Agenda item

Diweddariad ar Ymateb Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Covid-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar yr ymateb i’r pandemig COVID-19 a’r camau sy’n cael eu cymryd tuag at adfer, ac i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am y dull adfer, gan gynnwys sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol.

 

Rhoddodd wybod i’r Cyngor, er mwyn ymateb i’r pandemig COVID-19 byd-eang, ar 23 Mawrth 2020, y rhoddodd Llywodraeth y DU gyfyngiadau symud cenedlaethol ar waith er mwyn ceisio lleihau lledaenu’r coronafeirws.  Ers hynny, mae’r Cyngor wedi newid yn sylweddol dros y pedwar mis diwethaf, yn aml yn ymateb ar frys i newidiadau o ran amgylchiadau, arweiniad a rheoliadau.  Crëwyd gwasanaethau newydd, ataliwyd rhai gwasanaethau, adleoliwyd staff a rhoddwyd arferion gweithio newydd ar waith, gan gynnwys galluogi’r rhai sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny.  Crybwyllodd mai’r ffocws dros y pedwar mis diwethaf fu cyflwyno gwasanaethau hanfodol, yn enwedig y rhai i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ei gymunedau, a cheisio atal lledaenu’r feirws er mwyn achub bywydau.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor bod gwasanaethau wedi’u haddasu ar raddfa a chyflymder digynsail, tra rhoddwyd trefniadau llywodraethu brys ar waith.  Trwy gydol y broses hon, bu un dull gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gwell. 

 

Tynnodd sylw hefyd at graffeg a oedd yn dangos ymateb y Cyngor i COVID?19.  Amlygodd nifer yr achosion o COVID-19 yn y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â nifer y marwolaethau. 

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y camau sy’n cael eu cymryd o ran llacio’r cyfyngiadau symud yn raddol, ynghyd â’r heriau parhaus sy’n effeithio ar y Cyngor.  Amlygodd yr heriau ariannol i’r Cyngor, sef y pwysau ychwanegol o ran costau, incwm a gollwyd i’r Cyngor, a’r posibilrwydd na fydd yr arbedion o £2.413m yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael eu cyflawni.  Fodd bynnag, gwnaed arbedion annisgwyl o ran cludiant o’r cartref i’r ysgol, adeiladau a thanwydd.  Dywedodd ei bod yn debygol y bydd diffyg yn y Dreth Gyngor, yn enwedig o ystyried yr oedi wrth ddechrau adfer a’r cynnydd mewn budd-daliadau’r Dreth Gyngor.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor am ystod y cymorth ariannol a fu ar gael gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru.  Amlygodd y sefyllfa o ran hawliadau misol am wariant ychwanegol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, â thanwariant o £3.8m yn chwarter 1.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y broses Ailddechrau, Adfer ac Adnewyddu a sefydlu’r Panel Adfer Trawsbleidiol.  Byddai angen ailosod cyllideb a Chynllun Corfforaethol 2020/21 er mwyn ystyried yr amgylchiadau a’r blaenoriaethau diwygiedig.  Amlygodd y blaenoriaethau adfer y mae’r Cyngor yn eu hwynebu, ynghyd ag ymateb cydlynus i adfer.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor am yr angen i groesawu’r normal newydd, ond hefyd deall y cyfleoedd a’r risgiau.  I gloi, rhoddodd wybod i’r Cyngor y bu’n cyfnod heriol hwn o 4 mis yn unigryw â newid digynsail, a bu ymateb y Cyngor yn rhagorol, gyda’r ymateb gan rai aelodau staff yn arwrol.  Dywedodd fod yr ergyd economaidd yn debygol o fod yn ddifrifol, â mwy o ddiweithdra a phobl yn hawlio budd-daliadau.

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor ba mor hyderus yw’r Cyngor o ran ymdopi ag ail ymchwydd mewn achosion.  Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Cyngor fod yr holl ysbytai dros dro wedi’u cadw, a bod gwasanaethau wedi’u paratoi’n well ar gyfer ail ymchwydd.  Bu llai o achosion o’r haint ym Mhen-y-bont ar Ogwr o gymharu â’r ardaloedd eraill sy’n ffurfio Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ac mae cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal â’r Prif Weithredwr a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd.

 

Diolchodd aelod o’r Cyngor i weithwyr allweddol y Cyngor am eu gwaith yn ystod y pandemig, a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith wrth brosesu atgyfeiriadau mor brydlon yn ystod y cyfnod hwn.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at y Panel Adfer Trawsbleidiol a gofynnodd a fyddai trefniadau’r cyfarfodydd yn hyblyg ac yn cael eu darlledu ar y we.  Roedd y Prif Weithredwr yn rhagweld y byddai cyfarfodydd y panel yn hyblyg, y byddai’n gallu gwahodd mynychwyr ac adrodd ar ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i wneud argymhellion i’r Cabinet.  Nid oedd unrhyw fwriad i ddarlledu cyfarfodydd y Panel ar y we.  Crybwyllodd y byddai angen i’r panel edrych ar ailosod y gyllideb a’r Cynllun Corfforaethol er mwyn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, ac ymlaen i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cyngor:

(1) yn nodi’r cyflwyniad gan y Prif Weithredwr;

  (2) yn nodi’r dull a gymeradwywyd gan y Cabinet ar gyfer ymateb i’r pandemig COVID-19, a galluogi’r Cyngor i ailddechrau, adfer ac adnewyddu’r gwasanaethau a ddarperir ganddo;

(3) yn nodi sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol i helpu i ffurfio, llywio a chynghori’r Cabinet ar gynlluniau adfer y Cyngor.                       

 

Dogfennau ategol: