Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cynllun Atal ac Ymateb Covid-19 ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Atal ac Ymateb COVID-19 ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

 

Er cefndir, dywedodd wrth yr Aelodau fod llythyr ar y cyd gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, wedi’i ddanfon ar 27 Gorffennaf 2020, ac ynddo gofynnwyd i Fyrddau Iechyd Lleol arwain y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Atal ac Ymateb Covid-19 Lleol mewn partneriaeth â Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol.

 

Roedd y Cynllun Ymateb Diogelu Iechyd y Cyhoedd a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru yn cynnwys 3 elfen allweddol, fel a ganlyn:-

 

1.          Atal Coronafeirws (COVID-19) rhag lledaenu drwy olrhain cysylltiadau a rheoli achosion.

2.         Samplu a phrofi gwahanol bobl yng Nghymru.

3.         Goruchwylio'r boblogaeth.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y 3 elfen hyn wedi'u cymeradwyo gan Gynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

 

Mae llythyrau a chanllawiau dilynol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y dylai gweithredu system genedlaethol a lleol integredig yn effeithiol fod yn seiliedig ar chwe egwyddor, fel yr amlinellir yn ail ran paragraff 3.2 yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr, fod gan Awdurdodau Lleol rôl ganolog yn y gwaith o reoli ymateb Covid-19 yng Nghymru. Dangoswyd hyn wrth ddarparu gofal cymdeithasol a chymorth i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed; y canolfannau gofal plant sy'n rhoi cymorth i weithwyr allweddol hanfodol a chefnogi plant sy'n agored i niwed; cynnal gwasanaethau hanfodol a'r rôl hollbwysig sydd gan awdurdodau lleol yn y rhaglen Test Trace Protect (TTP) ac ymateb i ddigwyddiadau neu achosion.

 

Aeth yn ei flaeni egluro fod y Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol (RSOG), yn goruchwylio chwe ffrwd waith, sef:

 

           Goruchwylio;

           Samplu a Phrofi;

           Olrhain Cysylltiadau a Rheoli Achosion;

           Cyfathrebu Risg ac Ymgysylltu â'r Gymuned;

           Diogelu, a;

           Brechu torfol Covid-19

 

Mae Cynllun Atal ac Ymateb Cwm Taf Covid-19, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn darparu dull cadarn o ymdrin ag ymateb effeithiol y rhanbarth i fygythiad Covid-19, gan nodi'n glir hefyd sut y byddai'n parhau i wneud hynny.

 

Yn Atodiad 4 o'r Cynllun ceir amlinelliad o’r ystyriaethau ar gyfer mesurau gwella lleol, pan fo cynnydd mewn achosion wedi galw am fesurau ychwanegol i reoli trosglwyddiad yr haint. Roedd Cynllun Gweithredu a dogfennau cysylltiedig hefyd yn cefnogi prif Gynllun.

 

Mae'r Cynllun hefyd yn nodi trosolwg o'r dangosyddion gwyliadwriaeth allweddol a'r amserlen adrodd (cyfeiriwyd at Atodiad 5 o'r adroddiad).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod tystiolaeth ddiweddar iawn yn dangos fod y firws ar gynnydd unwaith eto trwy rannau o Gymru, er nad oedd cymaint ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd.

 

Cwblhaodd y Prif Weithredwr yr adroddiad drwy gadarnhau y bydd adolygiadau rheolaidd o'r Cynllun yn cael eu cynnal drwy'r Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau effeithiolrwydd gweithredu neu'r angen am newid. Bydd y cynllun hefyd yn cael ei adolygu mewn ymateb i unrhyw faterion rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg. Bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol yn cael eu cymeradwyo gan y Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol, gan weld y cynllun yn ôl y gofyn, a hefyd gan bartneriaid unigol fel y Bwrdd Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yn ddiolchgar am yr adroddiad a'r wybodaeth fanwl a oedd wedi'i chynnwys yn ei ddogfennau ategol. Ychwanegodd ei bod hefyd yn ddiolchgar i'r 40 Cynghorydd Cyswllt o CBSP a oedd unwaith eto wedi rhoi eu cefnogaeth yn ystod y pandemig.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn pryderu am y cynnydd diweddar mewn achosion ynghyd â'r sefyllfa gyda Chartrefi Gofal. Gofynnodd a oedd mesurau’r prosiect Monitro ac Olrhain (TTP) yn ddigon cadarn, o gofio'r cynnydd sydyn mewn achosion ym Mwrdeistrefi Sirol cyfagos Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod 8 Swyddog Addysg wedi'u hychwanegu at y timau TTP a rennir ar draws y 2 ardal uchod a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er ei fod yn cydnabod pe bai'r naid sydyn yn parhau i gynyddu efallai y bydd yn rhaid rhoi mwy o Swyddogion yn y rôl hon. Roedd cyllid TTP ar gael ar gyfer atgyfnerthiadau staffio o'r fath. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar drefniadau cyd-gymorth er mwyn ymrwymo adnoddau ychwanegol i weithio'n gorfforaethol ledled Cymru, yn hytrach nag fesul awdurdod lleol. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar na ddylid caniatáu ymwelwyr i Gartrefi Gofal ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion Covid a’r ffaith fod y trigolion ymysg y mwyaf bregus yn ein cymuned.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod y tîm TTP wedi'i gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers 1 Medi, a bod nifer sylweddol o'r tîm Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir wedi'u secondio yno i gynorthwyo gyda gwaith TTP. Roedd rhai cyflogeion a oedd yn wreiddiol yn rhan o’r TTP ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi'u secondio i RhCT i gynorthwyo gyda'r gwaith hwn oherwydd y cynnydd sydyn mewn achosion, ac os bydd y cynnydd sydyn yn parhau efallai y bydd angen mwy o weithwyr BCB i gefnogi'r gwaith hwn maes o law.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y clo yng Nghaerffili yn ein hatgoffa o'r risg i’r cyhoedd pe na reolir y firws. Roedd achosion yn dechrau cynyddu’n araf ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Anogodd bobl Pen-y-bont ar Ogwr i wneud eu rhan yn y frwydr yn erbyn y feirws, oherwydd pe bai achosion yn parhau i godi yma byddai angen cymryd camau i leihau nifer yr achosion, gan gynnwys cyflwyno cyfnod clo arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr pe byddai angen.

 

PENDERFYNIAD:                 Fod y Cabinet yn nodi’r adroddiad a'r atodiadau ac yn cymeradwyo Cynllun Atal ac Ymateb COVID-19 ar gyfer Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.   

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z