Agenda item

Canlyniad y Rhaglen Gyfalaf 2019-20 ac Adroddiad Diweddaru Chwarter 1 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofynion Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA); rhoddodd ddiweddariad ar yr alldro cyfalaf ar gyfer 2019-20; rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Cyfalaf ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Mehefin 2020; ceisiodd gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 hyd 2029-30, ac i’r Cyngor nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21.

 

Crybwyllodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf £35.474m, a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 26 Chwefror 2020, ac a ddiwygiwyd ymhellach a’i chymeradwyo gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i gynnwys cyllidebau a dducpwyd ymlaen o 2018-29 ac unrhyw gynlluniau a chymeradwyaethau grantiau newydd.  Crybwyllodd fod y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Chwefror 2020 fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn dod i gyfanswm o £30.137m, y daw £13.964m ohono o adnoddau CBS Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a benthyciadau, gyda’r £16.173 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol.   

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod i’r Cyngor na wnaed llawer o newidiadau, heblaw’r cymeradwyaethau newydd o £1.964m o ganlyniad i’r cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru – sef Grant Seilwaith Hwb a’r £0.403m o gyllid a ddaethpwyd yn ôl o 20-21 o adlewyrchu’n fwy cywir y proffiliau gwario, a oedd yn dod â’r gyllideb ddiwygiedig i £32.504m.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor mai’r cyfanswm gwariant ar 31 Mawrth 2020 oedd £22.822m, a oedd yn arwain at gyfanswm tanwariant o £9.682m.  Yn ystod y flwyddyn, roedd nifer o gynlluniau wedi dechrau ond nid oeddent wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn, neu roeddent wedi’u symud yn gyfan gwbl i 2020-21.  Roedd y rhain yn cynnwys adnewyddu Depo Tred?r, Cryfhau Pontydd ar yr A4061 Cwm Ogwr, y Fargen Ddinesig a gwaith adnewyddu yng Nghwm Llynfi.  Crybwyllodd y bu llithriant am nifer o resymau, gan gynnwys oedi o ran dechrau prosiectau oherwydd yr angen i ymgymryd ag arolygon ehangach, trafodaethau parhaus â chyrff ariannu ac oedi cyffredinol arall mewn rhaglenni.  Roedd yn debygol y byddai llithriant sylweddol yn ystod 2020-21 hefyd, o ganlyniad i gyfyngiadau symud COVID-19 a’r rheoliadau dilynol yn ymwneud â chadw pellter cymdeithasol.    

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod i’r Cyngor bod angen llithriant net o £9.073 miliwn yn 2020-21, a bod y prif gynlluniau fel a ganlyn:

 

·         £2,246,000 mewn perthynas â Datblygiad Llynfi – mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ag estyniad o 6 mis i’r benthyciad i alluogi’r Cyngor i ymgymryd â gwaith dichonolrwydd pellach

·         £908,600 o gyllid ar gyfer mân waith cyfalaf sydd wedi llithro o ganlyniad i’r oedi o ran cwblhau nifer o gynlluniau

·         £564,000 mewn perthynas â’r Hwb Preswyl i Blant oherwydd oedi wrth gadarnhau’r cymeradwyaeth cyllid

·         £471,000 mewn perthynas â Chryfhau Pontydd.  Bu oedi o ran elfennau sylweddol o’r gwaith gan y cwmni cyfleustodau ac, fel y cyfryw, mae nifer o elfennau o wariant y contract wedi’u gohirio tan yn ddiweddarach yng nghyfnod y contract diwygiedig

·         £582,000 mewn perthynas â’r Hwb Menter, gan fod y prosiect wedi’i ailbroffilio a’i ail-ffurfweddu yn 2020-21

·         £520,000 mewn perthynas â Thrawsffurfio Digidol tra mae’r strategaeth digidol yn cael ei datblygu, er mwyn sicrhau bod datblygu’n ystyried effeithiau COVID-19 a sut gall technoleg digidol gefnogi’r Cyngor o ran ei fodel gweithredu

·         £320,000 mewn perthynas ag Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B.  Mae cynlluniau newydd yn y cyfnod dichonolrwydd ar hyn o bryd

·         £260,000 mewn perthynas â Neuadd y Dref Maesteg oherwydd oedi a newidiadau i broffiliau ariannu o ganlyniad i’r Cyngor yn manteisio ar gyllid grant ychwanegol yn ystod 2019-20.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro ddiweddariad ar raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 ers i’r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, a oedd yn cynnwys unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant.  Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 yn dod i gyfanswm o £62.305m, y daw £40.313m ohono o adnoddau’r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a benthyciadau, gyda’r £21.992 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.  Amlygodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth.  Crynhodd y rhagdybiaethau ariannu cyfredol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020-21, a bod adnoddau cyfalaf yn cael eu rheoli i sicrhau’r budd ariannol mwyaf i’r Cyngor, a all gynnwys adlinio cyllid i fanteisio i’r eithaf ar grantiau’r llywodraeth.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod am nifer o newidiadau i’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020-21, fel a ganlyn:

  • Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B
  • Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig – Dosbarthiadau Symudol
  • Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydanol (EVCP)
  • Hwb Llety Preswyl i Blant
  • Depo Bryncethin
  • Hwb Menter Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolfan Ailgylchu Cymunedol, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl
  • Peilot Catrefi Gwag Gorllewin y Cymoedd

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod am fonitro dangosyddion ariannol a dangosyddion eraill ar gyfer 2020-21 hyd 2022-23 hefyd, ynghyd â rhai dangosyddion lleol.  Bwriad y Strategaeth Cyfalaf yw rhoi trosolwg a sut mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli’r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, ynghyd â throsolwg o sut caiff risgiau cysylltiedig eu rheoli, a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol.  Cynhwyswyd nifer o ddangosyddion darbodus, a gymeradwywyd gan y Cyngor.  Yn unol â gofynion y Cod Materion Ariannol, mae’n ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn pob dangosydd ariannol blaengar a’r gofynion penodedig.  Rhoddodd fanylion am y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2019-20, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2020-21 a amlinellir yn Strategaeth Cyfalaf y Cyngor, a’r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2020-21 ar sail y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy’n dangos bod y Cyngor yn gweithredu’n unol â’r cyfyngiadau cymeradwy.

 

Crybwyllodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod angen i’r Strategaeth Cyfalaf fonitro buddsoddiadau nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli’r trysorlys a rhwymedigaethau hirdymor eraill.  Crybwyllodd fod gan y Cyngor bortffolio buddsoddi bresennol sydd wedi’i seilio 100% yn y Fwrdeistref Sirol, ac yn y sectorau swyddfa a diwydiannol yn bennaf.  Mae ffrydiau incwm wedi’u lledaenu rhwng y buddsoddiadau gosodiad sengl ac aml-osod ar Barc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr, yr ystadau diwydiannol aml-osod a’r buddsoddiadau rhent tir rhydd-ddaliadol.  Cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi ar 31 Mawrth 2020 oedd £4.635 miliwn.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor fod ganddo nifer o Rwymedigaethau Hirdymor Eraill yn y Strategaeth Cyfalaf hefyd.

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Cyngor fod hwn yn gyfnod heriol iawn i’r Cyngor, a oedd wedi arwain at lithriant mewn nifer o gynlluniau.  Crybwyllodd ei fod wedi gorfod defnyddio pwerau brys i ddiwygio’r rhaglen gyfalaf i awdurdodi gwariant o £1.2m i ddarparu dosbarthiadau dros dro ac ymgymryd â gwaith seilwaith ar rannau o brif adeilad yr ysgol y mae angen eu cadw, a’u cadw mewn defnydd (e.e. y neuadd a’r gegin) yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig.    

 

Roedd yn falch gan aelod o’r Cyngor nodi’r cyllid brys ar gyfer gwaith yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, a oedd oherwydd y diffygion difrifol yng nghyflwr yr adeilad yn peri risg iechyd a diogelwch i ddisgyblion a staff.  Diolchodd yr aelod i’r Cyngor ar ran disgyblion, staff a’r corff llywodraethol am ba mor gyflym yr awdurdodwyd ystafelloedd dosbarth dros dro a gwaith seilwaith.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor:

 

·         Yn nodi’r alldro cyfalaf ar gyfer 2019-20;

·         Yn nodi diweddariad Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 hyd at 30 Mehefin 2020;

·         Yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig;

·         Yn nodi’r Dangosyddion Ariannol ar Eraill ar gyfer 2020-21.  

     

Dogfennau ategol: