Agenda item

Adborth ar Gam 4 yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gysyniadau posibl ar gyfer darpariaeth Ôl-16 ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac argymhellion ar gyfer Dyfodol yr Arolwg

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyniad byr i adroddiad ar yr adborth o ymgynghoriad cyhoeddus Cam 4 yr adolygiad i ddarpariaeth ôl-16 ar draws CBSP.  Yna gwahoddodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 i drafod manylion yr adroddiad.

Eglurodd mai diben yr adroddiad oedd rhoi adborth ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 2/12/2019 a 21/02/2020 ar Gam 4 yr adolygiad o ddarpariaeth addysg ôl-16 ar draws CBSP.  Dywedodd fod yr ymgynghoriad yn cyflwyno tri opsiwn i'w hystyried a disgrifiwyd y rhain ym mharagraff 3.2. o'r adroddiad.

Adroddodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 fod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ymarfer cadarn a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein, sesiynau gweithdy gyda 1,235 o ddysgwyr mewn ysgolion a choleg, cyfarfodydd cyhoeddus i rieni/gofalwyr, a sesiynau ymgysylltu â staff a llywodraethwyr mewn ysgolion a'r coleg (341 yn bresennol).

Wrth gyfeirio at ganlyniadau'r arolwg ar-lein, nododd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 mai Opsiwn 3, cadw dosbarthiadau chwech ym mhob ysgol uwchradd, oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd, gyda 75% o ymatebwyr yn cytuno'n gryf â'r opsiwn hwn ac 85% yn ei raddio fel eu dewis cyntaf.

Gan ganolbwyntio ar baragraff 3.7.1 o'r adroddiad, tynnodd sylw'r Cabinet at y modd yr arddangosir canlyniadau’r gwahanol leoliadau ysgol, gan hwyluso gwell dealltwriaeth o’r data yn ogystal â'r adborth gan Fryntirion a Choleg Cymunedol y Dderwen, dwy ysgol a oedd wedi darparu cyfran arbennig o uchel o ymatebwyr.  Yn ogystal â’r dadansoddiad canrannol o'r ymatebion, roedd yr adran hefyd yn nodi’r tri darn o adborth ysgrifenedig a welwyd amlaf o bob un o'r canlyniadau a awgrymwyd.

Nododd hefyd, er bod 47% o’r holl ymatebwyr yn 'anghytuno'n gryf' ag Opsiwn 2, Canlyniad B, roedd ymatebion Ysgol Gyfun Pencoed i'r gwrthwyneb, gyda 72% mewn 'cytundeb' â'r cynnig am academi STEAM newydd y coleg ar gampws Pencoed.

Eglurodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 ei fod, ym mharagraff 3.8 o'r adroddiad, wedi rhoi dadansoddiad manwl o ganlyniadau'r arolygon a gwblhawyd gan ddysgwyr yn y sesiynau gweithdy fel y gallai aelodau'r Cabinet gymharu a chyferbynnu'r ystod o ymatebion ar draws pob lleoliad ysgol uwchradd.  At hynny, rhoddodd paragraffau 3.8.1 i 3.8.10 o'r adroddiad fanylion am gyfran gymharol y dysgwyr o'r gwahanol gyfnodau allweddol a oedd wedi cymryd rhan yn y gweithdai.

Ym mharagraff 3.9, tynnodd y Swyddog sylw at y prif themâu a ddaeth i'r amlwg o'r ohebiaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd gan CBSP a’r safbwyntiau a fynegwyd yn y cyfarfodydd agored.

Yna cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 at baragraffau 4 o'r adroddiad, a dywedodd mai'r adran hon oedd yn rhoi'r safbwynt diweddaraf ar y prif faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad.  Y mater a oedd wedi creu'r sylw mwyaf oedd teithio a chyflwynwyd gwybodaeth allweddol yngl?n â hyn ym mharagraff 4.1. Nododd y cysylltiad rhwng yr adran hon o'r adroddiad gyda'r adroddiad ar Deithio gan Ddysgwyr yr oedd y Cabinet wedi'i ohirio tan ei gyfarfod ym mis Medi.

Aeth ymlaen wedyn i sôn am feysydd polisi a strategaeth ehangach eraill a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac a allai effeithio ar ddyfodol darpariaeth ôl-16. Y mwyaf nodedig o'r rhain oedd y Cynllun Datblygu Lleol newydd sy'n cael ei lunio i redeg o 2021, a chydbwysedd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn y dyfodol.

Rhoddodd paragraff 4.6 yr adroddiad fanylion mwy penodol am yr opsiynau a'r canlyniadau, gydag arwyddion ar sut y gellir bwrw ymlaen â'r rhain neu beidio.

Yna cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 at gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 a 2 a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2020, ac ym mharagraff 4.7 darparwyd crynodeb o'r pwyntiau penodol a godwyd gan aelodau etholedig y cydbwyllgor hwn. Teimlai Swyddogion fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau wedi cael sylw yn adroddiad y Cabinet neu drwy'r argymhellion i'r Cabinet.

Yna, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Cabinet am yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r goblygiadau i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel y nodwyd yn y rhan o'r adroddiad a gyfeiriodd at y rhain.

Nododd y Swyddog Arbenigol ar gyfer ôl-16 y sefyllfa ariannol ym mharagraff 8 yr adroddiad a'r gwelliant bach yng ngrant ôl-16 2020-2021 gan Lywodraeth Cymru o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol, lle'r oedd y gyllideb wedi bod yn gostwng.

Yn olaf, oherwydd yr ystod eang o ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cyfeiriodd at baragraff 9 o'r adroddiad a oedd yn nodi nifer o argymhellion a oedd yn cael eu gwneud i'r Cabinet ynghylch dyfodol darpariaeth addysg ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Canmolodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio yr adroddiad, a oedd yn fanwl ac yn gynhwysfawr iawn, a chefnogodd argymhellion yr adroddiad hefyd.

Roedd yn gwerthfawrogi mewnbwn yr adran Graffu ac roedd cynigion yr adroddiad yn adlewyrchu bod yr Awdurdod wedi gwrando ar rieni, llywodraethwyr, dysgwyr ac athrawon hefyd.

Yr oedd yn amlwg bod y rhain am i’r ddarpariaeth Chweched Dosbarth barhau ar draws y Fwrdeistref Sirol, gyda hyn yn cael ei ymestyn i ganiatáu mwy o ddewis a chyda hynny mwy o gyfleoedd.

PENDERFYNWYD:                       Fod y Cabinet

·    wedi nodi cynnwys yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad: Y posibilrwydd o ad-drefnu darpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r dyfyniadau manwl cysylltiedig yn Atodiadau 2 i 16.

·    wedi dewis parhau ag Opsiwn 3 fel ateb ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, gan ei gwneud yn ofynnol i ysgolion weithio gyda'i gilydd i gyflawni amrywiaeth o welliannau i'r sefyllfa bresennol, fel y rhai a restrir yn adran 4.6.7.

·    Wedi dechrau datblygu strategaeth Sirol ar gyfer dysgu cyfunol gan dynnu ar brofiadau diweddar ysgolion y Sir yn ystod cyfnod clo Covid-19, a chan ystyried profiadau, cyngor, ac arferion rhanbarthol a chenedlaethol.

·    Wedi cymryd canlyniadau penderfyniadau ar Gludiant i’r Ysgol, Cynllun Datblygu Lleol 2021+, ac addysg cyfrwng Cymraeg a’u hymgorffori mewn strategaeth hirdymor ar gyfer capasiti a dalgylchoedd ysgolion uwchradd, gan gynnwys darpariaeth chweched dosbarth.

·    Wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r dewis o gael canolfan chweched dosbarth ar gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont mewn cydweithrediad â'r ganolfan STEAM newydd.

·    Wedi ymchwilio i'r potensial i ehangu Coleg Cymunedol y Dderwen o fewn cyd-destun y cais cynllunio gwreiddiol i’w galluogi i gwrdd â'r galw a ragwelir am leoedd, ac am ddarpariaeth a chydweithio ôl-16 yn rhan ogleddol y Fwrdeistref Sirol.

·    Wedi cytuno, os daw Ysgol Arbennig Heronsbridge ar gael, y dylid ystyried ei ddefnyddio yn y dyfodol fel canolfan ragoriaeth chweched dosbarth.

 

Dogfennau ategol: