Agenda item

Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor Archwilio ynghylch sefyllfa'r alldro ar gyfer gweithgareddau rheoli'r trysorlys, Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20 a phwysleisio cydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor cyn eu hadrodd i'r Cabinet a'r Cyngor.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro bod y Pwyllgor Archwilio wedi'i enwebu i fod yn gyfrifol am sicrhau gweithgareddau craffu effeithiol o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a gweithgareddau. Yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, derbyniodd y Pwyllgor Archwilio Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2018-19 ym mis Mehefin 2019, yr Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Hanner Blwyddyn 2019-20 ym mis Tachwedd 2019 a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-21 ym mis Ionawr 2020. Rhestrir rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro mai ymgynghorwyr rheoli'r trysorlys y Cyngor oedd Arlingclose. Mae'r gwasanaethau cyfredol a ddarperir i'r Cyngor yn cynnwys:

 

• cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

• cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

• hysbysu statws credyd a newidiadau

• gwybodaeth arall yngl?n ag ansawdd credydau

• cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

• cyngor ar gyfrifyddu

• adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

• rhagolygon cyfraddau llog

• cyrsiau hyfforddi

 

Yn dilyn proses dendro diweddar, adnewyddwyd y contract ar gyfer Arlingclose am gyfnod o 4 blynedd, hyd at fis Awst 2024, a oedd yn ein caniatáu i gael perthynas gadarnhaol barhaus gyda nhw ac elwa ar eu gwybodaeth o'r Cyngor a'r sefyllfa ariannol.

 

Eglurodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro bod 2019-20 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda Brexit a'r pandemig Covid-19 yn fwy diweddar. Yn sgil hyn cafwyd newidiadau yng nghyfraddau llog a chyfraddau chwyddiant. Darparwyd rhagor o gyd-destun economaidd yn 4.1 yr adroddiad.

 

Eglurodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro bod crynodeb o weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer 2019-20 i'w weld yn Atodiad A yr adroddiad. Dangoswyd sefyllfa ddyledion a buddsoddiadau allanol y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020 yn Nhabl 1 a darparwyd rhagor o fanylion yn adran 3, Strategaeth Benthyca ac Alldro, ac adran 4, Strategaeth Buddsoddi ac Alldro.

 

Adroddodd na ymgymerwyd â benthyciadau hirdymor yn 2019-20 ac na ymgymerwyd ag ail-drefnu dyled gan nad oedd arbedion sylweddol i'w gwneud, fodd bynnag, bydd y portffolio benthyciadau yn cael ei adolygu yn ystod 2020-21.

 

Mae llifoedd arian ffafriol wedi darparu mwy o gyllid i'w buddsoddi a balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2020 oedd £30 miliwn, gyda chyfradd llog cyfartaledd o 0.82%. Roedd hwn yn gynnydd yn y buddsoddiadau taladwy o ddechrau'r flwyddyn ariannol lle'r oedd buddsoddiadau yn £27.4 miliwn (cyfradd llog cyfartaledd o 0.94%). Mae Tabl 2 yn Atodiad A yn manylu symudiad y buddsoddiadau yn ôl mathau parti i gontract ac mae'n dangos y balansau cyfartalog, y llog a gafwyd, hyd gwreiddiol a'r cyfraddau llog ar gyfer 2019-20.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro bwyntiau allweddol yn Atodiad A yr adroddiad a oedd yn cynnwys:

 

  • Sefyllfa Ddyledion a Buddsoddiadau Allanol
  • Strategaeth Benthyca ac Alldro ar gyfer 1 Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020
  • Strategaeth Buddsoddi ac Alldro ar gyfer 1 Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020

 

Eglurodd mai'r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd:

 

  • Cynnal diogelwch cyfalaf
  • Cynnal hylifedd fel bod cyllid ar gael pan mae angen gwario
  • Cyflawni'r arenillion ar fuddsoddiadau yn gymesur â'r lefelau

diogelwch a hylifedd priodol

 

Ychwanegodd fod llifoedd arian ffafriol wedi darparu balansau arian cadarnhaol ar gyfer buddsoddi a balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2020 oedd £30 miliwn. Dangosir rhagor o fanylion yn Nhabl 2 sy'n manylu'r buddsoddiadau hyn yn ôl math parti i gontract.

 

Eglurodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro bod dau fuddsoddiad hirdymor gyda chyfanswm o £4 miliwn (hyd gwreiddiol o 12 mis neu fwy) yn daladwy yn 31 Mawrth 2020 gydag Awdurdodau Lleol a gynhwysir yn Nhabl 3, a fydd yn aeddfedu yn 2020-21. Roedd yr holl fuddsoddiadau eraill ar 31 Mawrth 2020 yn flaendaliadau tymor byr (gan gynnwys mynediad uniongyrchol a chyfrifon hysbysu). Roedd rhagor o fanylion yn Nhabl 3.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y Cyngor yn ystyried effeithiau Brexit ar ei strategaeth rheoli'r trysorlys.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd ei fod ynghlwm â gr?p Brexit a oedd yn ystyried effeithiau Brexit ar feysydd megis cyfraddau llog etc. Eglurodd nad oedd manylion Brexit yn ddigon clir i allu darparu ymateb manwl hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Archwilio wedi nodi'r gweithgareddau rheoli'r trysorlys blynyddol ar gyfer 2019-20.

 

Dogfennau ategol: