Agenda item

Pandemig Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd, er mwyn rhoi diweddariad i'r Cydbwyllgor am y trefniadau yn Amlosgfa Llangrallo yn ystod ton gyntaf pandemig Covid-19.

 

Er gwybodaeth gefndirol, dywedodd wrth yr Aelodau fod "Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020" ym mis Mawrth 2020, wedi gosod cyfyngiadau ar amlosgfeydd. Roedd hyn yn cynnwys caniatáu iddynt gynnal gwasanaethau angladd dim ond os cyflwynwyd mesurau ymbellhau cymdeithasol, gan sicrhau pellter o 2 fetr rhwng yr holl unigolion ar y safle (oni bai eu bod o'r un aelwyd).  Roedd y rheoliadau'n caniatáu i deulu a ffrindiau agos fynd i wasanaeth angladd cyhyd ag nad oedd yn golygu teithio'n helaeth a bod y rhai a oedd yn bresennol:

 

           Yw’r sawl sy'n trefnu'r angladd;

           Wedi’u gwahodd gan y sawl sy'n trefnu'r angladd;

           Yn ofalwr person a wahoddir i’r angladd.

 

I ddechrau, nododd y rheoliadau y dylai tiroedd yr Amlosgfa aros ar gau i'r cyhoedd gyda dim ond y rhai a oedd yn bresennol yn yr angladdau'n swyddogol â chaniatâd i gael mynediad i'r safle. Arweiniodd hyn at gau tiroedd yr Amlosgfa am gyfnod byr a oedd yn cynnwys cyfnod pythefnos Sul y Palmwydd a'r Pasg. Diwygiwyd y rheoliadau'n gyflym gan Lywodraeth Cymru gan ganiatáu i dir yr Amlosgfa ailagor i'r rhai a wahoddwyd i angladd ac i alluogi aelodau o'r cyhoedd i osod blodau wrth ymyl y bedd.

 

Fel rhan o'r cyfyngiadau tyn hyn, y capel mwy, Crallo, oedd yr unig gapel a ddefnyddiwyd, ac addaswyd cynllun y capel o dan reolau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod yr holl staff a fu’n gweithio yn y cyfleuster drwy gydol y pandemig gyda PPE perthnasol a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith. Roedd asesiadau risg yn cael eu cynnal a'u hadolygu'n rheolaidd, ac roedd gweithdrefnau'n cael eu haddasu i alluogi'r gwasanaeth i barhau â'i ddyletswyddau arferol.

 

Aeth ymlaen, drwy gadarnhau bod y swyddfa weinyddol yn parhau'n gwbl weithredol ond ei bod ar gau i'r cyhoedd sy'n ymweld, gyda’r holl gymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn a thrwy e-bost/gohebiaeth drwy'r post. Darparwyd mynediad i'r swyddfa i Gyfarwyddwyr Angladdau drwy wasanaeth intercom er mwyn dosbarthu ffurflenni a darparu/casglu yrnau ac roeddent hefyd yn cael darparu ffurflenni'n electronig. Darparwyd mynediad iddynt i'r swyddfa drwy ddefnyddio sgriniau a darparwyd diheintydd dwylo hefyd. Roedd staff yr Amlosgfa hefyd yn ymbellhau'n gymdeithasol, gyda gorsafoedd gwaith wedi'u haddasu lle y bo'n briodol.

 

Aeth Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd yn ei blaen i ddweud bod mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau na châi’r Amlosgfa ei llethu yn ystod y pandemig.  Cyfyngwyd amseroedd gwasanaeth angladdau i dri deg munud a chyflwynwyd amseroedd gwasanaeth ychwanegol i gynyddu'r capasiti dyddiol o uchafswm o ddeg angladd i bedwar ar ddeg, er mwyn sicrhau nad oedd yn rhaid i’r rhai mewn profedigaeth aros yn hir i gynnal gwasanaeth. Cafodd aelodau staff ychwanegol eu hadleoli i'r gwasanaeth er mwyn gallu hyfforddi technegwyr amlosgi ychwanegol i sicrhau gwydnwch a pharhad busnes, gyda phatrymau shifftiau hefyd yn cael eu rhoi ar waith o oriau gwaith arferol.

 

Ar anterth y pandemig, cyfyngwyd niferoedd presenoldeb angladdau i ddeg ac yna ymlacio i ugain pan ddaeth yn fwy diogel i wneud hynny, er mwyn ceisio amddiffyn staff a galarwyr rhag haint. Cynhaliwyd asesiadau risg a'u hadolygu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod pwysig hwn. Parhaodd galarwyr i gael yr opsiwn i ffrydio'r gwasanaeth angladd dros y rhyngrwyd ac i recordio'r gwasanaeth. Fe'u hatgoffwyd hefyd o'r opsiwn i gynnal gwasanaeth coffa yn ddiweddarach. Er i'r Amlosgfa gael ei rhoi dan bwysau yn ystod pandemig Covid-19, roedd hi’n falch o gadarnhau na fu byth yn agos at gael ei llethu.

 

Cynhaliodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd, yn ystod y cyfnod hwn, sesiynau briffio a chyfathrebu rheolaidd â Chyfarwyddwyr Angladdau i sicrhau bod rheoliadau pandemig Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn a bod holl weithdrefnau a strategaethau’r Amlosgfa yn cael eu deall yn llawn wrth i'r pandemig ddatblygu.

 

Gan droi mwy at y sefyllfa bresennol, cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.1 o’r adroddiad a thabl a oedd yn cymharu nifer y gwasanaethau angladd yn ystod 2019 â’r un cyfnod yn 2020. Dangosodd 2020 gynnydd sylweddol hyd at 2019 ar gyfer y misoedd a ddangoswyd, h.y. o fis Ionawr i fis Mehefin, yn gynhwysol.

 

Sicrhawyd y Cydbwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd fod Amlosgfa Llangrallo yn parhau i weithredu o dan reoliadau pandemig.  Er mwyn cadw at ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch cadw pellter cymdeithasol, mae mesurau lleol yn dal i fod ar waith sy'n cyfyngu ar bresenoldeb angladdau, a ddewisir drwy wahoddiad ymlaen llaw.

 

Eglurodd mai iechyd a lles teuluoedd mewn profedigaeth, timau cyfarwyddo angladdau, staff y Cyngor a'u teuluoedd, a'r gymuned ehangach, oedd prif flaenoriaeth yr Amlosgfa o hyd ac roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn cael eu monitro yn unol â hynny.

 

Cwblhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd ei chyflwyniad, drwy ddweud bod y niferoedd a oedd yn bresennol mewn angladdau yn cael eu hadolygu'n gyson yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth Amlosgfa yn dal i werthfawrogi pa mor anodd yw’r cyfnod hwn o bandemig i deuluoedd mewn profedigaeth a'u ffrindiau wrth iddi barhau i reoli'r gwasanaeth yn ddiogel.

 

Gofynnodd Aelod a oedd lefelau'r gwasanaethau angladd bellach wedi dechrau dychwelyd i lefel arferol o ran niferoedd, yn dilyn yr ymchwydd cychwynnol oherwydd pandemig Covid-19.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod y niferoedd yn dychwelyd yn fwy i'r lefel arferol, er bod yr Amlosgfa weithiau'n cael gwybod am farwolaeth sy'n gysylltiedig â Covid-19 o hyd. Er, ar hyn o bryd, roedd effaith y feirws yn llai dwys. Fodd bynnag, rhagwelwyd ail don bosibl, ond gobeithio na fyddai hynny'n digwydd, ychwanegodd.

 

Daeth y Cadeirydd â’r ddadl i ben ar yr eitem hon drwy ddweud bod y tabl yn yr adroddiad a'r ffigurau a ddangoswyd o fewn hynny wedi rhoi adlewyrchiad trist o ran yr effaith y mae'r feirws wedi'i chael ar unigolion a'u teuluoedd.

 

PENDERFYNWYD:                             Bod y Cydbwyllgor wedi nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: