Agenda item

Monitro Cyllideb 2020-21 Rhagolwg Refeniw Chwarter 1

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am sefyllfa ariannol refeniw'r Cyngor ar 30 Mehefin 2020 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer trosglwyddiadau cyllideb rhwng £100k a £500k, fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Eglurodd fod yr adroddiad hwn ychydig yn wahanol i adroddiadau chwarterol blaenorol o'r fath, oherwydd yr heriau a achoswyd gan y pandemig Covid yn y chwarter cyntaf eleni.

 

Atgoffodd y Cabinet fod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £286.885m ar gyfer 2020-21. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, adolygir amcanestyniadau cyllideb yn rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter.

 

Y sefyllfa gyffredinol a rhagwelir ar 30 Mehefin 2020 yw gorwariant net o £3.051 miliwn, sy'n cynnwys gorwariant net o £2.803 miliwn ar gyfarwyddiaethau a gorwariant net o £248,000 ar gyllidebau corfforaethol. Cyfeiriwyd at Dabl 1 yn yr adroddiad. Mae'r sefyllfa a rhagwelir yn seiliedig ar:-

 

          Gynnwys ad-daliadau gwariant a wnaethpwyd hyd yma ar wariant COVID-19 gan Lywodraeth Cymru (LlC).

• Eithrio gwariant COVID-19 sy’n cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.

•Eithrio gwariant COVID-19 nad yw wedi'i hawlio na'i ysgwyddo eto yn chwarteri 2 i 4.

• Eithrio cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer colli incwm gan nad yw lefel y cymorth wedi'i chadarnhau.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, at yr effaith a gafodd Covid-19 ar yr awdurdod lleol o ran gwariant, fel y nodir ym mharagraff 4.1.3 o'r adroddiad. Roedd hyn wedi digwydd, a byddai'n parhau i ddigwydd yn y dyfodol, a'r canlyniad oedd na allai’r Cyngor gyflawni ei arbedion yn llawn yn ogystal â derbyn lefelau incwm is.

 

Ychwanegodd y byddai angen i'r Cyngor adolygu ei flaenoriaethau a'i gyllidebau o ystyried effaith y pandemig, a’u hail-ganolbwyntio er mwyn symud tuag at gyfnod adfer mwy sefydlog wrth adael y cyfnod clo.

 

Roedd paragraff 4.1.5 o'r adroddiad yn rhoi manylion y cymorth ariannol a roddwyd i'r Cyngor mewn rhai meysydd allweddol, er mwyn helpu i liniaru rhai o effeithiau'r pandemig, tra bod paragraff 4.1.6 yn dangos hawliadau gwariant Covid-19 ar gyfer Chwarter 1 ar ffurf tabl, hawliadau a oedd yn parhau i gael eu gwneud i Lywodraeth Cymru bob mis. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod hawliadau wedi'u gwneud am gyfanswm o £3m, a hyd yma roedd £2m wedi dod i law. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu 50% o gostau holl Gynghorau Cymru wrth ganiatáu i staff weithio gartref.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cyflwyno cais am golli incwm i Lywodraeth Cymru ar gyfer chwarter cyntaf 2020-21. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £78m o gyllid i liniaru colled incwm, ond nid oes cytundeb ar hyn o bryd ar sut y bydd hwn yn cael ei ddosbarthu. Mae amcangyfrif Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y chwarter cyntaf i’w weld yn Nhabl 3 yr adroddiad, sef £2.518m.

 

Amlygodd adran nesaf yr adroddiad fod cyfraddau casglu incwm y Dreth Gyngor yn dioddef o ganlyniad i'r pandemig a bod cynnydd sylweddol yn nifer yr hawliadau a wnaed am Gredyd Cynhwysol.

 

Amlygodd meysydd nesaf yr adroddiad wybodaeth am drosglwyddiadau’r Gyllideb, chwyddiant cyflog/prisiau, cynigion i Leihau'r Gyllideb, a gostyngiadau yng nghyllideb y Flwyddyn Flaenorol. Pwysleisiodd fod £709k mewn gostyngiadau yn dal heb eu talu ers blynyddoedd blaenorol.

 

Yna, ym mharagraff 4.2.5 o'r adroddiad, rhestrir, ar ffurf pwyntiau bwled, y cynigion mwyaf arwyddocaol i leihau'r gyllideb sy’n annhebygol o gael eu cyflawni'n llawn.

 

Yna, daeth y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid â’i hadroddiad i ben drwy amlinellu sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar 30 Mehefin 2020, gan gynnwys effaith net Covid-19 ar sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys ar sail Cyfarwyddiaeth fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Tynnodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd sylw yn eu tro at yr ansicrwydd ariannol y mae'r Awdurdod wedi'i wynebu, ac yn parhau i'w wynebu, wrth symud ymlaen a gobeithiai y byddai'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r perwyl hwn yn parhau yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol ei diolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth ariannol a ddangoswyd ym mharagraff 4.1.5 o'r adroddiad, yn enwedig mewn perthynas â dyrannu Grantiau Busnes.

 

PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet:

  • wedi nodi'r sefyllfa refeniw a rhagwelir ar gyfer 2020-21;
  • wedi argymell y dylai'r Cyngor gymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng £100,000 a £500,000 fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1.11 o'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: