Agenda item

Adolygiad Perfformiad Blynyddol Awdurdodau Lleol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Ebrill 2019 – Mawrth 2020

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad a'i ddiben oedd hysbysu Pwyllgor y Cabinet o adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r adolygiad blynyddol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth y Gwasanaethau i Blant gyda chyfraniadau gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

O ran cefndir yr adroddiad, mae’r cod ymarfer ar gyfer adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ym mis Ebrill 2019 yn amlinellu bwriad AGC i ysgrifennu a chyhoeddi llythyr blynyddol ar gyfer awdurdodau lleol, a fyddai'n:

 

·         rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd gan AGC yn ystod y flwyddyn;

·         adrodd ar y cynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud wrth weithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau o ymarfer plant ac oedolion;

·         amlinellu ein blaenraglen waith.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod y llythyr adolygu blynyddol wedi'i gyhoeddi ar 3 Awst 2020 a’i fod yn crynhoi adolygiad AGC o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran cyflawni ei swyddogaethau statudol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

 

Mae cynnwys llythyr perfformiad 2019-20 wedi’i seilio ar y gweithgaredd gwerthuso perfformiad a gynhaliwyd gan yr arolygiaeth yn ystod y flwyddyn. Y gweithgaredd hwn oedd arolygu gwasanaethau oedolion h?n ym mis Medi 2019, a thrafodaethau ac ymweliadau amrywiol â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ystod y flwyddyn. Cafodd gweithgarwch â ffocws a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Mawrth 2020 ei ohirio oherwydd COVID-19.

 

Roedd y llythyr perfformiad blynyddol ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Crynhodd y cryfderau a'r meysydd i'w gwella yn unol ag egwyddorion Deddf 2014 o dan benawdau Llesiant, Pobl, Atal a Phartneriaethau. Roedd y cynnwys yn adlewyrchiad cywir o drafodaethau'r AGC gyda'r gyfarwyddiaeth a'u canfyddiadau parhaus sydd wedi'u rhannu'n gyson â CBSP.

 

Roedd y cynllun gweithredu a ddatblygwyd yn sgil yr arolygiad o oedolion h?n ym mis Medi 2019 wedi'i atodi yn Atodiad 2, er gwybodaeth i'r Aelodau.  

 

Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Blant yr Aelodau fod y gwelliannau a argymhellwyd gan AGC yn cael eu datblygu, ond bod nifer sylweddol o feysydd cryf yn y maes gwasanaeth hwn hefyd a gafodd gydnabyddiaeth yn arolygiad yr AGC.

 

Ychwanegodd fod amserlenni Asesiadau Plant wedi gwella ers yr arolygiad, gan fod y targedau ar ddiwedd mis Mawrth ar 74%, a’u bod bellach yn cyrraedd 96%. Roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal yn dal yn weddol uchel, er bod y cyfnod clo wedi effeithio ar rywfaint o'r gwaith yn ymwneud â'r maes hwn. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau i Blant yn falch o ddweud nad oedd unrhyw blant ar hyn o bryd mewn lleoliadau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio.

 

Ychwanegodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl H?n wedi cael ei ystyried gan y Cabinet ychydig cyn y cyfnod clo. Roedd targedau gwella o fewn hyn yn cael eu datblygu a, lle bo hynny'n berthnasol, roedd dyddiadau targed ar gyfer cwblhau'r rhain yn cael eu nodi yn y Cynllun.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn falch o'r cynnydd a wnaed a'r cryfderau a nodwyd gan yr AGC yn y ddau faes gwasanaeth. Mae yna bethau i’w gwella yn sgil y math yma o arolygiad yn ddi-ffael, ac roedd yn falch o nodi bod gwaith yn mynd rhagddo mewn meysydd lle nodwyd y gellid gwella.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn falch o'r adroddiad a gofynnodd i unrhyw gamau gweithredu na chymerwyd i gael eu nodi wrth ystyried yr Adroddiad Blynyddol, a fyddai'n cael ei adrodd i'r Cyngor ar ddyddiad priodol yn y dyfodol. Yn y cyfamser, teimlai y dylid disgwyl adroddiad cynnydd i'r Cabinet ymhen 3/4 mis, er mwyn i Aelodau allu monitro cynnydd yn y ddau faes Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion.

 

Dywedodd y Swyddog arweiniol eu bod yn hapus â'r dull hwn.

 

PENDERFYNIAD:                            Fod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn cymeradwyo canfyddiadau'r AGC fel y'u nodir yn yr Atodiadau i'r adroddiad.

      

Dogfennau ategol: