Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol - Pandemig Covid-19

Gwahoddedigion

 

Mark Shephard – Prif Weithredwr

Cynghorydd HJ David - Arweinydd

 

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r adroddiad. Eglurodd mai diben yr adroddiad yw sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol gyda'r nod o lywio, hysbysu, a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adferiad y Cyngor, gan gydnabod yr heriau enfawr sy'n ein hwynebu ar ôl Covid-19 wrth i ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau symud a dod allan o’r cyfnod hwnnw. O ran y Cyngor, mae’r newid wedi bod yn sylweddol iawn. Ni roddwyd unrhyw un o staff y Cyngor ar ffyrlo. Yn ddealladwy, cynhaliwyd llawer o wasanaethau'r Cyngor yn wahanol i’r arfer, gan gynnwys gweithio gartref, gweithio ystwyth, ac adleoli staff, gyda’r ffocws i raddau helaeth ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol gan ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol, a chwarae ein rhan wrth atal lledaeniad y firws. Un o ganlyniadau anffodus hyn oedd sefydlu gweithdrefnau llywodraethu brys sydd, i ryw raddau, wedi golygu bod cyfraniad rhai Aelodau i’r prosesau Craffu arferol wedi’u hatal. Yn ei adroddiad i'r Cabinet ar 30 Mehefin 2020 nododd yr ymdrechion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau fel bo modd iddynt gyfrannu cymaint â phosibl, trwy gynnal cyfarfodydd Arweinydd Gr?p wythnosol, cyfarfodydd Cadeirydd Craffu, a rhaglen gyfathrebu ddyddiol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, gan gynnwys hysbysiadau o’r penderfyniadau ffurfiol a wneir o dan y trefniadau argyfwng hyn. Nododd yr adroddiad y fframwaith cynllunio ar gyfer ailgychwyn, adfer, ac adnewyddu gwasanaethau'r Cyngor. Mae sefydliad Panel Trawsbleidiol yn rhan allweddol o’r elfen adfer, gan gydnabod bod nifer gyfartal o Aelodau etholedig o bob plaid yn hanfodol er mwyn sefydlu cynllun credadwy ar sail un Cyngor. Amlinellodd rai o'r blaenoriaethau a'r ystyriaethau allweddol y mae angen i'r Cyngor ymdrin â hwy fel rhan o'i adferiad. Mae'r blaenoriaethau a'r ystyriaethau hynny ar amserlenni gwahanol i’w gilydd, h.y. mae rhai yn weddol uniongyrchol tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser. Un o'r heriau yw adferiad yn golygu gweithredu popeth ar unwaith, ond yn hytrach mae’n rhaglen waith a all gymryd 12-18 mis. Un her sy’n ein hwynebu’n syth yw’r her o ailagor ysgolion ym mis Medi (cafodd Aelodau ac ysgolion fanylion ynghylch hyn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd). Dywedodd fod yr ymateb i'r argyfwng economaidd yn parhau, ac roedd y Cabinet wedi trafod ffurfio Tasglu Economaidd, yn cynnwys pobl o fusnesau a diwydiant lleol yn bennaf i helpu i lunio'r hyn y mae angen i'r Cyngor ei wneud a'r ffordd orau o fuddsoddi ar y sail honno. Mae arwyddocâd rhai o'r heriau yn cynnwys digartrefedd (mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r gwaith o ganfod atebion wrth ddod o hyd i leoedd i bobl fyw barhau, sy'n heriol yn gysyniadol ac yn ariannol) a pharhau i ffurfio gwell perthynas â rhai o'i phartneriaid, yn enwedig BAVO. Yr her fydd canfod sut i feithrin y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen a sut y bydd hynny yn cyfrannu i’r adferiad, gan gydnabod y manteision i gymunedau a’r manteision ariannol fel nad yw’r Cyngor yn dychwelyd at y ffordd yr oedd yn flaenorol. Roedd rhai pethau'n newydd iawn i'r Cyngor, fel gorfod darparu cyfarpar diogelu personol. Nid yn unig y bu'n rhaid i'r Cyngor ystyried sut i wella, ond hefyd sut y gallai sicrhau ei fod yn wydn pe bai ail don neu rywbeth arall yn arwain at ailsefydlu gweithdrefnau brys. Roedd rhai pethau eisoes ar y gweill, e.e. roedd y rhan fwyaf o wasanaethau gwastraff bron yn ôl i'r drefn arferol, ac roedd llyfrgelloedd yn dechrau ailagor (nid yw hyn yn eu hatal rhag cael rôl wahanol fel canolfannau cymunedol wrth symud ymlaen). Amlinellodd y risgiau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gwasanaethau digidol, bu staff yn fwy parod i groesawu gwasanaethau digidol yn ystod y cyfyngiadau symud, a bu'n rhaid ystyried faint fyddai'n cael ei gadw a sut y gellid diogelu’r rhai sy'n ei chael yn anos cael gafael ar wasanaethau yn ddigidol. Roedd y Prif Weithredwr yn rhagweld y byddai'r Panel Adfer yn gr?p gorchwyl a gorffen ac y byddai’n rhaid prosesu rhai o'i argymhellion yn gyflym. Byddai angen defnyddio adnoddau'r Cyngor yn eang er mwyn osgoi dyblygu. Dywedodd fod y BGC yn bwriadu cynnal Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned a'u bod yn awyddus iawn i weithio gyda'r Panel Adfer i nodi’r hyn y mae angen i'r Cyngor ei flaenoriaethu ar fyrder ar sail yr asesiad hwnnw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd wedi cynnig eu cefnogaeth i'r Panel, gan edrych efallai ar arfer gorau mewn mannau eraill neu unrhyw ffordd arall y gallant ychwanegu gwerth. Roedd y Prif Weithredwr yn ymwybodol bod Panel presennol ar gyfer y gyllideb (BREP) a rhaid sicrhau bod ei waith yn cael ei gydgysylltu a'i goladu mewn ffordd gydlynol i hysbysu'r Cabinet ac osgoi dyblygu.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn rhagweld Panel ystwyth a hyblyg, a chyfeiriodd at y Cylch Gorchwyl a oedd yn cynnig cynnal cyfarfodydd gr?p misol, ond mater i'r Panel oedd penderfynu pa mor aml y byddent yn cyfarfod, gan gynnwys unrhyw is-grwpiau, er mwyn cyflawni'r gwaith. Golyga hyn na fyddai'r Panel yn cael ei ohirio gan y cylch 4 neu 6 wythnos arferol o gyfarfodydd pwyllgor craffu, lle mae angen adroddiadau ymlaen llaw. Felly, gallai’r Panel ymateb yn fwy effeithiol o lawer, gan wahodd pobl (swyddogion allweddol, Aelodau, rhanddeiliaid allanol) i gwrdd â'r Panel (y cyfan neu ran ohono) ar sail barhaus. Y prif reswm dros gael Panel yw i Aelodau lunio argymhellion allweddol yn gyflym a fydd yn gwella gwydnwch Cynllun Adfer y Cyngor, yn gwella ymatebolrwydd y Cyngor, ac yn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y penderfyniadau cywir pan ddeuwn i ailosod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a'r Cynllun Corfforaethol yng nghyd-destun Covid-19.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn falch bod y Prif Weithredwr wedi cydnabod y bydd angen argymhellion yn gyflym ar y materion i'r Panel eu trafod. Nid oedd yn disgwyl i'r Awdurdod aros 6-12 mis am argymhellion gan y Panel oherwydd bod yr Adferiad yn dechrau nawr, os nad eisoes wedi dechrau. Daw rhai o'r argymhellion o sgyrsiau y bydd Aelodau'r Panel wedi'u cael yn eu gwaith, e.e. diwydiant, lle caiff arfer gorau ei rannu. Bydd hyn yn ddefnyddiol i'r Awdurdod wrth barhau. Sut allai’r Panel fwydo i mewn i'r amserlenni ynghylch prosesau penderfynu ac o amgylch y Cabinet fel y gellir cyflwyno argymhellion amserol?  Mewn ymateb, credai'r Prif Weithredwr y byddai angen i rai o argymhellion cychwynnol y Panel gael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a drefnwyd ar gyfer mis Medi yn ddelfrydol, er mwyn llywio adroddiadau'r Cabinet a'r Cyngor tua diwedd mis Medi pan ragwelir y byddai ailosod y gyllideb a'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei ystyried. Roedd y Prif Weithredwr wedi gofyn i bob maes gwasanaeth adolygu'r hyn a weithiodd yn dda a’r hyn na weithiodd cystal yn ystod y cyfyngiadau symud, ble cafodd arian ei wario a'i arbed, pa fuddsoddiadau oedd eu hangen yn awr a pha fodel gweithredu y byddent yn ceisio ei ddefnyddio wrth symud ymlaen. Byddai hyn, ynghyd ag unrhyw beth y mae'r Panel yn ei gynhyrchu, yn ddefnyddiol o fewn yr amserlen gychwynnol i lywio dogfennau allweddol a ble mae'r Awdurdod yn gwario/buddsoddi ei arian wrth symud ymlaen. Roedd y Prif Weithredwr am ei gwneud yn glir nad oedd yn disgwyl i'r Panel ystyried pob eitem o fewn yr amserlen hon. Cydnabu fod angen i rai eitemau ddod ymlaen yn gyflym tra’i bod yn anochel y bydd eraill yn cymryd mwy o amser, yn bwydo i mewn i MTFS neu Gynllun Corfforaethol y flwyddyn ganlynol hyd yn oed.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'r Panel yn gallu gweld yr adborth y cyfeiriodd y Prif Weithredwr ato. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai'n ddefnyddiol i'r Panel weld y canlyniadau ac y byddent yn cael eu rhannu gyda'r Panel. Byddai'n cymryd peth amser i goladu'r adborth fel ei fod yn ddarllenadwy ac ystyrlon, ond byddai'n llywio ac yn llywio meddylfryd y Panel. Roedd y Prif Weithredwr yn rhagweld y bydd amrywiaeth o argymhellion gan wasanaethau, a'n cydnabod na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu cyflawni rhai ohonynt.

 

Roedd yr Aelodau o'r farn ei bod yn ddoeth cynyddu maint y pwyllgor o 12 i 16, neu i beidio adlewyrchu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol o reidrwydd. Gofynnodd Aelod hefyd a allai amlder y cyfarfodydd fod yn hyblyg.

 

Mewn ymateb, teimlai'r Prif Weithredwr mai mater i'r Panel oedd penderfynu ar yr hyblygrwydd o ran cyfarfodydd, ond anogodd yr Aelodau i fod yn rhagweithiol a chyfarfod yn rheolaidd. Fel y nodwyd gan y Cylch Gorchwyl, efallai y bydd yr Aelodau am alw cyfarfodydd misol gyda’r holl Aelodau os nad yw cyfarfodydd is-grwpiau yn cynnwys pob Aelod, ond pwysleisiodd y Prif Weithredwr na fyddai'n pennu amlder y cyfarfodydd. Ei unig bryder o ran cynyddu maint y Panel oedd cynnull pob un o'r 16 Aelod ar gyfer cyfarfodydd cyson. Yna, darllenodd y Prif Weithredwr y cyngor cyfreithiol a gafodd gan Reolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ynghylch cynyddu maint y Panel: 'Gall y Panel gynnwys Aelodau pellach, gydag Aelodau ychwanegol yn cael eu henwebu gan Arweinwyr y Grwpiau a dylai fod yn wleidyddol gytbwys. Byddai gofyn diwygio’r cylch gorchwyl er mwyn ehangu cylch gwaith yr aelodaeth o gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Hysbysodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor y gellid cynyddu'r aelodaeth o 12 i 16 a newid y Cylch Gorchwyl yn ffurfiol yn y cyfarfod hwn i ddarparu'r hyblygrwydd hwnnw. Rhoddwyd dewis i'r Panel felly i gynyddu i 16 Aelod, er gwaethaf y cymhlethdodau a drafodwyd eisoes sy'n cynnwys sicrhau cydbwysedd gwleidyddol.  

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai cytundeb mewn egwyddor a geisiai’r Panel o ran sut y gellid gynyddu'r aelodaeth, ac y byddai cynyddu'r aelodaeth yn un o gasgliadau'r cyfarfod. Gellir cadarnhau'r broses sydd i'w defnyddio yn ddiweddarach. Nododd y Cadeirydd y bydd angen diwygio'r Cylch Gorchwyl i adlewyrchu cynnydd mewn aelodaeth i 16.

 

Gofynnodd Aelod, os cynyddir yr aelodaeth gan y Panel, a ellir trefnu dyddiadau ac amserau cyfarfodydd ymhell ymlaen llaw er mwyn sicrhau eu bod ar gael?  Ystyriwyd bod cysondeb yr Aelodau er mwyn ymdrin â'r materion yn bwysig iawn hefyd. At hynny, gellid gwahodd y Maer a'r Dirprwy Faer, o gofio eu bod wedi treulio blwyddyn yn dod i adnabod y sir a'r rhanddeiliaid a byddai eu safbwyntiau'n ddefnyddiol wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr, yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol, y gellir cynyddu aelodaeth y Panel o 12 i 16. Pe bai'r Maer, er enghraifft, yn cael ei wahodd fel Aelod ychwanegol o'r Panel, mater i'r Arweinwyr Gr?p perthnasol fyddai gwneud yr enwebiadau, a byddai’n rhaid cynnal cydbwysedd gwleidyddol.

 

Ymhellach i'r pwynt uchod, dywedodd Aelod y byddai’r Maer yn newid hanner ffordd drwy'r broses, ac felly'r swydd ac nid y person y byddai angen ei ystyried. Parhaodd yr Aelod â'r cwestiwn a fyddai tystion arbenigol yn cael eu gwahodd am eu barn o ystyried bod sectorau a diwydiannau penodol y bydd angen cefnogaeth yr Awdurdod arnynt yn sgil Covid-19. Gofynnodd hefyd am dryloywder a/neu gyfrinachedd y Panel. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd sicrhau bod barn a safbwyntiau’r gymuned yn cael eu cynnwys yn y cynllun adfer e.e. prosesau a gweithgareddau, a gofynnodd sut y byddai'r farn hon yn cael ei cheisio.

 

Mewn ymateb, cytunodd y Prif Weithredwr y gallai'r Panel fod yn awyddus i wahodd tystion arbenigol, ond iddynt fod yn ymwybodol efallai na fydd y tystion hyn ar gael o fewn yr amserlenni cyflym, hyblyg ac ymatebol sy'n ofynnol gan y Panel. O ran cynyddu nifer y cyfarfodydd, rhaid i'r Panel sicrhau bod Aelodau ac Aelodau Cabinet, swyddogion a rhanddeiliaid perthnasol ar gael, a gallai hynny fod yn heriol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod y Cylch Gorchwyl yn caniatáu i Swyddogion Craffu wasanaethu cyfarfodydd y Panel yn fisol, ac efallai na fydd modd cynnal cyfarfodydd ychwanegol ar gyfer casglu gwybodaeth yn yr un modd. Efallai y gallai Aelodau'r Panel sy'n mynychu'r cyfarfodydd ychwanegol yn dod â'r wybodaeth yn ôl i'r cyfarfod misol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Panel yn gyfrinachol gan mai dyma'r sail y cafodd ei sefydlu arno ac y bwriedir iddo aros felly hyd nes y bydd y Cabinet yn cytuno â'r hyn a roddwyd ger eu bron. Nid yw cyfrinachedd y Panel yn eithrio presenoldeb tystion arbenigol i roi eu barn.

 

Parhaodd Aelod i gwestiynu hyblygrwydd. Ei ddealltwriaeth ef oedd y bydd y pwyllgor yn cynghori'r Cabinet. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion lle bydd y Panel yn dymuno osgoi'r Cabinet, neu’n ei gwneud yn ofynnol i'r Cabinet weithio'n gyflym iawn. Efallai y byddai hyd yn oed yn fwy dymunol cynghori Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU mewn rhai achosion. Roedd yr Aelod yn pryderu, os bydd sefyllfa lle mae cyfyngiadau symud lleol, a fydd gan yr Awdurdod yr adnoddau i ddelio â hyn, e.e. cynlluniau ffyrlo lleol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y gallai'r Aelod alw'r Arweinydd neu unrhyw Aelod arall o'r Cabinet i ofyn cwestiynau ar bynciau penodol. O ran ffyrlo lleol, mae'n debygol y byddai hyn yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth. Gallai'r Prif Weithredwr weld bod cyffro ac uchelgais amlwg o fewn y Panel ond awgrymodd fod yn ofalus rhag gwneud y cylch gwaith mor fawr fel na fyddai'r Panel yn gallu delio â'i gwmpas. Rhaid i'r Panel barhau i allu canolbwyntio, blaenoriaethu, a bod yn ymwybodol o'r amserlenni.

 

Atgoffodd yr Arweinydd ei gydweithwyr y bydd y Tasglu Economaidd yn cael ei sefydlu gyda'r brif rôl o ymgysylltu a gweithio gyda busnesau i gynllunio adferiad economaidd y fwrdeistref. Byddai hyn yn rhoi cyfle i'r sector busnes yn enwedig i ymgysylltu â'r Awdurdod. Efallai y bydd y Panel yn dymuno gwahodd tystion arbenigol gwahanol hefyd. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwynt diddorol, a’r unig anhawster fyddai sicrhau ei fod yn gynrychioliadol. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Aelodau'n cynrychioli'r cyhoedd ac efallai yr hoffai'r Aelodau hefyd ystyried sut y gellid defnyddio'r Panel Dinasyddion, o gofio ei fod yn fecanwaith sydd wedi’i brofi fel llais cynrychioliadol o amrywiaeth y fwrdeistref o ran oedran, rhyw, ethnigrwydd a dosbarthiad daearyddol. Gellid defnyddio'r Panel Dinasyddion fel mecanwaith posibl i fesur barn y cyhoedd y tu hwnt i rôl cynrychiolwyr etholedig.

 

Daeth Aelod â gwerth mannau gwyrdd i fyny, sydd wedi’i nodi’n hanfodol yn genedlaethol. Cyfeiriodd at adroddiad y Cabinet a'r adroddiad heddiw sy'n cynnwys materion hanfodol y mae'n rhaid ymdrin â hwy, ond ychydig iawn o sôn am sut y caiff mannau gwyrdd eu diogelu neu eu gwella yn y tymor hir. Derbyniodd yr Aelod fod trosglwyddiadau asedau'n digwydd ond credai fod gan yr Awdurdod rôl o ran sicrhau a diogelu ei fannau gwyrdd yn y dyfodol. Roedd y BGC wedi cynnal arolwg ar y defnydd o fannau gwyrdd yn ystod Covid-19, a byddai'n cael ei fwydo'n ôl maes o law. Yn ogystal, roedd gan y CDLl datblygol ddealltwriaeth dda o werth mannau gwyrdd ac roedd wedi gwneud gwaith da, ac mae rhai Cynghorau Tref a Chymuned â diddordeb mewn gwneud rhywfaint o waith ar y pwnc hwn. Fodd bynnag, mae hwn yn parhau i fod yn wasanaeth anstatudol ac roedd yr Aelod braidd yn siomedig gyda'r diffyg cydnabyddiaeth iddo yn y tymor hir mewn unrhyw adroddiad.

 

Mewn ymateb, cytunodd yr Arweinydd fod mannau gwyrdd yn nod hirdymor ond mae'r adroddiad yn y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar yr adferiad tymor byr uniongyrchol. O ran y tymor canolig i'r hirdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r angen am adferiad gwyrdd ac mae'r Awdurdod yn rhannu'r dyhead hwn. Mae hyn yn ymwneud ag amrywiaeth o ffyrdd o sicrhau bod yr adferiad yn gynaliadwy, sy'n cynnwys mannau gwyrdd yn ei ystyr ehangach. Mae hyn yn cynnwys plannu coed, rhywbeth a all helpu gyda swyddi yn y tymor byr yn ogystal â rheoli llifogydd a darparu ‘ysgyfaint gwyrdd’. Felly, er nad yw'r adroddiad yn gynhwysfawr nac yn hirdymor, mae mannau gwyrdd yn faes y bydd yr Awdurdod yn edrych arno gydag arbenigedd yr Aelodau. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar nifer o feysydd thematig a gall yr Awdurdod sicrhau bod yr adroddiad, sy’n un cyhoeddus yng nghred yr Arweinydd, yn cael ei rannu ag Aelodau fel partner hollbwysig.

 

Diolchodd yr Aelod i'r Arweinydd am ei ymateb. Gofynnodd ymhellach am fater adnoddau o fewn yr Awdurdod er mwyn gwireddu gwaith fel plannu coed, a fydd yn gofyn i swyddogion weithredu ar adeg o galedi a thoriadau ariannol. Rhoddodd enghraifft o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr lle mai anaml y ceir sylwadau gan adran y Parciau am fannau agored oherwydd diffyg capasiti swyddogion. Felly, mae mater capasiti o fewn yr Awdurdod yn y tymor hir i helpu, cynghori, a threfnu gwaith ar gyfer mannau gwyrdd yn y dyfodol, a bydd angen cynnwys hyn mewn cynlluniau ariannol yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Mannau Gwyrdd a'r gallu i fynd am dro yn bwysig i les pobl, ac amlygwyd hyn yn enwedig dros y pedwar mis diwethaf. Yr her fydd blaenoriaethu o fewn cyllideb gyfyngedig a’r ansicrwydd ynghylch faint o wariant Covid-19 yr Awdurdod fydd yn cael ei ad-dalu gan y Llywodraeth. Mae ein costau wedi cynyddu hefyd, ynghyd â cholled sylweddol o incwm e.e. cynyddu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a cholli incwm mewn meysydd parcio, meysydd chwaraeon, a rhenti. Felly, er bod mannau gwyrdd yn ddilys, ar ryw adeg rhaid blaenoriaethu'r hyn a ddaw gerbron y Cabinet, ac wrth ailosod yr MTFS neu edrych ar y Cynllun Corfforaethol rhaid i ni benderfynu o hyd pa rai o'r pethau niferus yr hoffem wario arian arnynt yw'r pwysicaf. Er enghraifft, roedd yn debygol y byddai cynnydd sylweddol yn y gost ar ddigartrefedd. Er nad yw'n cymharu digartrefedd â mannau gwyrdd, ni fydd yr Awdurdod yn gallu gwneud popeth a byddai'n rhaid iddo flaenoriaethu a phennu'r ffordd orau y gallai gyflawni rhywfaint o'r hyn y gall ei gael o fewn adnoddau cyfyngedig. Teimlai'r Prif Weithredwr fod angen dod â hyn yn ôl i'r pethau sylfaenol oherwydd, er gwaethaf Covid-19, mae'r MTFS a ragwelir yn dal i'w gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod wneud arbedion sylweddol dros y 2-3 blynedd nesaf.

 

Teimlai’r Arweinydd, o ran gwneud gwahaniaeth a'r hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud yn ei weithrediadau o ddydd i ddydd, mai ymateb cyflym yr Awdurdod i gais Llywodraeth Cymru am fesurau teithio llesol dros dro yw un o'r enghreifftiau gorau o'r hyn a wnawn fel sefydliad. Ni wnaeth rhai awdurdodau lleol gais tra bod eraill yn aflwyddiannus, ond gwnaethom lwyddo i greu llwybrau teithio llesol dros dro. Dywedodd fod hyn yn enghraifft o greu dyfodol mwy cynaliadwy a gwnaethom ei weithredu mewn cyfnod byr iawn. Mae hefyd yn enghraifft o ble mae'r Awdurdod yn cael ei yrru gan Lywodraeth Cymru, gan mai hwy sy’n rheoli’r pwrs mwyaf. Mae hyn hefyd wedi dangos eu hymrwymiad drwy ariannu gwahanol ffyrdd o weithio. Cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiant Parciau Rhanbarthol y Cymoedd a mynegodd ei bleser at y gwelliannau sydd ar y gweill mewn parciau yng Nghronfa Natur Parc Slip ac ym Mharc Bryngarw. Bydd Llywodraeth Cymru am fuddsoddi ymhellach yn y mathau hynny o seilwaith gwyrdd ac mae angen i'r Awdurdod fod yn barod i fanteisio'n llawn ar gyllid pellach yn y dyfodol fel nad yw Pen-y-bont ar Ogwr yn colli allan.

 

Cytunodd y Cadeirydd â'r Arweinydd y bydd yn rhaid i ni feddwl yn wahanol ac efallai y bydd angen 'gweithio cyfunol'.

 

Dywedodd Aelod fod cyfeiriadau wedi'u gwneud at y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor, ond eu bod yn gofyn am eglurder ynghylch yr amserlenni hynny a'r hyn a fyddai'n cael ei drafod ar gyfer pob un. Awgrymwyd y dylai Aelodau wneud penderfyniadau chwim bob wythnos ond gan gyfaddef y byddai'r Panel yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Bu’r ddadl ynghylch aelodaeth, ond teimlai'r Aelod y dylai'r ddadl ganolbwyntio ar gynnwys y cyfarfodydd.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai'r hyn a oedd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfarfod oedd bod amgyffrediad pobl o'r tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor yn amrywio, ac y byddai'n anodd iddo ddiffinio mewn ffordd y byddai pawb yn cytuno arni. Ailadroddodd ei fod yn gofyn i'r Panel lunio a llywio penderfyniadau'r Cabinet. Cynghorodd y Panel i flaenoriaethu’r argymhellion cychwynnol o ran yr hyn a wnaiff wahaniaeth yn y dechrau, ac yna'n penderfynu ar y materion tymor hwy wrth barhau. Felly, dylai'r Panel gymryd peth amser i ystyried y materion, gan gofio’r dogfennau corfforaethol allweddol y cyfeiriodd y Prif Weithredwr atynt, a phenderfynu at ba faterion y gallant gyfrannu a chynyddu gwerth ar gyfer adroddiad i'r Cabinet ym mis Medi. Pe bai'r Cabinet yn ailedrych ar yr MTFS a'r Cynllun Corfforaethol ddiwedd Medi, roedd yn werth pwysleisio y byddai’n golygu mai dim ond yn yr MTFS nesaf, o 1 Ebrill 2021, y byddai unrhyw argymhelliad arall yn gymwys.

 

Rhan o'r broblem oedd bod pobl yn siarad o ran tymor byr a thymor canolig, ond eu bod yn golygu rhywbeth gwahanol i bob Aelod. Cyfeiriodd yr Aelod at sut yr oedd gwasanaethau wedi'u darparu'n wahanol e.e. mannau gwyrdd a'r sector gwirfoddoli, ac os nad yw'r Awdurdod yn cefnogi hyn wrth symud ymlaen, bydd achos arall o Covid-19 a'r cyfyngiadau symud dilynol yn arwain at anawsterau sylweddol gan na fydd rhai o'r gwirfoddolwyr hynny ar gael.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr pe bai’r pandemig yn cyrraedd ail anterth ddiwedd yr hydref, y byddai hyn yn un o'r argymhellion cychwynnol y byddai angen i'r Panel ei wneud i'r Cabinet pe teimlid bod angen cymorth ariannol/unrhyw gymorth arall ychwanegol, e.e. BAVO a grwpiau gwirfoddol eraill ledled y fwrdeistref i sicrhau y gall barhau i ddarparu rhai o'r gwasanaethau a oedd yn gweithio'n dda yn ystod y cyfyngiadau symud ac nad ydynt yn gynaliadwy heb y cymorth hwnnw. Un o'r tystion arbenigol y gallai'r Panel ddymuno ei wahodd yw Prif Weithredwr BAVO i drafod yr hyn a fyddai, yn ei barn hi, orau o ran cymorth wrth symud ymlaen. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan bob un ohonynt gyfrifoldeb i roi hyn yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol yr Awdurdod. Gall rhai o'r pethau hyn fod yn gymharol rad a byddant yn ymwneud mwy â newid yn y ffordd rydym yn gwneud pethau a ffordd wahanol o feddwl. Awgrymodd y Prif Weithredwr bod angen cofleidio'r ffordd yr oedd y berthynas wedi adeiladu yn ystod y pedwar mis diwethaf, ac y byddai’n hoff o weld agweddau ohono’n parhau. Dywedodd hefyd fod angen i'r Cyngor fod yn ofalus nad yw'n dychwelyd i beth bynnag oedd yr 'normal' ym mis Chwefror/Mawrth 2020. Oni bai eu bod yn buddsoddi peth amser ac ymdrech i sicrhau bod y berthynas ar sylfaen gadarnach, bydd yn dychwelyd i'r drefn arferol cyn y cyfyngiadau symud, perthynas a oedd yn fwy bregus a chyda thrydydd sector llawer llai galluog a gwydn yn gefn i’r Cyngor.

 

Cytunodd yr Arweinydd â'r Aelod fod tymor byr, canolig, a hir ag ystyron gwahanol i wahanol bobl. Croesawodd yr Arweinydd farn y Panel ar yr holl gamau y byddai'n eu cymryd, beth bynnag fo'r amserlen, ac mai un o fanteision mawr y Panel dros gyfarfod pwyllgor llawn yw’r gobaith y gallant gyfarfod ar fyr rybudd. Un o wersi'r pandemig yw nad oes neb yn gwybod yn iawn pa benderfyniadau fydd angen eu gwneud, a bod angen gwneud penderfyniadau'n gyflym iawn. Felly, mae penderfyniadau'n dal i gael eu gwneud bob wythnos, os nad bob dydd, ac ychydig iawn o amser sydd gennym i wneud y penderfyniadau hynny. Felly, yr hyn a welwyd yn ddefnyddiol iawn i’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yw’r gallu i ofyn i'r Panel gyfarfod ag ond ychydig ddyddiau o rybudd er mwyn profi penderfyniad y mae'n rhaid ei wneud. Bydd penderfyniadau'n dal i gael eu gwneud mewn cyfnodau byr iawn o ran ein hymateb i'r pandemig, yn enwedig os oes ail/trydedd don. Hyd yn oed os nad oes ail/trydedd don, mae cymdeithas yn newid yn gyflym, gyda cholled swyddi er enghraifft, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymateb yn gyflym i hyn. Mae angen i'r Awdurdod ymateb yn gyflym hefyd, hyd yn oed os yw ond yn ymwneud â sut rydym yn gweinyddu gwahanol fentrau ac os ydym yn cymryd rhan mewn prosiectau a chronfeydd penodol neu ddim. Felly, hyd yn oed os daw'r rheolaeth o’r pandemig yn fwy sefydlog, bydd ei effaith yn cael ei theimlo am amser hir a bydd effaith llanwol i’r effeithiau hynny. Bydd cael y Panel i gyfarfod ar fyr rybudd, os gallant, yn ddefnyddiol iawn i broses gwneud penderfyniadau'r Awdurdod.

 

Ailadroddodd y Cadeirydd fod hyblygrwydd y Panel yn allweddol, bod cyngor cyfreithiol wedi'i dderbyn ar aelodaeth ychwanegol, a chyfrifoldeb y Panel yw pennu amserlenni. Yna gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gwestiynau pellach gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod a ellid cynnal rhai o gyfarfodydd y Panel gyda'r nos i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith ac i ddarparu hyblygrwydd. Gofynnwyd hyn yn sgil cau'r adeilad Dinesig, ac nad yw’n ofynnol gadael yr adeilad am 6.30pm.

 

Cytunodd y Cadeirydd fod hyblygrwydd yn allweddol ac y gallai fod yn hyblyg o ran amseru cyfarfodydd er mwyn i'r Panel fod mor effeithiol â phosibl. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd am ddifreinio neb, ac mai’r Panel fydd yn penderfynu ar amlder y cyfarfodydd, er y gall pethau newid a'r angen i ymateb yn gyflym.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai angen ystyried sut y byddai'n sicrhau bod gwaith y Panel yn cyd-fynd â gwaith y BGC ac i fanteisio ar yr arbenigedd sy'n rhan o'r Bwrdd hwnnw. Bydd llawer o'r tystion mwyaf arbenigol ar y Bwrdd hwnnw e.e. yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Iechyd, y trydydd sector, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r Coleg. Byddai angen ystyried sut i sicrhau bod y partneriaid hynny ar gael i'r Panel, gan osgoi dyblygu a chan elwa o'r arbenigedd hwnnw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Tîm y BGC yn awyddus i weithio gyda'r Panel a rhannu eu gwaith ar yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned fel bod y gwaith yn cael ei integreiddio a'i alinio er mwyn osgoi dyblygu. Felly un o'r camau cyntaf y gallai'r Panel ddymuno ei wneud yw cyfarfod â Thîm y BGC i siarad am y gwaith y mae'r BGC yn ei wneud i helpu i lunio rhywfaint o'r cyfeiriad y gall y Panel fynd iddo. Teimlai'r Prif Weithredwr fod adnodd yno a fydd o fudd i’r Panel. Yn ogystal, efallai y bydd rhywfaint o gyfle i'r Panel ddylanwadu i ryw raddau ar yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned sy'n cael ei gynnal.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr am eu presenoldeb cyn iddyn nhw adael y cyfarfod.

 

Yna gofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddog Craffu ailadrodd pwyntiau amlwg y cyfarfod. Darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y canlynol:

 

1. Gall y Panel gynyddu ei aelodaeth o 12 i 16 oed, fel y cadarnhawyd gan y cynrychiolydd cyfreithiol drwy e-bost. Mae angen cydbwyso'r aelodaeth yn wleidyddol i gynnwys dau Aelod ychwanegol o'r Gr?p Llafur ac un Aelod yr un o'r Gr?p Cynghrair Annibynnol a'r Gr?p Ceidwadol fel aelodau cyfetholedig i'r Panel. Bydd Arweinwyr y Grwpiau yn enwebu eu cynrychiolwyr ychwanegol i fod yn Aelodau o'r Panel yn ogystal ag Aelodau presennol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

2. Mewn perthynas ag Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned y BGC, disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi, byddai'n ddoeth gwahodd Swyddogion Tîm y BGC i un o gyfarfodydd cyntaf y Panel.

 

3. Er y gall y Panel fod yn hyblyg a chyfarfod yn amlach nag unwaith y mis, mynegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bryder am effaith cyfarfodydd a gynhelir yn hwyrach yn y dydd, yn enwedig gyda'r nos, ar y Tîm Craffu, a holodd a fyddai Swyddogion Craffu ar gael i wasanaethu'r cyfarfodydd hynny.

 

Er bod angen ystyried Telerau ac Amodau staff a Hawliau Cyflogaeth, dywedodd Aelod fod angen i'r Panel fod yn hyblyg.

 

Nododd Aelod fod yr adroddiad yn cyfeirio at ddiwylliant, hamdden a llyfrgelloedd, ond bod mannau gwyrdd yn fwy o nod tymor canolig i hirdymor ac yn dibynnu ar flaenoriaethau ac ymrwymiadau ariannol. Dylid rhoi'r un flaenoriaeth i fannau gwyrdd, ond ni sonnir am ddyfodol mannau gwyrdd yn yr adroddiad. Mae angen rhywfaint o gydnabyddiaeth ar hyn o bryd y caiff hyn ei ddatrys yn y dyfodol. Cytunodd y Cadeirydd fod angen mynd i'r afael â'r mater ac y gallai'r Panel wneud argymhellion i'r perwyl hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod at awgrym y Prif Weithredwr y dylai'r Panel rannu'n weithgorau i fynd i'r afael â meysydd penodol a gofynnodd a ellid trafod dewisiadau'r Aelodau yn y cyfarfod hwn yn seiliedig ar eu harbenigedd a'u diddordebau. Gellid cynnal y cyfarfodydd gr?p hyn gyda'r nos a gall Aelodau lunio'r nodiadau a darparu yng nghyfarfod llawn y Panel heb fod angen i staff y Gwasanaethau Democrataidd wasanaethu'r is-grwpiau. Gallai hyn fod yn llawer mwy effeithiol na chyfarfod hirfaith gyda niferoedd mawr. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Aelodau anfon e-bost at y Tîm Craffu gyda gwybodaeth am eu harbenigedd/diddordebau mewn rhai meysydd gwaith a all wedyn lywio aelodaeth o'r is-grwpiau o dan benawdau penodol.

 

Argymhelliad:

 

Nodi'r adroddiad a chymeradwyo sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol, i gynnwys y 12 Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ynghyd â 4 Aelod ychwanegol i'w henwebu gan Arweinwyr Grwpiau fel a ganlyn: 2 Llafur; 1 Cynghrair Annibynnol, a; 1 Ceidwadwyr, ac i ddiwygio'r aelodaeth yn y Cylch Gorchwyl yn unol â hynny.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z