Agenda item

Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol 2019-20 a Datganiad Monitro Refeniw 1 Ebrill i 30 Mehefin 20

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Trysorydd, a'i ddiben oedd cyflwyno'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 i'r Cydbwyllgor, ar ôl cau'r cyfrifon, a rhoi gwybod i'r Cydbwyllgor am fanylion incwm a gwariant ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2020-21, a darparu amcanestyniad o'r sefyllfa alldro derfynol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol a Chau, yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, ei bod yn ofynnol i Gydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo gwblhau Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol gan eu bod yn cael eu hystyried yn gorff llywodraeth leol llai gydag incwm a gwariant blynyddol o dan £2.5 miliwn.

 

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cydbwyllgor gymeradwyo'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol yn ffurfiol erbyn 15 Mehefin ac ardystio eu bod yn cyflwyno sefyllfa ariannol Amlosgfa Llangrallo yn deg. Oherwydd pandemig Covid-19, nid oedd y Cydbwyllgor yn gallu cymeradwyo'r datganiad erbyn y dyddiad hwn. Cytunwyd ag Archwilio Cymru i dderbyn bod y Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol yn cael ei ardystio yn y cyfarfod ar 4 Medi.

 

Oherwydd Covid-19 mae'r archwilydd eisoes wedi cynnal ei archwiliad ac o ganlyniad mae wedi nodi nad oes angen unrhyw ddiwygiadau, fel yr amlinellir yn eu llythyr Archwilio yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Rhaid i'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol ardystiedig gael ei gyhoeddi erbyn 15 Medi 2020, esboniodd y Swyddog.

 

Mae Adran 1 o'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol (Atodiad 2) yn dangos bod Amlosgfa Llangrallo wedi gwneud gwarged net o £298,201 yn 2019-20 (gwahaniaeth rhwng Llinell 1 'Balansau a ddygwyd ymlaen' a Llinell 7 'Balansau a gariwyd ymlaen'). Ychwanegwyd y gwarged at y gronfa gronnol ar gyfer yr Amlosgfa a ddygwyd ymlaen ar     31 Mawrth 2019, gan ddod â chyfanswm y gronfa honno i £2,053,652 ar 31 Mawrth 2020 o'i gymharu â £1,755,451 yn y flwyddyn flaenorol.

 

Dangosodd Tabl 1 yn yr adran hon o'r adroddiad grynodeb o sefyllfa ariannol derfynol yr Amlosgfa ar gyfer 2019-20, o'i gymharu â'r gyllideb a nodir ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol a Chau at baragraff 4.2 o'r adroddiad, lle'r oedd esboniadau am yr amrywiadau mwy sylweddol o'r gyllideb.

 

Yna rhoddodd Tabl 2 yn yr adroddiad ddadansoddiad o'r Gyllideb Cynnal a Chadw a Gynllunnir, ynghyd â'r Alldro a'r Amrywiadau ar gyfer 2019-20.

 

Esboniodd fod y balans o £245,000 ar yr estyniad cwrt blodau, £300,000 ar gyfer Goleuadau Safle ac £20,000 ar gyfer Byrddau Dosbarthu Trydan i gyd wedi'u cario ymlaen ac yn rhan o gyllideb Cynnal a Chadw Cyfalaf Arfaethedig 2020-21.

 

Mae incwm yn uwch na'r gyllideb £22,000 oherwydd y Grant Ffioedd Claddu Plant (£13,000) a Ffioedd Amlosgi (£9,000).

 

Yn ogystal â'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol, ceir Mantolen atodol yn Nhabl 3 isod. Mae'r wybodaeth atodol hon yn rhoi dadansoddiad pellach o'r ffigurau a gofnodwyd yn y Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol. Roedd hyn er gwybodaeth yn unig, ac nid yw'n destun archwiliad ar ddiwedd y flwyddyn.   

 

Yna amlinellodd Tabl 3 y Fantolen ar gyfer Blynyddoedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 a 2020 a gwelwyd rhagor o wybodaeth yn esbonio'r balansau yn y tabl hwn ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Yna rhoddodd Tabl 4 Sefyllfa Ariannol yr Amlosgfa ar gyfer 2020-21, gydag esboniad o'r amrywiannau rhwng y Gyllideb a'r Alldro Rhagamcanol, a nodir yn union islaw'r tabl hwn.

 

Yn olaf, roedd Tabl 5 ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad yn adlewyrchu'r gyllideb Ariannu Cyfalaf £882,000 fel y'i rhannwyd ar gyfer y gwahanol waith a restrir felly yn y tabl hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:                          Mae’r Cydbwyllgor:

 

(a)  Wedi cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol ar gyfer Amlosgfa Llangrallo 2019-20 (Atodiad 2 i'r adroddiad) a gofynnwyd i Gadeirydd y Cydbwyllgor lofnodi'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol.

 

(b)  Wedi nodi perfformiad ariannol rhagamcanol Amlosgfa Llangrallo ar gyfer 2020-21.

   

Dogfennau ategol: