Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Alldro Rhaglenni Cyfalaf 2019-20 ac Adroddiad Chwarter 1 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:-

 

 

  • a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) 'The Prudential Code for Capital Finance Local Authorities (argraffiad 2017)’

 

  • 1

 

  • 1 Mehefin 2020 (Atodiad B i'r adroddiad)

 

  • ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 i 2029-30 (Atodiad C i'r adroddiad)

 

  • 1 (Atodiad D i'r adroddiad)

 

Cyfeiriodd at sefyllfa bresennol yr adroddiad, a roddodd wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019-20. Mae'r gyllideb wreiddiol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 20 Chwefror 2019 wedi'i diwygio a'i chymeradwyo ymhellach gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i ymgorffori cyllidebau a gyflwynwyd o 2018-19 ac unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Cyfanswm y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2020 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, oedd £30.137 miliwn, daw £13.964 miliwn ohono o adnoddau CBSP, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn, a benthyciadau a glustnodwyd, gyda'r £16.173 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol.

 

Rhoddodd Atodiad A fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen

gyfalaf, gan ddangos y gyllideb sydd ar gael yn 2019-20 o gymharu â'r gwariant gwirioneddol. Dim ond ym mis Chwefror 2020 y cymeradwywyd y rhaglen ddiwygiedig, felly ychydig o atodiadau a fu ers hynny heblaw'r prif newidiadau canlynol:

 

cymeradwyaethau newydd o £1.964 miliwn o ganlyniad i gynllun grant newydd gan Llywodraeth Cymru - Grant Hwb ar gyfer Seilwaith

 

  • Daeth £0.403 miliwn o gyllid yn ôl o 20-21 i adlewyrchu proffiliau gwariant.

 

  • Arweiniodd hyn at y gyllideb ddiwygiedig o £32.504m.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid felly mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2020 oedd £22.822m, gan arwain at gyfanswm tanwariant o £9.682m.

 

Eglurodd adran nesaf yr adroddiad fod nifer o gynlluniau wedi'u gohirio oherwydd sefyllfa Covid-19, gan lithro i 2020-21, a bod angen £9.073m ar eu cyfer, dangoswyd y rhain ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad.

 

Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21, ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 â chyfanswm o £62.305 miliwn, daw £40.313 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a benthyciadau, gyda'r £21.992 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Manylwyd ar y Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 1 ym mharagraff 4.2.1 o'r adroddiad.

 

Rhoddodd Tabl 2 ym mharagraff 4.2.2 o'r adroddiad amlinelliad o Adnoddau Rhaglen Gyfalaf 2020-21, a disgrifiodd sut y byddai’r cyfanswm o ychydig dros £62m yn cael ei ariannu.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid at Atodiad B i'r adroddiad, a roddodd fanylion y cynllun unigol o fewn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21, o'i gymharu â'r gwariant rhagamcanol ar 30 Mehefin 2020.  

 

Roedd paragraff 4.2.4 o'r adroddiad yn nodi fod nifer o ddiwygiadau i'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020-21, megis cynlluniau newydd a chynlluniau diwygiedig, ers iddo gael ei gymeradwyo ddiwethaf a manylwyd ar y rhain yn adran nesaf yr adroddiad.

 

Felly, amgaewyd Rhaglen Gyfalaf Ddiwygiedig yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Yn rhan olaf yr adroddiad rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2020-21, a’u bod yn cael eu monitro, yn ogystal â gwybodaeth am Fonitro Strategaeth Gyfalaf.

 

Roedd Atodiad D yr adroddiad yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2019-20, yr amcangyfrif o'r dangosyddion ar gyfer 2020-21 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2020-21 yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Roedd y rhain yn adlewyrchu bod yr Awdurdod yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y gwaith brys i ddarparu llety addysgu amgen yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, yn sgil cau’r adeilad gwreiddiol yr ysgol ar sail iechyd a diogelwch, wedi golygu gwariant ychwanegol i’r Cyngor o £1.2m, ac roedd hyn wedi bod yn gost annisgwyl.

 

Fodd bynnag, roedd yn falch fod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan wedi’u gosod yn Ravens Court, yn ogystal â'r Ganolfan Llety Preswyl Plant newydd yn Ysgol Gynradd Brynmenyn.

 

Caeodd yr Arweinydd ddadl ar yr eitem hon drwy ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a allai egluro'r gwaith a oedd yn cael ei gynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Croesty.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y byddai hyn yn cynnwys prosiect a fyddai'n arwain at ddarparu llety ychwanegol yn yr ysgol ar gyfer plant blynyddoedd cynnar a phlant cyfnod sylfaen.

 

PENDERFYNWYD:                        Fod y Cabinet:

 

· wedi nodi'r alldro cyfalaf ar gyfer 2019-20 (Atodiad A i'r adroddiad)

· wedi nodi diweddariad Rhaglen Gyfalaf 2020-21 Chwarter 1 y Cyngor i 30 Mehefin 2020 (Atodiad B i'r adroddiad)

· wedi cytuno y dylid cyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad C i'r adroddiad) i'r Cyngor i'w gymeradwyo

· wedi nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21 (Atodiad D i'r adroddiad)

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z