Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2020-2021

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor Archwilio yngl?n â'r newidiadau i'r Asesiad Risg Corfforaethol.

 

Eglurodd fod llawer wedi newid ers y cyflwynwyd yr asesiad risg diwethaf i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr. Rhestrwyd yr asesiad risg wedi'i ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad ac fe gafodd ei adolygu mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a'r Uwch Dîm Rheoli. Ychwanegodd ei fod yn adnabod y prif risgiau sy'n wynebu'r Cyngor, eu cysylltiad â'r themâu blaenoriaeth, yr effaith mae'r rhain yn debygol o'i chael ar wasanaethau'r Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, adnabod beth sy'n cael ei wneud i reoli'r risgiau a phwy sy'n gyfrifol am ymateb y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro rai enghreifftiau yn Atodiad A lle byddai angen newid sawl dyddiad:

 

  • Roedd teitl Atodiad A yn anghywir a dylai nodi Awst 2020.
  • Dylai'r dyddiad adolygu ar gyfer Risg 2, 4 a 6 nodi Hyd 2020.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y cafwyd cyfarfodydd rheoli dyddiol yn ystod anterth y pandemig Covid-19, lle'r oedd risgiau yn ymwneud â Covid-19 yn cael eu hadnabod a'u trin yn ddyddiol, ac felly ni chafwyd eu hychwanegu at y gofrestr risgiau. Eglurodd fod y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau wythnosol i'r cyfarfodydd Aur a bod hynny'n cael ei ystyried yn adroddiad digonol yngl?n â'r risgiau sydd ynghlwm â Covid-19.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yr ychwanegwyd rhagor o risgiau i'r gofrestr risgiau yn sgil Covid-19 er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n fanwl drwy gydol y pandemig gyda'r gobaith y byddant yn cael eu tynnu i ffwrdd yn fuan. Er enghraifft, roedd risg 11, risg 12 a risg 13 yn risgiau parhaus mewn cysylltiad â Covid-19 a byddant, gyda gobaith, yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr risgiau yn fuan. Ychwanegodd nad oedd hyn yn cynnwys unrhyw risgiau newydd posibl nad oeddem yn ymwybodol ohonynt eto wrth i amgylchiadau newidiol barhau i ddod i'r amlwg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro a'i thîm am yr holl waith caled yn rheoli'r sefyllfa.

 

Gofynnodd aelod am ddiweddariad ynghylch y llif arian a'r risgiau cysylltiedig a pha mor gyflym oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu arian yn ystod pandemig Covid-19.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro mewn perthynas ag incwm, ei fod yn dod o wahanol ffynonellau a bod y Cyngor wedi bod yn hawlio am gostau ychwanegol yn sgil Covid gan Lywodraeth Cymru yn fisol a bod bron i dri chwarter hwnnw eisoes wedi'i ad-dalu. Ychwanegodd na chafwyd problemau llif arian.

 

Gwnaeth Ddirprwy Bennaeth Dros Dro yr Adran Gyllid sylw ar y risg llif arian gan nodi bod taliadau heb eu talu yn dal i fodoli o ran y Grantiau Busnes ac er bod y cynllun wedi cau bellach, bod hawliau heb eu talu a oedd angen gwybodaeth gan y swyddfa werthuso cyn y gallem eu cau.

 

Gofynnodd aelod am dderbyn ad-daliadau am gostau sy'n gysylltiedig â Covid-19, a oedd y Cyngor yn cael arian yn ôl am lanhau ysgolion? Cyfeiriodd at enghraifft o gr?p blwyddyn yn cau yn Ysgol Gyfun Bryntirion, a'r angen i lanhau'r ysgol yn drylwyr, a phetai hyn yn parhau i ddigwydd, a fyddem yn wynebu'r costau hynny ein hunain fel awdurdod?

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro bod y Cyngor wedi derbyn arian grant ar gyfer yr achosion cyntaf lle byddai angen glanhau ysgolion yn drylwyr. Fodd bynnag, gyda'r sefyllfa yn symud mor gyflym a'r ansicrwydd o ran pa grwpiau blwyddyn/ysgolion fyddai'n cau, nid oedd ateb pendant ar hyn o bryd. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi dweud beth fyddai'n ei wneud yn y sefyllfa hon.

 

Ychwanegodd Bennaeth Dros Dro yr Adran Gyllid bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i'r holl ysgolion i brynu cyfarpar diogelu personol, offer glanhau etc. a fyddai'n ddigon i'r ysgolion ar gyfer gweddill y tymor. Ychwanegodd fod awgrym wedi bod y byddai rhagor o gyllid yn cael ei gyhoeddi ond nad oes manylion penodol ynghylch hynny hyd yn hyn.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd y risgiau sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn perthyn i'r gofrestr risgiau ai peidio.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro bod y risgiau llif arian yn gysylltiedig â Risg 1 sy'n ymdrin â chynaliadwyedd ariannol y Cyngor, sydd wastad wedi bod yn risg ond wedi'i amlygu'n fwy gan effeithiau Covid-19. Ychwanegodd fod y risgiau eraill yn ymwneud ag adnewyddu ac adfer gwasanaethau ac y teimlir bod categoreiddio'r risgiau yn well er mwyn caniatáu i'r Cyngor ganolbwyntio arnynt.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg am fanylion penodol mewn perthynas â'r sylwadau yngl?n â Risg 2 - 'Mae adolygiad o brosesau'r Cyngor wedi golygu bod rhai sy'n cael eu hystyried yn ddianghenraid a biwrocratig wedi peidio ond bod angen cydymffurfiaeth lwyr â'r rheiny sy'n parhau.' Cynghorodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro y byddai ymateb ffurfiol i hyn yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd yn cael ei wneud i helpu staff gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan yr adroddwyd ar y newyddion y byddai swm o £500 yn cael ei dalu iddynt. Gofynnodd a yw hyn wedi'i drefnu hyd yn hyn.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro bod logisteg hyn wedi bod yn anodd ond bod y Cyngor yn y broses o wneud y taliadau hynny. Eglurodd fod y taliadau yn ddarostyngedig i dreth ac YG a byddai angen i bob gofalwr hawlio'r arian yn weithredol gan nad yw'n cael ei dalu'n awtomatig.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei phryderon mewn perthynas â risg rhif 8 a'r gallu i recriwtio staff newydd a chadw staff cyfredol. Crybwyllodd fod datblygiad staff cyfredol, yn benodol staff newydd ac ieuengach, yn bwysig a'i bod yn pryderu nad oedd hyn wedi'i ymgorffori yn y risg.

 

Cytunodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro bod recriwtio staff newydd wedi cyflwyno her, yn enwedig yn rôl y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid. Cydnabu bwysigrwydd cadw staff cyfredol a rhoi'r cyfle iddynt ddysgu a datblygu a nododd y byddai'n cyflwyno'r pwynt hwn i'r Bwrdd Rheoli Cyffredinol am ragor o drafod.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei phryderon mewn perthynas â risg 10 a'r sefyllfa gyfredol gyda gweithio gartref. Gofynnodd a ellir cael trafodaethau gyda'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol i ymgorffori'r risgiau GDPR posibl gydag argraffu, storio a chael gwared ar ddogfennau cyfrinachol. Cytunodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro y gellir cynhyrchu rhagor o ganllawiau i staff sy'n gweithio gartref i sicrhau bod y risg yn cael ei rheoli.

 

Crybwyllodd y Cadeirydd bod Panel Adfer wedi Covid-19 wedi'i sefydlu ac nad oedd hyn wedi'i ymgorffori yn risg 11 fel dull o fynd i'r afael â'r risg. Dywedodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro y byddai'n cyflwyno hyn i'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD: Aelodau wedi ystyried newidiadau i'r Asesiad Risg Corfforaethol ac wedi cytuno i dderbyn adroddiad arall ym mis Ionawr 2021 ynghylch Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 ac adolygiad o'r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: