Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Hysbysodd yr Arweinydd yr Aelodau o’r cyhoeddiad mai Rhondda Cynon Taf, yn anffodus, oedd yr ail ardal yng Nghymru i wynebu clo mawr a rhoddodd grynodeb i’r Aelodau o ddiweddariad ar y sefyllfa ym Mhen-y-bont. Mewn cyfarfod o’r Cabinet ddoe, cefnogwyd cynllun gweithredu rhanbarthol a oedd yn amlinellu cyfres o fesurau ar gyfer taclo lledaeniad Covid-19 ac ymateb i unrhyw achosion neu ddigwyddiadau’n gysylltiedig â’r feirws. Mae Cynllun Atal ac Ymateb i Covid-19 yn ymwneud ag ardal Cwm Taf Morgannwg yn gyfan, ac fe’i datblygwyd ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd er mwyn disgrifio rôl, rôl allweddol, prif amcanion a’r mesurau ar gyfer y rhanbarth yn fanwl, nodi trefniadau ar gyfer atal lledaeniad yr haint ymysg y mwyaf bregus, lliniaru a rheoli ei effaith, a monitro o fewn cymunedau lleol. Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu’r gweithdrefnau sydd wedi eu mabwysiadu pan fydd gofyn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithredu camau lleol neu gyfyngiadau, fel y gwelwyd yn fwyaf diweddar yn ardal Caerffili, a bellach yn Rhondda Cynon Taf.

 

Eglurodd fod modd rheoli nifer o glystyrau a digwyddiadau drwy raglen Profi, Olrhain, Diogelu heb fod angen cau adeiladau na gweithredu cyfyngiadau clo mawr pellach, ac mae ymchwiliadau trylwyr a threfniadau rheoli wedi eu mabwysiadu ar gyfer unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol. Cyfeiriodd y Cyngor at rôl ganolog pob Cyngor o safbwynt rheoli Covid-19 yng Nghymru. Tanlinellodd y modd y caiff trigolion bregus eu cefnogi gan ofal cymdeithasol, yr hybiau gofal plant sydd wedi cefnogi gweithwyr allweddol hanfodol a phlant bregus. Cynnal gwasanaethau hanfodol, sicrhau fod staff ar gael i gefnogi’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu. Os bydd galw ar y Cyngor i ymateb i ddigwyddiadau neu achosion arwyddocaol pellach, bydd yn ateb y galw yma.

 

Hysbysodd yr Arweinydd yr Aelodau y gall fod pobl yn poeni am y cynnydd diweddar yn y cyfraddau heintio ar hyd a lled rhanbarth De Cymru a’r cyfyngiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, ac aeth ati i sicrhau’r Aelodau a’r trigolion fod y systemau angenrheidiol yn eu lle i geisio atal hyn rhag digwydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Ar yr un pryd, dylai pawb gydnabod fod osgoi gorfod wynebu clo mawr neu beidio yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ymateb y gymuned. Pwysleisiodd ei bod hi’n bwysicach nac erioed i’r Fwrdeistref Sirol ddod ynghyd fel un gymuned, i ymddwyn mewn modd cyfrifol a diogel, a dilyn y gofynion cenedlaethol o safbwynt ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, golchi dwylo a diheintio. Eglurodd nad oedd y pandemig drosodd o bell ffordd, ac y dylai trigolion fod yn wyliadwrus o hyd. Hysbysodd yr Aelodau fod datganiad ar y cyd wedi ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon rhwng y Cyngor a Heddlu De Cymru yn gofyn ar i drigolion ymddwyn yn gyfrifol a chadw’n effro gan annog pobl i osgoi ymgasglu yn eu niferoedd ar gyfer G?yl Elvis ym Mhorthcawl, sydd wedi ei chanslo, ac i feddwl ddwywaith, cadw’n ddiogel ac aros gartref. Hyderai y byddai Aelodau’n cefnogi’r ymdrechion yma ac yn helpu i hybu’r prif negeseuon pwysig yma ymysg eu hetholwyr. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod naw digwyddiad wedi bod ers i’r ysgolion ailagor, lle’r oedd staff neu ddisgyblion wedi derbyn prawf coronafeirws positif, gan arwain at y disgyblion a’r staff yn hunan-ynysu yn unol â chanllawiau cenedlaethol fel cam rhagofalus. Nododd fod y fath ddigwyddiadau’n anorfod tra bod y pandemig yn dal yn ei anterth, ond gan fod cymaint o fesurau diogelwch rhesymol wedi eu mabwysiadu ar sail asesiadau risg llawn, mae mwy o fanteision i fynychu’r ysgol na pheidio. Roedd ysgolion wedi bod yn paratoi i groesawu disgyblion nôl i’r ysgol ers cryn amser bellach, ac ym mhob achos, llwyddwyd i ymateb yn sydyn yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan bob ysgol nifer helaeth o fesurau i leihau risg, cyfyngu ar gyswllt a chynnal safonau hylendid uchel. Mae disgyblion sydd heb eu heffeithio’n dal i fynychu gwersi fel arfer, y rhai sy’n hunan-ynusu’n cael eu dysgu drwy gyfrwng gwersi ar-lein, dosbarthiadau rhithiol ac adnoddau dysgu cyfunol. Gofynnodd ar i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid gefnogi’r ymdrechion yma i atal lledaeniad y coronafeirws drwy barhau i fod yn wyliadwrus, ac osgoi anfon plant sy’n dangos symptomau i’r ysgol.

 

Nododd fod y cynnydd sydyn mewn achosion ar hyd a lled y DU, a bod penawdau cyfredol y newyddion yn llawn straeon yngly?n â’r modd y mae’r Llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru’n ymdrin â’r oedi o safbwynt profion coronafeirws. Mae mesurau ar waith, yn cynnwys unedau profi symudol sydd i’w lansio yng Nghymru a’u gyrru i’r ardaloedd lle mae’r galw mwyaf amdanynt. Gellir gweld y Cynllun Atal ac Ymateb i Covid-19 ar wefan y cyngor, ac anogodd yr Aelodau i’w ddarllen er mwyn gweld sut mae’r pandemig yn cael ei drin ar raddfa ranbarthol.  Eglurodd y byddai’r Cyngor yn dal i weithio ar y cyd â phartneriaid i wneud popeth posib i amddiffyn trigolion bregus, ac i sicrhau ei fod yn dal i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol.

 

Cydymdeimlodd yr Arweinydd â Mrs Marlene Thomas, cyn arweinydd y Fwrdeistref Ddinesig, ar golli ei thad, Mr George Davies, a fu’n Faer cydweddog iddi yn ystod ei blwyddyn yn y rôl.

 

Llongyfarchodd Mr Laurence Brophy o Bencoed ar ei lwyddiant yn beicio o Land’s End i John ‘O Groats er mwyn codi arian ar gyfer Llamau.

 

Estynnodd groeso cynnes i Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a oedd yn mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r Cyngor.