a fyddai'n effeithio ar amgylchedd rheoli cyffredinol y Cyngor ac mae'r gwendidau a nodwyd yn benodol i'r gwasanaeth.
Yna, er budd yr Aelodau, aeth Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol drwy rai o'r meysydd gwaith allweddol a geir yn Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2019/2020, a atodir i'r adroddiad eglurhaol.
Gofynnodd Aelod, mewn perthynas ag Adran 3 o'r Atodiad lle nodwyd barn sicrwydd gyfyngedig, a ellid darparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor. Yn benodol, o ran Rheoli Contractau, gofynnodd yr Aelod a ellid darparu gwybodaeth am y Contractau dan sylw, ynghyd â gwybodaeth ariannol a'r materion a nodwyd i'r Aelodau.
Daeth y Cadeirydd â’r ddadl ar yr eitem i ben drwy gynghori Swyddogion fod y newid i'r ffordd yr oedd y Cyngor yn gweithio yn sgil y pandemig ac ati yn golygu fod angen i ymgysylltu rhagweithiol barhau rhwng adrannau a meysydd gwasanaeth yr Awdurdod ac Archwilio Mewnol o ran rheolaethau mewnol ac arferion gwaith. Gellid rhannu hyn wedyn ag Aelodau fel y bo'n briodol.
PENDERFYNWYD: (1) Bod yr Aelodau yn rhoi ystyriaeth briodol i'r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019-20, gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol.
(2) Bod y Pennaeth Archwilio Mewnol yn rhoi manylion i'r Aelodau mewn perthynas â'r adroddiad Rheoli Contractau.
Dogfennau ategol: