Agenda item

Polisi ar bennu addasrwydd Sgriniau Amddiffynnol mewn Cerbtdau Hacni a Cherbydau Llogi Preifat

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad ai ddiben oedd peri i Aelodau ystyried mabwysiadu a chyhoeddi polisi ar "Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat" yn sgil ymgynghoriad â'r diwydiant.

 

Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn ceisiadau gan y diwydiant yn annog yr Adran Drwyddedu i gyflwyno mwy o fesurau diogelwch mewn ceir i warchod rhag Covid-19, gan gynnwys defnyddio sgriniau diogelwch. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan yrwyr tacsi un o'r cyfraddau marwolaethau uchaf o gymharu â galwedigaethau eraill y DU.

 

Mae dogfen bolisi ddrafft wedi'i chynhyrchu, ac wedi'i chymeradwyo gan Gyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd yng Nghymru, sy'n manylu ar y gofynion a'r weithdrefn gymeradwyo ar gyfer defnyddio sgriniau mewn cerbydau. Amgaewyd copi o'r polisi drafft hwn yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

           Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar 6 Gorffennaf 2020, cadarnhawyd cyfanswm o 554 achos Covid-19 o fewn poblogaeth leol o 147,049; mae hyn yn cymharu â chyfanswm o 15,890 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Ar 26 Mehefin, bu 90 o farwolaethau cysylltiedig â Covid ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'n ddealladwy y bydd deiliaid trwydded yn awyddus i gyflwyno mesurau i’w hamddiffyn rhag lledaeniad Covid-19. Fodd bynnag, ni ddylai hyn effeithio ar ddiogelwch na chywirdeb y cerbyd. 

 

Gyda'r cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio, mae mwy a mwy o yrwyr tacsi a cherbydau llogi preifat yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, ac am geisio sicrhau eu bod yn gwneud eu gorau i amddiffyn eu hunain yn ogystal â'u teithwyr. Sgriniau dros dro mewn cerbydau sy’n cael eu trafod fwyaf o ran ymholiadau gan y fasnach, yn y gobaith y gallai gwahanu corfforol rhwng gyrwyr a theithwyr leihau trosglwyddiad Covid-19. 

 

Mewn ymateb i'r ceisiadau gan y diwydiant i osod sgriniau mewn cerbydau trwyddedig, sefydlodd y Panel Arbenigwyr Trwyddedu, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r 22 o Adrannau Trwyddedu awdurdodau lleol yng Nghymru, weithgor er mwyn cynhyrchu canllawiau i Awdurdodau Trwyddedu eu mabwysiadu, gyda'r bwriad o gysoni'r dull o gymeradwyo gosodiadau sgrin yng Nghymru.

 

Eglurodd fod gwahanol fathau o sgriniau ar y farchnad, gan gynnwys sgriniau plastig hyblyg sy'n lapio o amgylch y gyrrwr ac y gellir eu tynnu'n hawdd, a sgriniau plastig polycarbonad anhyblyg a osodir ar y seddi neu drim mewnol y cerbyd gyda sgriwiau, bolltau, a rhybedion.

 

Bwriad y polisi arfaethedig yw darparu egwyddorion arweiniol ar sut y bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ymdrin â cheisiadau o'r fath gan ddeiliaid trwyddedau sy’n dymuno gosod sgrin yn eu cerbyd. Roedd nifer o bryderon diogelwch yn gysylltiedig â’r sgriniau, er enghraifft y potensial i ymyrryd â nodweddion gwreiddiol y cerbyd, megis y bagiau awyr ochr neu symudiad sedd y gyrrwr, a bwriad y polisi yw nodi gofynion penodol i fodloni'r pryderon hyn.

 

Mae paragraff 4.7 yr adroddiad yn amlinellu gofynion y polisi.

 

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi ymgynghori â'r diwydiant ar y polisi arfaethedig, gan gynnwys nifer o weithredwyr trwyddedig yn ogystal â gyrwyr. 

 

            Derbyniwyd un ymateb mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn.  Daeth yr ymateb hwn gan weithredwr trwyddedig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Valley Cars, a ddywedodd na fyddent yn gosod sgriniau yn eu cerbydau.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion eraill.

 

Nododd Aelod nad oedd Valley Cars yn bwriadu gosod unrhyw sgriniau amddiffynnol o'r fath, a gofynnodd a allai'r Awdurdod Trwyddedu orfodi'r defnydd o sgriniau mewn tacsis.

 

Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu nad oedd unrhyw dystiolaeth gadarn ar hyn o bryd fod gosod sgriniau yn lleihau lledaeniad y salwch, ac o ystyried hyn byddai'n anghymesur i'r Awdurdod Trwyddedu ei gwneud yn orfodol i bob gyrrwr/gweithredwr tacsi osod sgriniau yn eu cerbydau.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gyfarwyddeb gadarn wedi ei roi i yrwyr tacsi wisgo masgiau wrth eu gwaith, ac i fynnu bod teithwyr yn gwisgo masgiau o'r fath hefyd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod hyn yn rhan o becyn o fesurau a oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd. Ychwanegodd fod cynnig yng Nghymru i’w gwneud yn orfodol i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus wisgo masgiau o 27 Gorffennaf ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd pe bai unrhyw sgriniau'n cael eu cyflwyno mewn tacsis, yna byddai'n rhaid iddynt fodloni'r safonau diogelwch gofynnol a gyflwynwyd drwy unrhyw reoliadau a chanllawiau polisi a gyflwynwyd o ganlyniad i Covid 19.

 

PENDERFYNIAD:                       Fod y Pwyllgor:

 

(i)         Yn mabwysiadu’r defnydd o Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat fel y nodir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

(ii)        Yn cytuno y dylid dirprwyo'r penderfyniad i gymeradwyo sgrin ar gyfer Tacsis neu Gerbydau Hurio Preifat i’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD, a Rheoleiddiol.

 

Dogfennau ategol: