Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi cefndir a goblygiadau ariannol a gweithredol y prosiect uchod i'r Cabinet, ac i ofyn i'r Cabinet argymell i'r Cyngor gynnwys yr arian cyfatebol ar gyfer y cynllun ynddynt.
Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 2 fenter i ganolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio drachefn, fel y disgrifir yn yr adroddiad.
Mae rhannau gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr o fewn dalgylch Tasglu'r Cymoedd.
Ar 30 Mehefin 2020 cymeradwyodd y Cabinet gam 2 o Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, a rhoddwyd cymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT), a fydd yn rhedeg ac yn gweinyddu'r Grant ar gyfer y rhannau gogleddol hynny o'r Sir yn unig.
Mae'r 2 brosiect yn wahanol, mae'r fenter Tasglu’r Cymoedd ar gael i bobl sy'n dymuno prynu t? gwag, neu berchnogion eiddo gwag, i wneud cais am grant, ar yr amod bod y t? wedi bod yn wag am 6 mis a’u bod yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif gartref am o leiaf 5 mlynedd. Mae prosiect Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin yn grant sydd wedi'i gynllunio i ganiatáu i landlordiaid ddod ag eiddo'n ôl i ddefnydd, ac i dderbyn hawliau enwebu at ddibenion tai cymdeithasol o wneud.
Roedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno mewn egwyddor i ddyrannu cyllid cyfalaf o hyd at £169,000 ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn 2020-21 i sefydlu cynllun peilot blwyddyn. Mae'r cynnig o arian grant yn amodol ar y Cyngor yn darparu arian cyfatebol o 35%, sef yr un ganran o arian cyfatebol y mae'r Cyngor yn ei ddarparu o dan y prosiect Tasglu’r Cymoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cynnig hwn yn seiliedig ar y cyfrifiadau a amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.
Byddai angen nodi lleoliadau penodol lle mae angen am dai i gymryd rhan yn y prosiect.
Ni ellir cymhwyso'r cynllun ar y cyd â chynlluniau eraill, a gwrthodwyd cais i Lywodraeth Cymru i drosi'r cynllun hwn yn brosiect Tasglu’r Cymoedd er mwyn sicrhau cynnig cyson ledled y sir. Gwrthodwyd cais pellach hefyd i ganiatáu i'r arian hwn gael ei ddefnyddio fel cyllid atodol i'r RSL brynu eiddo gwag.
Cynigiwyd bod y Cabinet yn cytuno i gymryd rhan yn y peilot, ac yn argymell bod y Cyngor yn darparu'r arian cyfatebol o hyd at £91,000. Gall cyfyngiadau Covid-19 a'r amser sydd ar ôl o’r flwyddyn ariannol hon effeithio ar y canlyniad terfynol ac efallai na chyflawnir 13 eiddo. Felly, bydd lefel y grant a'r arian cyfatebol yn cael ei haddasu ar sail pro rata.
Teimlai'r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol, y dylai cynigion grant tebyg i'r math a grybwyllir yn yr adroddiad fod ar gael i berchnogion eiddo ac ati, y tu allan yn ogystal ag o fewn i ardal y cymoedd.
Croesawodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad, gan ychwanegu bod eiddo gwag a/neu adfeiliedig yn niweidio’r dirwedd, a bod y fenter yn un gadarnhaol, yn enwedig o ran Tai Cymdeithasol.
Teimlai'r Arweinydd y dylid cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet maes o law er mwyn amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r peilot.
PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet:
· yn cymeradwyo cyfranogiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont (BCBS) ar Ogwr yn y cynllun ac i ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru;
· yn argymell i'r Cyngor y dylid diwygio'r rhaglen gyfalaf i gynnwys costau llawn y cynllun, gan gynnwys £169,000 grant Llywodraeth Cymru a chyfraniad arian cyfatebol BCBS o £91,000.
· Yn disgwyl am adroddiad pellach i amlinellu llwyddiant y cynllun peilot
Dogfennau ategol: