Agenda item

Defnyddio'r Enw Picton mewn Enwau Strydoedd ac Adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn rhoi gwybodaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am y defnydd o'r enw 'Picton' mewn enwau strydoedd ac adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  

 

I esbonio'r cefndir, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod protestiadau cenedlaethol wedi cael eu cynnal yn rhan o ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America. Canlyniad hynny oedd bod amryw o gynghorau'r DU yn cymryd camau i gael gwared â delwau o rai ffigurau hanesyddol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn ystyried a allai adeiladau, parciau, caeau chwarae a strydoedd fod yn gysylltiedig ag unigolion sy'n cael eu beirniadu yn rhan o'r protestiadau. Dechreuwyd ymgyrchoedd i gael gwared â chofebau i'r Cadfridog Thomas Picton, gan ganolbwyntio ar ddelw yng Nghaerdydd a chofeb 25 metr o uchder yng Nghaerfyrddin.

 

Gan fod nifer o strydoedd yn cynnwys yr enw 'Picton' ledled y Fwrdeistref Sirol, mae'r adroddiad yn edrych ar hanes y strydoedd hyn er mwyn ceisio canfod a ydynt yn gysylltiedig â'r Cadfridog Thomas Picton. Er na fu modd canfod yr union reswm dros gynnwys yr enw mewn enwau strydoedd, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod awgrym yn y gwaith ymchwil o gysylltiadau rhwng y teulu Picton a pherchnogaeth tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Ychwanegodd fod gwaith ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod dwy ffynhonnell bosibl i'r enw Picton ym mwrdeistref Mhen-y-bont ar Ogwr. Argymhellwyd felly, er mwyn gwirio a sicrhau cywirdeb yr wybodaeth hon, y dylai hanesydd lleol gyflawni gwaith pellach ac y bydd canfyddiadau'r gwaith ymchwil hwnnw'n cael eu hystyried wedi i Lywodraeth Cymru gwblhau ei hadolygiad.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o nifer o enwau strydoedd ac adeiladau a oedd yn cynnwys yr enw 'Picton', a'r rheiny mewn gwahanol leoliadau yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Wedyn rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb wybodaeth gyffredinol am Thomas Picton a oedd wedi bod yn Gadfridog â chysylltiadau â chaethwasiaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg/y ddeunawfed ganrif.

 

Er y gallai nifer o strydoedd ac adeiladau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr fod wedi cael eu henwi ar ôl y Cadfridog, esboniai'r adroddiad y gallai rhai strydoedd ac adeiladau fod wedi cael eu henwi ar ôl yr Is-gapten Thomas Picton-Turbeville neu o bosib Richard Picton-Turbeville. Roedd Richard Picton-Turbeville wedi bod yn un o hoelion wyth y Fwrdeistref Sirol yn y gorffennol, ac wedi cyfrannu'n gadarnhaol at waith o fewn y Fwrdeistref (gan gynnwys gwaith elusennol a gwirfoddol).

 

Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon â'r ffaith y gallai enwau strydoedd ac ati gael eu cysylltu ag enw unigolyn neu unigolion a oedd wedi cyflawni gweithredoedd erchyll yn y gorffennol yn erbyn ei gyd-ddynion. Serch hynny, roedd Aelodau eraill yn cydnabod y gwaith y byddai angen ei wneud gyda deiliaid tai yn yr adeiladau/strydoedd hyn er mwyn newid yr enw stryd i enw arall na fyddai'n cyfeirio at yr enw Picton. Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys newid enw'r stryd ar weithredoedd eiddo, ar gofnodion meddygol, newid trwyddedau gyrru a biliau cyfleustodau ac ati. Pe bai perchnogion tai yn cael eu gorfodi i wneud hyn, gan orfod cytuno i’r newid(iadau), gallent wneud cais am iawndal gan y Cyngor oherwydd y gost a fyddai'n gysylltiedig â hynny.

 

Yn deillio o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn gysylltiedig â'r adroddiad,

 

PENDERFYNWYD:                         (1) Bod yr Aelodau'n nodi'r adroddiad.

 

(2) Y dylai hanesydd lleol wneud gwaith pellach i ganfod tarddiad yr enw 'Picton' mewn enwau strydoedd/adeiladau yn y Fwrdeistref Sirol, a bod canfyddiadau'r gwaith ymchwil hwnnw'n cael eu hystyried ochr yn ochr â'r archwiliad a fyddai'n cael ei gwblhau gan Lywodraeth Cymru o henebion,  delwau ac enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.

 

(3)        Disgwyl am adroddiadau cynnydd pellach fel y bo'n briodol.   

Dogfennau ategol: