Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol oddi wrth:

1.    Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu ei gynlluniau i leihau'r risg o ddigartrefedd yn ystod pryder parhaus pandemig Covid-19?

 

2.    Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Ceir rhybudd yn dilyn cyhoeddiad adroddiad ar y cyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n nodi’r angen am wasanaethau lleol ataliol sy’n helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau gwell iechyd meddwl i bawb.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi gwybod i ni pa fesurau ataliol yr ydym ni’n eu cymryd yn ein Sir ni i helpu pawb i gadw’n iach yn feddyliol, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19?

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn oddi wrthY Cynghorydd T Thomas i Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff Aelod y Cabinet amlinellu eu cynlluniau i leihau’r risg o ddigartrefedd yn ystod cyfnod gofidus y pandemig Covid-19?

 

Ymateb Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Fel yr hysbyswyd chi eisoes, mae unigolion yn cael eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau, er enghraifft, diwedd perthynas, anawsterau yn y berthynas rhwng rhiant a phlentyn, trais yn y cartref. Nid yw’r fath resymau (risgiau) wedi newid yn sgil y pandemig Covid-19, ond yr hyn sydd wedi newid yw’r disgwyliadau ar awdurdodau lleol.

 

Fel y gwyddoch, ar ddechrau’r pandemig, disgwylid i bob awdurdod lleol sicrhau nad oedd unigolion yn ddigartref ar y stryd yn ystod y clo mawr. Disgwyliai Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr I ddarparu llety dros dro addas gydag ystafell ymolchi i’r garfan hon. Ymestynnodd Llywodraeth Cymru’r diffiniad o fregus dan y Ddeddf Tai gyfredol er mwyn ystyried effaith y pandemig Covid-19. Yn eu barn nhw, mae’r pandemig Covid-19 yn fygythiad difrifol ac yn risg eithriadol i’r bobl hynny sy’n ddigartref a’r posibilrwydd yw nad yw’r unigolion yma’n gallu cydymffurfio â chyngor iechyd, hunan-ynysu, ymbellhau’n gymdeithasol na chynnal y gofynion hylendid angenrheidiol ac mae’n ymddangos yn anorfod felly fod person sydd naill ai’n ddigartref ar y stryd neu’n wynebu digartrefedd ar y stryd yn llai abl na pherson digartref cyffredin i ofalu amdano/amdani ei hun. Golygai’r newid hwn yn y canllawiau nad oedd yr unedau llety lle a osodwyd i unigolion digartref yn y gorffennol bellach yn cydymffurfio â’r gofynion presennol, h.y. yn sgil ymbellhau cymdeithasol, roedd y trothwy capasiti’n is, ac roedd angen hefyd am adnoddau ystafell ymolchi unigol yn sgil natur heintus iawn y feirws Covid-19.

 

Y llynedd, derbyniodd y Cabinet ein strategaeth i daclo digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, gyda’r bwriad o “Weithio ar y cyd ar sail gorfforaethol gyda phartneriaid allanol, a defnyddwyr gwasanaeth, mewn modd ymatebol, greadigol ac amserol i atal a lliniaru digartrefedd drwy’r fwrdeistref sirol yn gyfan, gan sicrhau y gall pobl gael mynediad i lety addas, gyda’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflenwi eu hanghenion”.

 

Nid yw’r pandemig Covid-19 wedi newid ein huchelgais, ond gyda’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, mae wedi rhoi’r modd i ni gyflymu rhan o’n cynllun a bwrw ymlaen â phrosiectau a fyddai wedi bod yn disgwyl ar y cyrion am gyllid heblaw am hynny.

 

Mae ein cynllun ar y cyd yn ystyried fod digartrefedd yn fater cymhleth ac aml-haenog sy’n gofyn am ymateb amlweddog. Mae dadansoddiad o anghenion y cohort o bobl a dderbyniodd lety yn ystod y pandemig Covid-19 yn cadarnhau hyn. Er enghraifft, o’r rhai a dderbyniodd lety yn ystod y pandemig Covid-19, dim ond 1 o’r 15 oedd heb angen cefnogaeth, tra bod anghenion gan y gweddill i gyd, oedd yn gofyn am gefnogaeth iechyd meddwl a/neu gamddefnydd sylweddau – nid darparu llety yw’r unig ateb. Er mwyn sicrhau fod y llety sy’n cael ei ddarparu’n addas ar gyfer yr unigolyn, rhaid bod yr unigolyn yn barod ac yn dymuno mynd i’r afael â rhai o’u hanghenion.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf a refeniw i helpu gyda’r gofynion llety ychwanegol. Isod, gwelir rhai enghreifftiau o’r mathau o brosiectau yr ydym wedi eu cefnogi yn sgil cyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn eu gweld yn ddefnyddiol, ac fel arfer, rwy’n hapus i drefnu cyfarfod i’w trafod yn fanwl neu os yn bosib, drefnu ymweliadau megis yr un a wnaed â Hostel Brynmenyn yr wythnos ddiwethaf.

 

Mae’r prosiectau refeniw yn cynnwys darparu gwasanaethau cefnogi ychwanegol ar gyfer Hostel Brynmenyn sydd wedi galluogi’r hostel i gael ei defnyddio ar gyfer blaenoriaethu ac adnabod gofynion cefnogaeth defnyddwyr y gwasanaeth. Rydym hefyd wedi defnyddio’r grant refeniw i gefnogi Pobl i reoli llety ar Commercial Street ym Maesteg ac mae’r Swyddogion yn gweithio ar lefel ranbarthol gydag awdurdodau cyfagos a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddarparu cynllun peilot sy’n ymestyn allan i’r rhai sy’n camddefnyddio sylweddau, sydd wedi cael cychwyn cadarnhaol ac rwy’n gobeithio y gellir ei gynnal i’r dyfodol. 

 

Mae’r prosiectau cyfalaf wedi derbyn cefnogaeth ddangosol oddi wrth Lywodraeth Cymru a bydd yn edrych i gynyddu faint o unedau llety sydd ar gael ym Mhen-y-bont. Amrywia’r cynlluniau yma o brynu adeiladau yn y sector breifat gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs), ac adnewyddu tai nad ydynt bellach yn cyflenwi anghenion ein demograffig digartrefedd i gynyddu capasiti ein cynlluniau cyfredol.

 

Yn fy marn i, mae’r Tîm Ymateb Tai wedi gwneud eu gorau glas i ganfod llety i bob person digartref ym Mhen-y-bont yn ystod y pandemig Covid-19 ac fe fyddant yn parhau â’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn o ofid byd-eang.

 

Yn ei gwestiwn atodol, holodd y Cynghorydd Thomas beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr o’r lluoedd arfog rhag bod yn ddigartref. Eglurodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol wrth yr Aelodau fod y Cyngor yn gweithio gyda’r trydydd sector i gefnogi cyn-filwyr a’u bod wedi arwyddo ymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog. Hysbysodd Lladmerydd y Lluoedd Arfog y Cyngor eu bod yn cefnogi elusennau’r cyn-filwyr ac amlinellodd achos diweddar pan wnaed cyn-filwr yn ddigartref, cafodd ei roi mewn llety dros dro cyn ei symud i lety mwy parhaol. Diolchodd y Cynghorydd Thomas yr Aelodau am eu hymateb gan ddatgan y byddai’n codi’r mater eto drwy gyfrwng cwestiwn ysgrifenedig i Ladmerydd y Lluoedd Arfog.

 

Holodd Aelod gwestiwn atodol gan gyfeirio at y trafodaethau helaeth yn ystod y Panel Adferiad a holi am effeithiolrwydd y bartneriaeth a’r ymateb a dderbyniwyd oddi wrth bartneriaid yn ystod y pandemig. Hysbysodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod y Cyngor wedi cydweithio â’r trydydd sector sydd wedi ymateb yn sydyn yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth ardderchog oddi wrth y Wallich, Caer Las a Phobl. Eglurodd fod yr elfen gefnogaeth yn allweddol yn y cyswllt hwn a bod y trydydd sector ac Ymateb Tai wedi cydweithio’n arbennig gyda’i gilydd gan gyfarfod yn wythnosol. Ymhellach, roedd Heddlu De Cymru wedi ymateb yn sydyn i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi ymgymryd â gwaith ataliol o fewn y gymuned. Roedd busnesau lleol, megis perchnogion gwestai a sefydliadau gwely a brecwast wedi ymateb yn gadarnhaol drwy ddarparu llety ar gyfer y digartref. Mynychodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gyfarfodydd o’r Panel Ailgartrefu Brys er bod eu staff ar seibiant swydd.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cafwyd rhybudd yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Ganolfan Iechyd Meddwl sy’n cyfeirio at yr angen am wasanaethau lleol ataliol er mwyn helpu i leihau’r anghydraddoldebau iechyd a sicrhau gwell iechyd meddwl i bawb. 

 

All Aelod y Cabinet egluro pa fesurau ataliol sydd wedi eu mabwysiadu o fewn ein Sir er mwyn helpu pawb i gadw’n feddyliol iach, yn cynnwys y rhai sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19?

 

Ymateb Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Mewn ymateb i’r cwestiwn yn ymwneud â pha fesurau ataliol sydd wedi eu mabwysiadu i helpu pobl i gadw’n feddyliol iach o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r isod yn disgrifio’r gwasanaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd

Gwasanaethau Plant:

Bydd nifer o blant yn elwa o dderbyn help a chefnogaeth gynnar ar ryw gyfnod yn ystod eu plentyndod a bydd angen help gan arbenigwyr y gwasanaeth iechyd meddwl ar rai. Yn ogystal â’r bobl ifanc hynny y mae eu hanghenion iechyd meddwl wedi eu hadnabod, mae llawer mwy sy’n wynebu anawsterau cynnar, yn cynnwys y rheini sy’n wynebu byw mewn sefyllfaoedd sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu problemau sylweddol ac a allai elwa o dderbyn cefnogaeth gynnar i hybu iechyd meddwl da mewn modd gweithredol.

 

Mae ymateb cadarn, graddol yn allweddol i sicrhau iechyd meddwl da ymysg plant a phobl ifanc, gan gynnwys y teulu wrth ymwneud â materion megis: genedigaeth iach, rhianta cyson, cadarnhaol, cydbwysedd rhwng maeth ac ymarfer corff, cyrhaeddiad yn yr ysgol, ffrindiau a’r gallu i ymdopi â digwyddiadau bywyd. Gall plant a phobl ifanc sy’n feddyliol iach ddatblygu’n emosiynol, greadigol a deallusol a meddu ar y cryfder i ymdopi ag anawsterau bywyd. Cydnabyddir fod profiadau plentyndod yn effeithio’n sylweddol ar y gallu i fod yn rhiant effeithiol a chefnogol yn y dyfodol.

 

Ceir amrywiaeth eang o wasanaethau ataliol o fewn y portffolio cefnogi gwaith a theulu integredig sy’n cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys: 

 

·         Tair canolfan leol wedi eu lleoli yng ngogledd, gorllewin a dwyrain y fwrdeistref sirol. Mae’r rhain yn cynnwys gweithwyr cefnogi’r teulu, swyddogion ymwneud â’r teulu, cwnselwyr wedi eu lleoli mewn ysgolion, gweithwyr ieuenctid, swyddogion lles addysgol, gweithwyr lles emosiynol a chwnsela cymdeithasol. 

·         Canolfan ganolog sy’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau arbenigol yn cynnwys rhai sy’n cefnogi plant ar ‘ymyl gofal’ a’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid.

·         Gwasanaeth datblygu ieuenctid – gweithwyr ieuenctid, gweithwyr ymwneud, gwasanaeth ieuenctid rhan-amser ayb. Yn benodol, ceir tîm lles emosiynol ieuenctid sy’n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed ar sail asesiad anghenion.

·         Gofal plant a blynyddoedd cynnar, yn cynnwys Dechrau’n Deg.

 

Yn fwy penodol, ceir adnodd gwasanaeth iechyd meddwl plant a llencyndod (CAMHS) o fewn canolfan ddiogelu aml-asiantaeth (MASH) ochr yn ochr â dwy nyrs iechyd cyhoeddus sy’n gallu cyfeirio plant, pobl ifanc a theuluoedd at y gwasanaethau cywir. 

 

Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg (EPS)

Parhaodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg i gefnogi ein plant, pobl ifanc, staff ysgolion a theuluoedd gyda sylw arbennig i les drwy gyfrwng y dulliau canlynol:

·         cyswllt parhaus a chefnogaeth ymgynghorol ar gyfer ysgolion a theuluoedd drwy gyfrwng llinell gymorth dros y ffôn, e-byst a chyfarfodydd rhithiol

·         datblygu a dosbarthu 11 pecyn o ddeunyddiau ar gyfer ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a lles staff, disgyblion a theuluoedd yn ystod tymor gwanwyn a haf 2020

·         sefydlu ac arwain tasg ddychwelyd i’r ysgol a gr?p gorffen yn ystod tymor haf 2020 gyda chynrychiolaeth oddi wrth ysgolion a swyddogion yr awdurdod lleol

·         anfon holiaduron lles i staff ysgolion ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont gan gynnig cefnogaeth i bawb a holodd amdano

·         datblygu Llyfryn Adferiad, Ailgyflwyno ac Adnewyddu ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau Addysgol gan gyfeirio at ddigwyddiadau critigol er mwyn cefnogi integreiddiad disgyblion nôl i’r ysgol yn ystod tymor hydref 2020

·         yn dilyn ceisiadau am gefnogaeth, sefydlu dau gynllun yn ystod yr hydref hwn:

o   cefnogaeth i ddisgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol Brynteg

o   cefnogaeth trosglwyddo i ddisgyblion bregus Blwyddyn 7 yn Ysgol Gatholig yr Archesgob McGrath

·         caiff teclyn proffilio lles PERMA ei brofi eleni mewn 10 ysgol ym Mhen-y-bont

·         cynnydd o 100% o safbwynt teclyn goruchwylio cefnogi dysgu emosiynol (ELSA) wedi ei ddarparu gan EPS sy’n canolbwyntio ar welliant a lles yn ystod y flwyddyn academaidd hon

·         ymgymryd â phrosiect ymchwil gofal yn Ysgol Bryn Castell i ddechrau

·         peilot hyfforddi parod sy’n ymwneud â phrofiadau eithafol plentyndod (ACE) drwy gyfrwng webinar a chefnogaeth EPS fyw;

·         cynllunio cyfarfodydd drwy gyswllt y seicolegydd addysgol (EP) gyda phob ysgol er mwyn adnabod eu blaenoriaethau a’u hanghenion o safbwynt cefnogaeth.

·         rhoddir sylw cynyddol i les ac adferiad yn ystod y flwyddyn academaidd hon, yn ychwanegol at y cynlluniau y cyfeiriwyd atynt uchod. Bydd lles ac iechyd meddwl da yn parhau i fod yn sail i’n trafodaethau a’n gwaith ymyrryd.

Gwasanaethau Oedolion

Ceir amrywiaeth eang o wasanaethau ataliol ar gyfer oedolion yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd.

 

Yn 2019, cafodd darpariaeth iechyd meddwl yr Awdurdod Lleol ei ail-fodeli er mwyn cynnig gwasanaeth Ataliol ac Ymyrraeth (DEWR) sy’n darparu gwasanaeth cymunedol ar gyfer dinasyddion sy’n wynebu salwch meddwl. Gwnaed hyn i sicrhau y gallem gefnogi’r dinasyddion hynny nad oedd yn cydymffurfio â chriteria rhai o’n gwasanaethau arbenigol.

 

Ethos DEWR yw mynd i’r afael â materion cymdeithasol sy’n effeithio ar unigolion neu eu teuluoedd/y rhai sy’n eu cefnogi er mwyn rhwystro dechrau salwch meddwl. Mae DEWR yn cynnig nifer o ymatebion hyblyg, sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn sicrhau fod dinasyddion yn gallu ymwneud yn llawn â chymdeithas a bod y ffocws yn dal ar eu safbwyntiau, dymuniadau a’u teimladau. Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda dinasyddion a’u teuluoedd gan dargedu’r gefnogaeth gydnabyddedig sydd ei angen arnynt er mwyn hybu eu lles meddyliol.

 

Gallwn gefnogi dinasyddion sy’n 16 mlwydd oed a throsodd sydd mewn perygl difrifol o ddatblygu iechyd meddwl gwael neu ddiffygiol, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Gall hyn gynnwys pobl sy’n wynebu digartrefedd, rhai sy’n dioddef o weithrediad uchel o safbwynt Anhwylder Sbectrwm Awtistig neu agweddau Anawsterau Dysgu. 

 

Gall DEWR ddarparu cefnogaeth o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cefnogi dinasyddion i gyflawni a chynnal y lefelau uchaf posib o safbwynt annibyniaeth a lles meddyliol, naill ai drwy gyfrwng gweithgaredd gr?p neu ar lefel un i un. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi cydweithwyr Gwasanaethau Plant er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad a throsglwyddiad plentyn i fyd oedolyn, gan fynd i’r afael ag unrhyw faterion iechyd meddwl sy’n amlygu eu hunain. 

 

Yn ystod y cyfnod anghymharol ac unigryw hwn, bu’n rhaid i’n gwasanaeth addasu er mwyn parhau i gyflenwi anghenion ein poblogaeth. Mae cyflwyniad a’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg wedi ein galluogi i gefnogi’r gymuned, a thrwy ymroddiad ein staff, rydym wedi llwyddo i wynebu’r sialensiau a ddaeth yn sgil Covid-19. Roedd cyswllt cyson a chymorth yn hanfodol i nifer o fewn yr ardal, ac ategwyd at bob dull o gysylltu, er mwyn darparu cysur a chynnig hyder i’r rhai sy’n derbyn cefnogaeth gennym. 

 

Drwy gyfrwng Skype, mae staff wedi parhau i gynnig gwaith gr?p megis sesiynau garddio, crefft, coginio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r gwaith ataliol beunyddiol er mwyn cynnal iechyd meddwl yn parhau, gan mai lles y rhai o dan ein gofal yw ein blaenoriaeth, ac rydym hefyd wedi cynyddu ein hymwneud â gofalwyr a’r rhai sy’n cefnogi er mwyn cynnal sefydlogrwydd o fewn y cartref yn ystod y fath gyfnodau anodd. Ochr yn ochr ag ymdrechion anhygoel ein partneriaid trydydd sector megis BAVO, mae’r tîm wedi ymdrechu i gefnogi’r rhai mwyaf bregus o fewn y gymuned, er mwyn sicrhau eu diogelwch a rheoli eu hofnau o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol.

 

Yn ôl y disgwyl, mae’r pwysau a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â’r clo mawr megis ansicrwydd wedi effeithio ar nifer o’n trigolion, ac mae’r tîm yn dal yn hynod o brysur. Yr amcan i’r dyfodol yw parhau i ddatblygu cynlluniau newydd er mwyn targedu heriau sydd wedi dod i’r wyneb yn ystod y cyfnod unigryw hwn. Gall y rhain gynnwys hunanhyder a gofid am ddelwedd y corf, cynnydd mewn ymddygiad caethiwus a gwaith mwy dwys gyda theuluoedd lle mae Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn amlwg. Mae tarfu ar drefn ddyddiol bywyd wedi effeithio’n fawr iawn ar y gr?p hwn a bydd adran o fewn y tîm yn canolbwyntio ar ddarparu ymyrraeth wedi targedu i leihau effaith y pandemig ar y rhai yn y categori hwn. Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sydd angen cymorth ar y cychwyn cyntaf er mwyn atal yr angen am ymyrraeth tymor hir yn ddiweddarach.

 

Cefnogi Adferiad yn y Gymuned (ARC) Gwasanaeth Ataliol a Lles ar y cyd rhwng yr Awdurdod Iechyd a Lleol yw hwn sy’n darparu Therapi Galwedigaethol, cefnogaeth gymunedol a chyngor ymarferol, arweiniad a chefnogaeth strwythuredig ar gyfer unigolion sy’n wynebu problemau iechyd meddwl. Mae’r tîm yn cynnig asesiadau, sydd wedyn yn gallu darparu amrywiaeth eang ac amrywiol yr ymyrraeth feddygol, therapi seicolegol, naill ai mewn grwpiau neu ar lefel un i un.

 

Mae’r tîm oedolion yn trafod yn gyson â’n partneriaid o’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol, yr heddlu, gwasanaethau addysg, tai a chyflogaeth gan gyfuno’r gefnogaeth a ddarperir ganddynt.

 

Roedd y Cynghorydd Hussain yn falch i nodi fod y Cyngor yn gwneud ei orau i gadw trigolion yn iach o safbwynt meddyliol, corfforol a chymdeithasol. Mynegodd ofid yngly?n ag absenoldeb unrhyw gyfeiriad at y boblogaeth hy?n sy’n dioddef o iselder, arwahanrwydd, unigrwydd a dibyniaeth ar alcohol, ac i beidio ag anghofio ‘syndrom straen ôl Covid-19’ ymysg y gr?p hwn. Yn ei gwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd Hussain yn awyddus i wybod mwyn am y teclyn proffilio lles PERMA fydd yn cael ei brofi yn ystod y flwyddyn gan 10 ysgol ym Mhen-y-bont ac a allai Aelod y Cabinet egluro mwy wrth y Cyngor amdano? Cytunodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ddarparu ateb ysgrifenedig.

 

Holodd aelod o’r Cyngor am gynlluniau’r Cyngor o safbwynt gweithio gyda’r trydydd sector ac a oeddent yn cysylltu â’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Hysbysodd Pennaeth Gwasanaethau Plant yr Aelodau fod y gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn gyda’r trydydd sector sy’n adrodd yn ôl i’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, sy’n flaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth a’i is-grwpiau.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at y posibilrwydd o glo mawr lleol a gofynnodd a allai’r Cyngor wneud unrhyw beth yn wahanol. Hysbysodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr Aelodau fod y Cyngor yn gorfod ymateb y n ddyddiol i sefyllfa sy’n newid yn gyson. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Plant wrth y Cyngor fod y gwasanaeth yn parhau i weithredu ar lefel lled glo, wrth barhau i gefnogi dinasyddion. Caiff camau gweithredu eu hadolygu’n ddyddiol ac mae’r gefnogaeth a roddir i ddinasyddion yn cydymffurfio â’r Cynllun Cyflwyno Gwasanaeth ac â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn wyneb clo lleol, meddai, byddai’r gwasanaeth yn ymgymryd â mecanwaith trosolwg tynnach unwaith eto. Hysbysodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod staff sy’n gweithio mewn ysgolion dan bwysau ac y byddai hynny’n effeithio ar wasanaethau ac y caiff profiadau Cynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf eu holrhain.