Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd MC Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

 

Faint o achosion llys, (dirwyon, gorchmynion atafaelu enillion ac ati) a'r defnydd o feilïaid a ddefnyddiwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn adennill y dreth gyngor sydd heb ei thalu, a faint a adenillwyd drwy gamau o'r fath?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg yn ystod y Pandemig fod COVID – 19 wedi effeithio’n anghymesur ar weithwyr iechyd proffesiynol o gefndiroedd ethnig.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi sicrwydd i ni fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn Awdurdod Iechyd Cwm Taf Morgannwg gan gynnwys ein Cartrefi Gofal wedi cael eu hasesiadau risg fel rhagofal, gan gynnwys eu hethnigrwydd fel ffactor risg, ynghyd ag oedran, pwysau, problemau iechyd sylfaenol, anabledd a beichiogrwydd, a beth ydym ni wedi’i ddysgu?

 

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd MC Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

 

"Sawl achos llys, dirwy, gorchymyn atal cyflog ac ati, a sawl gwaith mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio beilïaid i adennill y Dreth Cyngor heb ei thalu, a faint a adenillwyd drwy’r camau gweithredu hyn?"

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd:

 

Mae’r Dreth Gyngor yn daladwy ar bob annedd domestig yn y fwrdeistref ac mae’n daladwy o 1 Ebrill bob blwyddyn.  Fodd bynnag, mae pawb yn cael yr opsiwn i dalu drwy randaliadau am 10 neu 12 mis.  Os caiff rhandaliad ei golli, caiff hysbysiad atgoffa ei anfon yn gofyn am y taliad, a bydd y broses adennill yn dechrau.  Crynhowyd y broses ar ffurf siart llif. 

 

Wedi i’r hysbysiad terfynol gael ei anfon, mae talwr y Dreth Gyngor yn colli’r hawl i dalu drwy randaliadau, a daw’r balans sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn yn daladwy.

           Os caiff y taliad llawn ei dderbyn, ni chymerir unrhyw gamau pellach

           Os caiff rhan o’r taliad neu ddim ohono ei (d)derbyn, caiff gw?s ei dderbyn ynghyd â chostau ar gyfer y balans sy’n weddill

 

Wedi i w?s gael ei anfon, mae talwr y Dreth Gyngor yn colli’r hawl i dalu drwy randaliadau, a daw’r balans sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn yn daladwy.

           Os caiff y taliad llawn ei dderbyn, gan gynnwys costau, cyn y dyddiad llys, ni chymerir unrhyw gamau pellach

           Os caiff rhan o’r taliad ei derbyn cyn y dyddiad llys, ceir Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon ar gyfer y balans sy’n weddill

           Os na chaiff taliad ei dderbyn cyn y dyddiad llys, ceir Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon ar gyfer y balans sy’n weddill

 

Ar hyn o bryd, ar ôl cael Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon, mae’r camau canlynol ar gael i ni er mwyn adennill dyled y Dreth Gyngor:-

 

Cam gweithredu                   Sylwadau

Cytundeb swyddfa                 Os bydd rhywun yn mynd i gytundeb ac yn parhau i wneud taliadau, ni chymerir unrhyw gamau pellach.  Fodd bynnag, os caiff cytundeb ei dorri, byddant yn cael llythyr i ddechrau yn gofyn iddynt sicrhau bod eu cytundeb yn gyfredol.  Os na chaiff hyn ei wneud, defnyddir dull arall i adennill y balans, a all gynnwys unrhyw rai o’r dulliau sydd ar gael, gan ddibynnu ar ba wybodaeth sydd wedi’i dal ar y cyfrif penodol.

 

Atafaelu enillion                      Dyma lle mae’r balans sy’n weddill yn cael ei gasglu drwy gyflog unigolyn ar sail ei incwm net.  Dim ond 2 orchymyn atafaelu enillion sy’n gallu bod ar waith ar unrhyw adeg.  Llywodraeth ganolog sy’n pennu’r swm i’w ddidynnu gan y cyflogwr, a bydd yn parhau nes i’r ddyled gael ei thalu’n llawn neu nes i’r cyflogai roi’r gorau i weithio.  Yna, mae’r cyflogwr yn gyfrifol am anfon unrhyw ddidyniadau’n uniongyrchol atom er mwyn clirio’r ddyled.  Os bydd unigolyn yn gadael cyflogaeth, caiff llythyr ei anfon yn gofyn iddo/iddi gysylltu â ni i wneud trefniadau amgen i glirio’r ddyled.  Fodd bynnag, os na fydd yn cysylltu â ni ac os nad oes dull amgen ar gael, gellir pasio’r ddyled i asiant gorfodi i’w chasglu, a fydd yn arwain at gostau pellach. 

 

Atafaelu budd-daliadau           Dyma lle mae’r balans sy’n weddill yn cael ei ddidynnu’n uniongyrchol o fudd-daliadau unigolyn.  Fodd bynnag, mae’n bosibl gwneud y didyniadau hyn o fudd-daliadau penodol yn unig, a chaiff y swm i’w ddidynnu ei bennu gan lywodraeth ganolog gan ddibynnu ar y budd-dal mae’r unigolyn yn ei gael, a dim ond 1 gorchymyn atafaelu budd-daliadau sy’n gallu bod ar waith ar unrhyw adeg.  Gan fod unigolyn sy’n cael budd-daliadau ar incwm isel, mae swm y didyniadau’n gymharol isel, felly mae’n cymryd amser sylweddol i’w talu.  Os nad yw unigolyn yn cael budd-dal y gellir ei atafaelu mwyach, caiff llythyr ei anfon yn gofyn iddo/iddi gysylltu â ni i wneud trefniadau amgen.  Fodd bynnag, os na fydd yn cysylltu â ni ac os nad oes dull amgen ar gael, gan ddibynnu ar werth y balans sy’n weddill, gellir pasio’r ddyled i asiant gorfodi i’w chasglu, a fydd yn arwain at gostau pellach.

 

Atafaelu nwyddau drwy      Fel arfer, defnyddio asiantaeth orfodi yw’r asiantau gorfodi                  gobaith olaf pan nad oes unrhyw ddull adennill
                                                arall ar gael i ni.  Pan fydd dyled yn cael ei                                                    phasio i’r asiantau gorfodi, bydd llythyr                                                                      cychwynnol yn cael ei anfon at y dyledwr.  Bryd                                        hynny, bydd cost o £75 yn cael ei chodi; fodd                                                           bynnag, gall y dyledwr ddod i drefniant â’r                                                     asiantau gorfodi i glirio’r ddyled heb iddynt orfod                                          ymweld â’r eiddo.  Cyn belled ag y glynir wrth y                                              trefniant hwn ac y caiff y ddyled ei thalu’n llawn,                                           ni chymerir unrhyw gamau pellach ac ni fyddai                                                         angen i’r asiant gorfodi ymweld â’r eiddo.  Fodd                                           bynnag, os caiff y llythyr ei anwybyddu, bydd yr                                        asiant gorfodi’n ymweld â’r eiddo gyda’r bwriad o                                         gasglu cyfanswm y balans sy’n weddill, a daw                                                          cost ychwanegol o £235 yn daladwy.  Gall ffi                                                        ychwanegol fod yn daladwy hefyd, gan ddibynnu                                      ar werth y ddyled.  Sylwer fod strwythur y ffioedd                                         wedi’i bennu mewn deddfwriaeth dan Ddeddf                                                           Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 –                                                           Rheoliadau Cymryd Rheolaeth Dros Nwyddau                                                         (Ffioedd) 2014 – ac felly nid ydynt yn agored i                                                          drafodaeth.

           

Gorchymyn talu                      Os caiff dyled ei dychwelyd gan yr asiantau gorfodi, gan nad oeddent yn gallu ei chasglu, os yw’r dyledwr yn berchen ar yr eiddo, gellir rhoi gorchymyn talu ar yr eiddo os yw’r ddyled sy’n weddill ar yr eiddo hwnnw dros £1,000.  Mae hyn yn gofyn i Adran Gyfreithiol y Cyngor wneud cais am orchymyn talu dros dro gan y Llys Sirol.  Yna, bydd yr Adran Gyfreithiol yn ysgrifennu at y dyledwr i roi gwybod y cafwyd gorchymyn talu dros dro, ac yn rhoi gwybod am y dyddiad y gofynnir am y tâl terfynol, oni bai y caiff ei dalu’n llawn.  Os caiff y ddyled ei thalu’n llawn, ynghyd â’r costau cyfreithiol yr aed iddynt, ni chymerir unrhyw gamau pellach.  Os na chaiff y ddyled ei thalu’n llawn, gofynnir am y tâl terfynol gan y llys a chaiff ei gofrestru yn erbyn yr eiddo ar y gofrestrfa tir.  Dim ond pan gaiff y ddyled ei thalu’n llawn, ynghyd ag unrhyw gostau yr aed iddynt, y caiff y tâl ei dynnu oddi ar gofnodion y gofrestrfa tir.  Caiff y math hwn o gam adennill ei ddefnyddio mewn achosion cyfyngedig iawn yn unig, ac mae’n effeithiol pan fydd eiddo’n cael ei werthu, gan nad yw’r perchnogion newydd eisiau prynu eiddo sydd â thâl arno.  Os yw’r eiddo’n wag, gall y Cyngor wneud cais i’r llys am orchymyn gwerthu.

 

Methdaliad                              Gellir ond defnyddio’r math hwn o gam adennill os yw ddyled y Dreth Gyngor yn fwy na £5,000, a byddai ond yn cael ei ddefnyddio pe byddai asedau talwr y Dreth Gyngor yn fwy na’r swm sy’n daladwy.  Caiff gwrandawiad methdalu ei drefnu yn y Llys Sirol, a dylid gwneud pob ymdrech i’w fynychu.

 

Cyn 1 Ebrill 2019, roedd y bygythiad o fynd i’r carchar yn gorfodi talwyr y Dreth Gyngor i dalu eu costau; fodd bynnag, er 1 Ebrill 2019, diddymwyd y gosb o draddodi am beidio â thalu’r Dreth Gyngor, gan ei gwneud yn anoddach casglu dyledion gan ddyledwyr trafferthus.  Fodd bynnag, pan fo achosion traddodi wedi dechrau cyn 1 Ebrill 2019, gellir parhau i fynd i’r afael â’r rhain.

 

Gallai un talwr y Dreth Gyngor fod â sawl gorchymyn atebolrwydd â dyled yn daladwy ar bob un ohonynt dros nifer o flynyddoedd.    

 

Gellid dechrau casglu un gorchymyn atebolrwydd drwy atafaelu enillion; fodd bynnag, gallai’r dyledwr ddod yn ddi-waith a gwneud cytundeb swyddfa, ond methu â chadw at delerau’r cytundeb, a byddai’r ddyled yn cael ei phasio i’r asiantau gorfodi.  Mae hyn yn dangos y gellid defnyddio sawl dull adennill ar orchymyn atebolrwydd unigol er mwyn casglu’r ddyled sy’n weddill, a gall cymryd blynyddoedd i’w chasglu’n llawn.  

 

Mae gennym nifer o gyfrifon y dreth gyngor lle’r ydym yn casglu dyledion ar fwy nag un gorchymyn atebolrwydd ar y tro, lle mae pob un yn cael ei chasglu drwy ddull adennill gwahanol.  Gallai hyn fod ar y cyd â rhandaliadau’r flwyddyn gyfredol hefyd. 

 

Nid yw’r system TGCh refeniw rydym yn ei defnyddio yn cynnig dadansoddiad o faint a gasglwyd drwy bob dull adennill, gan y gallai pob gorchymyn atebolrwydd fod wedi defnyddio sawl dull adennill gwahanol dros amser, â thaliad rhannol drwy bob dull adennill.

 

Hefyd, nid yw’n bosibl nodi taliadau a wnaed mewn perthynas ag atafaelu enillion drwy’r system derbynebau arian parod a ddefnyddir gan y Cyngor.   

 

Mae’r wdurdod hwn wedi ceisio casglu cymaint o ddyledion ag y bo modd erioed, a bydd ond yn anfon dyled at asiantau gorfodi pan fetho popeth arall, gan ein bod yn ceisio osgoi costau pellach i’r dyledwr.

 

Amlinellwyd tabl yn dangos nifer y gorchmynion atebolrwydd a gafwyd gan y Llys yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19 a hyd yma yn 2019/20.  Mae hefyd yn cynnwys nifer a gwerth y cyfrifon a anfonwyd at yr asiantau gorfodi am yr un cyfnod, ynghyd â’r incwm a gafwyd ganddynt yn ystod yr un cyfnod.  Fodd bynnag, nid yw’r swm a gafwyd ar gyfer y cyfnod yn ymwneud â’r cyfrifon a anfonwyd yn ystod yr un cyfnod, o reidrwydd, gan y gallant fod ar gyfer dyledion a anfonwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Gallai atafaelu enillion ac asiantau gorfodi fod yn ymwneud â dyledion o flynyddoedd blaenorol, ac nid y rhai hynny y cafwyd Gorchmynion Atebolrwydd ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn yn unig.  Hefyd, gellid eu hanfon ar gyfer yr un dull adennill fwy nag unwaith y flwyddyn e.e. gellir anfon dyled at yr asiantau gorfodi, a all gael ei dychwelyd atom gan nad ydynt yn gallu olrhain y dyledwr.  Yna, os byddwn yn dod o hyd i gyfeiriad anfon ymlaen, gellir anfon y ddyled yn ôl atynt ar gyfer yr un gorchymyn atebolrwydd.  Felly, bydd un gorchymyn atebolrwydd yn dangos fel 2 orchymyn atebolrwydd a anfonwyd at yr asiantau gorfodi.  Yn yr un modd, os caiff gorchymyn atafaelu enillion ei anfon a bod yr unigolyn yn gadael y cyflogwr penodol hwnnw, ond yn dechrau gweithio rywle arall, bydd gorchymyn atafaelu enillion newydd yn cael ei anfon at y cyflogwr newydd, ac felly’n dangos fel un gorchymyn atebolrwydd â 2 orchymyn atafaelu enillion.

 

Ar hyn o bryd, y gyfradd casglu’r Dreth Gyngor yn ystod y flwyddyn yw 95.1%, sy’n gyfwerth â chyfanswm o £78,993,469.70 a gasglwyd hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, a’r ôl-ddyledion a gasglwyd ar gyfer blynyddoedd blaenorol yw 31.6%, sy’n gyfwerth â gostyngiad o £1,808,042.17 i’r cyfanswm ôl-ddyledion o gymharu â dechrau’r flwyddyn.

 

Mae’r isadran refeniw yn ceisio gwneud gwelliannau i’r system yn y flwyddyn ariannol newydd fel rhan o’r rhaglen awtomatiaeth/digidoleiddio, er mwyn gwella effeithlonrwydd a chasglu.  Gyda’r modiwlau hyn, bydd yr isadran refeniw yn gallu awtomeiddio mwy o’r prosesau â llaw presennol, a fydd yn rhyddhau amser i’r gwasanaeth allu canolbwyntio ar adennill y dyledion anoddach a mwy llafurus.  Po gyflymaf yw’r broses, y mwyaf tebygol ydyw y caiff y ddyled ei chasglu.  Bydd awtomeiddio’r prosesau hyn yn arwain at amseroedd ymateb ac ymgysylltiad cynt â chwsmeriaid, cyfraddau casglu gwell ac incwm i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd.

 

Yn ei gwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Voisey ba gamau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i wella cyfradd gasglu’r Dreth Gyngor pan nad yw preswylwyr yn talu’r Dreth Gyngor.  Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Cyngor bod nifer yr achosion lle nad yw’r Cyngor yn cael ymateb gan breswylwyr ac mae’n gwysio preswylwyr nad ydynt yn talu’r Dreth Gyngor yn isel.  Dywedodd y byddai swyddogion yn gweithio tuag at gyflawni cyfradd gasglu o 98%.  Rhoddodd y Swyddog Adran 151 wybod i’r Cyngor y byddai’n rhoi gwybod i Aelodau am gyfradd gasglu’r Dreth Gyngor ar ddiwedd y flwyddyn.  

 

Holodd aelod o’r Cyngor am effaith gadarnhaol dileu’r Dreth Gyngor ar dai gwag.  Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Cyngor fod dileu’r Dreth Gyngor wedi galluogi ailddefnyddio 866 o dai a oedd yn wag yn flaenorol.  Roedd adeiladu tai newydd yn y Fwrdeistref wedi creu £1.5m ychwanegol yn y Dreth Gyngor.    

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at y cynllun ffyrlo yn dod i ben, a gofynnodd a ellid cynnal ymarferion modelu data i gysylltu cofnodion y Dreth Gyngor ag asiantaethau gwirio credyd er mwyn helpu preswylwyr a all ei chael hi’n anodd talu’r Dreth Gyngor.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai’n fodlon edrych ar hyn.  Dywedodd y byddai cyfraddau casglu’n effeithio ar awdurdodau ledled Cymru, ac roedd yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. 

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar

 

Mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig bod COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar weithwyr iechyd proffesiynol o gefndiroedd ethnig.  A allai’r Aelod Cabinet sicrhau i ni fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn Awdurdod Iechyd Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys ein cartrefi gofal, wedi cael asesiad risg fel mesur rhagofalus, a oedd yn cynnwys eu hethnigrwydd fel ffactor risg, ynghyd â’u hoedran, pwysau, cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, anabledd a beichiogrwydd, a beth ydym wedi’i ddysgu?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar

Bu Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn defnyddio offeryn asesu risg safonol sydd ar gael i’r holl staff.  Targedwyd yr offeryn asesu ar gyfer staff duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a lle y nodir risg, mae rheolwyr yn addasu’r gweithle neu’r patrwm gwaith neu, os nad yw’n glir, gwneir atgyfeiriad i Iechyd Galwedigaethol.  Os oes gan y Cynghorydd Hussain bryder penodol am unigolyn neu leoliad lleol, byddwn yn fodlon derbyn yr atgyfeiriad hwnnw a’i gyfeirio at y gweithiwr iechyd proffesiynol priodol.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu asesiad risg y gweithlu i gynorthwyo staff yn y gwaith, a sicrhau y gall unrhyw aelod staff a fu i ffwrdd o’r gwaith ddychwelyd yn ddiogel ac y gellir gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.  Yn ogystal, bu’r Cyngor yn cynnal hyfforddiant rheoli heintiau drwy gydol y pandemig, a blaenoriaethwyd lleoedd i staff duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.  Bu Iechyd yr Amgylchedd, y Bwrdd Iechyd ac AGC yn cefnogi’r sector gofal i reoli heintiau hefyd.

 

Yn ei gwestiwn atodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Hussain at asesiad risg y gweithlu, a gofynnodd a ddysgwyd unrhyw wersi a pha bryd y byddai’r adroddiad ar gael.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar wybod i’r Cyngor fod y pecyn offer a gyflwynwyd wedi canolbwyntio’n wreiddiol ar gyflogeion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio mewn lleoliadau clinigol.  Erbyn hyn, mae wedi’i ddiwygio gan Lywodraeth Cymru a gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle, a bu’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn adolygu’r pecyn offer ac yn cyflwyno matrics sgorio i gynorthwyo cyflogeion i ailgydio yn eu dyletswyddau.  Wrth i’r pecynnau offer gael eu cyflwyno’n ehangach, dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’n holi pryd y bydd yr adroddiad ar gael. 

 

Gofynnodd aelod gwestiwn atodol yn ymwneud â’r arolwg staff diweddar, a ph’un a oedd yn fodlon bod yr holl staff sy’n ystyried eu hunain yn bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’i lenwi.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar wybod i’r Cyngor ei fod yn fodlon â’r ymatebion a bod pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi amlygu eu hunain yn yr arolwg, ac y byddai’n anfon copi o’r adroddiad at Aelodau. 

 

Gofynnodd aelod gwestiwn atodol yn ymwneud ag annog partneriaid i ddefnyddio’r pecyn offer.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar wybod i’r Cyngor fod y pecyn offer yn cael ei ddefnyddio’n ehangach erbyn hyn, a’i fod wedi’i ddatblygu â’r undebau llafur, a oedd wedi cytuno â’r broses ar gyfer aelodau staff yn llenwi’r pecynnau offer.  Dywedodd fod Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar y blaen o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r risgiau, nid yn unig i staff BAME ond preswylwyr BAME hefyd.      

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z