Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Diweddariad ar Waith Cydraddoldebau Mewn Ysgolion

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am waith Cydraddoldeb mewn ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys digwyddiadau bwlio, digwyddiadau hiliol, gwaith partneriaeth, effaith rôl y swyddog cydlyniant cymunedol a gweithio gyda'r heddlu.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod canllawiau wedi’u hanfon i'r holl ysgolion ar 18 Mawrth 2019 ar adrodd am ddigwyddiadau hiliol yn yr ysgol.

 

Cafodd yr ysgolion hefyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad Hiliol (Atodiad 1 yr adroddiad y cyfeiriwyd ato).

 

Amlinellai'r adroddiad hwn y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ystod blynyddoedd academaidd 2018-2019 a 2019-2020, y gwaith a gyflawnwyd mewn ysgolion gan y tîm cynhwysiant a'r gwaith a gyflawnwyd ar y cyd a'r heddlu dros y cyfnod hwn.

 

Ym mlwyddyn academaidd 2018-2019, adroddodd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol am ddeg digwyddiad hiliol. Nodir digwyddiadau a adroddwyd gan yr ysgolion ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Roedd mwyafrif y digwyddiadau a gofnodwyd yn ôl oed y cyflawnwr a'r dioddefwr yn ddigwyddiadau a oedd yn cynnwys plant rhwng 7 ac 11 oed.

 

Yn saith o'r digwyddiadau, cofnodwyd y cyflawnwr yn Wyn Prydeinig, yn y tri digwyddiad arall nid oedd ethnigrwydd y cyflawnwr wedi'i gofnodi. Roedd y rhan hon o'r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion rhywedd y cyflawnwyr a'r dioddefwyr.

 

O ganlyniad i'r digwyddiadau hyn, roedd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb wedi cynghori y dylid trefnu hyfforddiant i ddisgyblion ar ffurf cyfres o Weithdai i ysgolion, grwpiau Cymorth Cynnar a darpariaeth gan y Trydydd Sector.

 

Aeth yn ei blaen i ddweud bod rhwydwaith LGBTQ ysgolion wedi cael ei sefydlu i gefnogi staff ysgol a disgyblion. Ymunodd aelodau'r rhwydwaith, ynghyd ag aelodau o'r Cyngor Ieuenctid â'r Tîm Cydraddoldeb a Chynghorau Balch ar gyfer gorymdaith PRIDE Cymru ym mis Awst 2019.

 

Hyd yma ym mlwyddyn academaidd 2019-20, roedd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol wedi adrodd am 12 o ddigwyddiadau hiliol. Adroddwyd am ddigwyddiadau gan yr ysgolion a nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad. Cafwyd dadansoddiad pellach o natur y digwyddiadau yn adrannau dilynol y rhan hon o'r adroddiad, gan gynnwys, unwaith eto, oedrannau'r cyflawnwyr a'r dioddefwyr. Dyna oedd y ffigurau ym mis Mawrth 2020.

 

Yn nhymor yr Hydref 2019, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ffrydiau wedi'u cyllido drwy grant i ymdrin â Throseddau Casineb. Ymhlith y rhain yr oedd prosiect i weithio'n benodol mewn 100 o ysgolion. Nod y prosiect oedd cyflwyno sgiliau meddwl beirniadol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pob agwedd ar Droseddau Casineb mewn ysgolion, gyda ffocws ar Gyfnod Allweddol 3. Y nod yw dechrau'r gwaith hwn ym mlwyddyn academaidd 2019-2020.

 

Aeth ymlaen i esbonio, yn dilyn cyfres o gyfarfodydd rhwng CLlLC, y Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol a'r darparwyr a ffafrir ar gyfer cyflwyno prosiectau ar droseddau casineb, fod nifer o ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’u dewis yn seiliedig ar ddadansoddiad o adroddiadau am droseddau casineb yn y gymuned, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a thrafodaethau â swyddogion cyswllt ysgol.

 

Nodwyd y pum ysgol a ddewiswyd ym mharagraff 4.4.3 yr adroddiad.

 

Ym mis Ionawr 2020, roedd CLlLC hefyd wedi comisiynu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel partner i gyflwyno'r prosiect i ysgolion a ddewiswyd ledled Cymru.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.2.3 yr adroddiad, a gofynnodd pam bod cynifer o ysgolion, yn enwedig rhai oed Cynradd, heb fod yn bresennol yn y tri gweithdy a oedd wedi cael eu trefnu i hyfforddi disgyblion ar faterion fel Troseddau Casineb a bwlio ar sail statws hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac ati.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai'n ymchwilio i'r cwestiwn yma ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau naill ai y tu allan i'r cyfarfod neu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref.

 

Nododd Aelod fod data blaenorol wedi dangos bod mwy o achosion o Droseddau Casineb mewn ysgolion Cynradd nag mewn Ysgolion Uwchradd yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ddiwethaf, ond bod y duedd honno bellach wedi newid. Teimlai felly y dylai Ysgolion Cynradd o bosib fod wedi derbyn hyfforddiant yn gynharach nag yr oeddent wedi gwneud.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod Race Council Cymru yn mynd i roi hyfforddiant pellach i ysgolion ac y byddai'r data perthnasol ar ganlyniadau'r hyfforddiant hwnnw wedyn yn cael eu rhannu â'r Aelodau yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2021.

 

Tynnodd Aelod sylw at y ffaith bod angen rhoi hyfforddiant ar faterion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â Throseddau Casineb ac ati, yn enwedig ymhlith plant iau, cyn i arferion drwg yn gysylltiedig â chydraddoldeb a bwlio ac ati gael cyfle i fagu gwraidd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, fod hyfforddiant Meddwl yn Feirniadol wedi'i gynnwys yn yr hyfforddiant a oedd yn cael ei roi ar waith yn yr ysgolion, yn ogystal â'r cynlluniau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Teimlai Aelod ei bod hi'n bwysig gweithio gyda theuluoedd a phlant o oed ifanc drwy'r ysgolion, gan addysgu gwerthoedd i'r disgyblion yn gysylltiedig ag osgoi gweithredoedd lle ceir gwahaniaethu. Ychwanegodd ei bod hi hefyd yn bwysig i athrawon a thiwtoriaid ddeall bod ystyr yr iaith a'r ymadroddion a ddefnyddir gan ddisgyblion hefyd y wahanol i'w hystyr yn y gorffennol. Roedd felly angen dehongli'r hyn yr oedd pobl ifanc yn ei ddweud wrth eraill ar adegau, a chanfod gwir ystyr hynny.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at baragraff 4.1.7 yr adroddiad, a gyfeiriai at ymyraethau a fyddai'n cael eu gweithredu i rai a fyddai'n ymddwyn yn ddifrïol neu gamdriniol, gan gynnwys Cynllun Cymorth. Gofynnodd i'r Swyddog arweiniol ymhelaethu ar hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ei bod yn cael gwybod am bob digwyddiad yn yr ysgolion ayb, ac y byddai'r ysgol wedyn yn gweithio gyda'r cyflawnwr a'i rieni/warcheidwad, yr athro o'r Ysgol (lle bo'n briodol) a'r dioddefwr hefyd, er mwyn ceisio canfod beth ddigwyddodd a'r rhesymau wrth wraidd hynny, a datblygu cynllun cymorth unigol. Byddai'r cynllun yn cael ei roi ar waith er mwyn sicrhau na fyddai'r un peth yn digwydd eto. Weithiau bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ar gyfer y cyflawnwr, ond ar adegau, gall effeithio ar y cyflawnwr a'r dioddefwr, y naill a'r llall.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddweud bod angen ystyried sut i sicrhau yr adroddir am bob digwyddiad y cyfeirir ato yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod angen mynd ar drywydd hyfforddiant ar gyfer pob achos o wahaniaethu, yn ogystal â phroblemau'n ymwneud â hiliaeth yn unig.

 

PENDERFYNWYD:                  1) Bod y Pwyllgor wedi derbyn ac ystyried yr adroddiad.  

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z