Agenda item

Datblygu Cynllun Gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol CBSP 2020-2024 ac i’w fabwysiadu.

 

Dywedodd fod yn rhaid i'r Cyngor, o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n cynnwys amcanion sy'n disgrifio sut yr eir i'r afael â materion cydraddoldeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y pedair blynedd nesaf.

 

Cyflwynwyd adroddiadau cynnydd blynyddol sy'n disgrifio'r gwaith sy'n gysylltiedig â gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol 2016-2020 i Bwyllgorau Cydraddoldebau’r Cabinet ers 2016. Bydd adroddiadau cynnydd blynyddol yn parhau i gael eu cyflwyno yn ystod oes Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 10 Mawrth 2020 (atodiad 1 i'r adroddiad). Er mwyn datblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb (atodiad 2) roedd y Cyngor wedi:

 

·         Adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 – 2020 a'n cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod hwn

·         Rhoi rhagor o ystyriaeth i bob un o'r naw nodwedd warchodedig a gwmpesir gan dri phrif nod y ddyletswydd gyffredinol, ynghyd â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, a gweithredoedd eraill a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

·         Ystyried gweithredu'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (a ohiriwyd bellach tan fis Mawrth 2021)

·         Ystyried materion cenedlaethol a lleol yn ogystal ag ymgyrch Black Lives Matter ac effaith COVID-19

·         Defnyddio’r adborth a geir yn rheolaidd gan grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth lleol a thrwy Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr, megis pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau a sut y gallwn helpu wrth gefnogi, hyrwyddo a gwella ymwybyddiaeth o faterion fel troseddau casineb a Mis Hanes LGBTQ

·         Gweithio gyda gwasanaethau i ddatblygu camau gweithredu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, i’w cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf

 

Yna cyfeiriodd yr adroddiad at y broses ymgynghori a oedd wedi digwydd o ran y Cynllun Gweithredu, a’r 25 o ganlyniadau a 58 o gamau gweithredu a ddeilliodd ohono.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod pob un o'r amcanion yn y cynllun gweithredu yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig perthnasol, pum ffordd o weithio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, a'n blaenoriaethau corfforaethol.

 

Byddai cynllun gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cael ei adolygu'n flynyddol, a hynny er mwyn dangos cynnydd yn erbyn camau gweithredu, i ymgorffori meysydd gwaith newydd i'r cyngor, i adlewyrchu unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, ac i ddatblygu unrhyw amcanion newydd drwy gydol y cynllun.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol y Cynllun Gweithredu a oedd, yn ei barn hi, yn eglur a’n hawdd ei ddefnyddio o ran sefydlu'r hyn yr oeddem wedi ymrwymo iddo. Roedd yn arbennig o falch o weld ymrwymiad i'r ymgyrch menopos, chwarae, llwgu yn ystod y gwyliau, ac ymestyn y gwaith o fonitro bylchau cyflog i gynnwys unrhyw fylchau posibl rhwng gweithwyr BAME a gweithwyr anabl. Gan fod y Cynllun Gweithredu'n esblygu, roedd yn edrych ymlaen at weld mwy o waith yn cael ei ychwanegu ato yn y dyfodol, ar bobl ag anableddau cudd a pherthnasoedd iach er enghraifft.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio hefyd yn falch o nodi bod y Cynllun Gweithredu yn mynd i'r afael â mater 'Black Lives Matter' a bwlio sy'n gysylltiedig â chasineb.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cael ei galonogi gan y cynnydd yn yr hyfforddiant a gynigiwyd mewn ysgolion, ac roedd yn edrych ymlaen at weld y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Cynllun Gweithredu yn cael eu monitro gan Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb wrth symud ymlaen.

 

Daeth y Dirprwy Arweinydd â’r ddadl i ben drwy ddweud ei fod wedi’i galonogi o weld cynnydd o ran gweithredu'r cyflog Byw Gwirioneddol i holl weithwyr y Cyngor (rhywbeth o fudd i'r rhai ar y cyflogau isaf).

 

PENDERFYNIAD:                             Fod y Cabinet yn cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod 2020-2024.

 

Dogfennau ategol: