Agenda item

Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio adroddiad ar y cyd rhwng y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol yngl?n ag Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol 2019-20.  Rhoddodd yr adroddiad fanylion i'r Pwyllgor o'r gweithredoedd a wnaethpwyd mewn perthynas â gwrth-dwyll yn ystod 2019/20 gan gynnwys diweddariad ar Ymarfer y Fenter Twyll Cenedlaethol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio ar y trefniadau sydd mewn lle i reoli'r risg o dwyll gyda'r nod o atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac adrodd amdano.  Dywedodd fod y Cyngor yn gosod safonau uchel i Aelodau a Swyddogion wrth weithredu a gweinyddu materion y Cyngor, a'i fod bob amser wedi ymdrin ag unrhyw honiadau neu amheuon o dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth yn brydlon.  Mae gan y Cyngor bolisïau, gweithdrefnau, a mecanweithiau adrodd yn eu lle i atal, canfod ac adrodd ar dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth, sy'n cynnwys y Strategaeth a Fframwaith Twyll, Polisi Chwythu'r Chwiban, Cod Ymddygiad TGCh a'r Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyaeth.  Mae Strategaeth a Fframwaith Twyll rhwng 2018/19 a 2020/21 yn parhau i fod yn sail i ymrwymiad y Cyngor i atal bob ffurf ar dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth, p'un a geisir gwneud hynny'n allanol neu'n fewnol.

 

Bu i'r Rheolwr Cleientiaid Archwilio grynhoi'r gwaith gwrth-dwyll a wnaed yn yr Awdurdod yn ystod 2019/20.  Nododd fod Strategaeth a Fframwaith Twyll y Cyngor yn cynnwys gwaith ymatebol a rhagweithiol gyda'r gwaith rhagweithiol sydd wedi'i gynnwys mewn cynllun gweithredu sy'n nodi'r datblygiadau mae'r Cyngor yn ymgymryd â nhw i wella ei wytnwch i dwyll a llygredigaeth ac amlinellodd y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu.  Mae modiwl e-ddysgu Atal Twyll wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno i staff, mae gwybodaeth ynghylch twyll yn cael ei diweddaru a'i chyhoeddi i staff ar y fewnrwyd ac mae proses asesu risg fwy manwl o dwyll yn cael ei datblygu a fydd yn cysylltu â'r broses rheoli risgiau corfforaethol. 

 

Yn ogystal, adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio ar fanylion yr ymarfer paru data diwethaf a oedd yn seiliedig ar ddata a gafwyd ym mis Medi 2018, lle'r oedd cyfanswm o 484 o achosion o dwyll neu gamgymeriadau wedi'u canfod yn cyfartalu i £41,700 o gronfeydd adferadwy sydd ar y cyfan yn gysylltiedig â'r dreth gyngor neu fudd-dal tai. Nododd y bydd yr ymarfer paru data nesaf yn dechrau yn 2020/21, bydd y data yn cael ei godi fis Hydref 2020 a bydd y parau newydd yn cael eu datgan fis Ionawr 2021.  Darparodd y Pwyllgor hefyd gyda manylion y gwaith gwrth-dwyll mewnol a wnaethpwyd gan yr Archwiliad Mewnol ac Ymchwilydd Twyll y Cyngor gan gynnwys ymchwiliadau mewnol ac ymchwiliadau i ostyngiadau yn y dreth gyngor.  Nododd hefyd yr ymgymerwyd â gwaith ar y cyd yn ystod 2019/20 gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymchwilio Twyll Sengl ar unrhyw ymchwiliadau priodol i fudd-daliadau a gwaith mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Portsmouth i ymgymryd â gweithred gorfodi'r bathodyn glas.  Mae rhwydweithio lleol hefyd mewn lle sydd wedi galluogi rhannu deallusrwydd yn enwedig mewn perthynas â sgamiau newydd ers yr argyfwng COVID-19. 

 

Rhoddodd aelod o'r Pwyllgor sylw yngl?n â'r angen i adnewyddu'r fframwaith a gafodd ei ystyried ddiwethaf gan y Pwyllgor ym mis Ionawr 2019.  Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wrth y Pwyllgor y bydd strategaeth wedi'i hadnewyddu yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor fis Tachwedd.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor bod y pwyslais ar yr Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol wedi'i newid i waith twyll a llygredigaeth prif ffrwd.  Yn ogystal, rhoddodd wybod i'r Pwyllgor bod yr Uwch Swyddog Twyll newydd ei benodi yn mynychu'r Pwyllgor heddiw.

 

PENDERFYNWYD:            Bod:

 

·                     Y Pwyllgor wedi nodi'r adroddiad, y mesurau ar waith a'r gwaith a wneir i atal a chanfod twyll a chamgymeriadau.

Strategaeth Twyll wedi'i hadnewyddu yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor nesaf.    

Dogfennau ategol: