Agenda item

Cyflwyniad o Fargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd a’r Rhaglen Gyflwyniadau i’r Dyfodol i’r Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr gyflwyniad i’r Cyngor o raglen Bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r rhaglen gyflwyniadau i’r Cyngor yn y dyfodol. Nododd fod tri diben i’r cyflwyniad ar Fargen Prifddinas-Ranbarth, yn benodol, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth o’r rhaglen i’r Aelodau, rhoi cyfle i ddangos y cynnydd da ac er mwyn trafod cyfleoedd i’r rhaglen o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

 

Rhoddwyd cyflwyniad o Fargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) i’r Cyngor gan Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) a Frank Holmes, Cadeirydd Panel y Bartneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi. Nododd Cyfarwyddwr y Fargen Prifddinas-Ranbarth mai rhaglen fuddsoddi £1.3bn cyhoeddus yw’r Fargen Prifddinas-Ranbarth sy’n seiliedig ar bartneriaeth driwiaeth o 10 awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog. Ei nod oedd cynhyrchu 25,000 o swyddi ychwanegol, sicrhau gwerth £4 biliwn o fuddsoddiad pellach a chynyddu Gwerth Gros Ychwanegol i’r economi o 5%. Eglurodd wrth y Cyngor fod y Cynhgorau’n cydweithio ar sail deg am eu bod yn rhannu daearyddiaeth economaidd weithredol, ond o fewn hynny, fod rhai o’r mannau mwyaf a lleiaf cystadleuol yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd, ac o’r herwydd gallai strategaeth unigol danseilio yn hytrach na mynd i’r afael â rhai o’r problemau endemig hynny. Amlinellodd awgrymiadau arloesol y rhaglen, a fyddai’n cael eu defnyddio nid yn unig er mwyn canolbwyntio ar dechnoleg a busnes, ond hefyd i hybu’r gymdeithas ddinesig, gan sbarduno tyfiant o safbwynt economïau Sylfaen a’r sector gwasanaethau cyhoeddus. Y nod yw creu amodau ar gyfer llewyrch cyffredinol ac i sicrhau fod amcanion economaidd yn cyd-fynd â pholisi cymdeithasol mwy blaengar ac i fod yn wydn a pharhaus. 

 

Cyfeiriodd Cadeirydd Panel y Bartneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi y Cyngor at y prosesau sydd wedi eu mabwysiadu a’i fod wedi ymgynnull bwrdd o unigolion profiadol gyda’r rôl o asesu’r rhaglen fuddsoddi, ymgynghorwyr i’r Cabinet ar y cyd ac i sicrhau buddsoddiad mewnol. Soniodd fod angen cynllun ar y Bwrdd i sicrhau fod arian yn cael ei fuddsoddi yn unol â’r rhaglen fuddsoddi er mwyn trosoledd o’r buddsoddiad ychwanegol o £4bn. Roedd y Bwrdd eisoes wedi dechrau ar y 3 piler angenrheidiol o safbwynt sicrhau gwir gysylltedd rhanbarthol gyda phartneriaethau cyhoeddus a phreifat. Er mwyn bod yn gystadleuol, roedd angen buddsoddi mewn arloesedd a chysylltedd gyda chysylltedd digidol yn hollbwysig a’r angen i fod yn gadarn er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Nododd fod y cynllun wedi ei adolygu’n ddiweddar, yn ogystal â datblygu fframwaith fuddsoddi er mwyn hybu arloesedd a helpu cwmnïau i dyfu. Gwnaed ymchwil helaeth i sicrhau fod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol ar draws y rhanbarth.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) y Cyngor o’r ymgyrch i sicrhau tyfiant cadarn da ar sail rhagwelediad a’r hyn oedd i ddod, a fyddai’n sicr o gael ei effeithio’n anghyfartal gan Brexit o ystyried dibyniaeth ar gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt tyfiant economaidd. Eglurodd na fyddai unrhyw fargen ddinesig arall ac y byddai unrhyw fuddsoddiad rhanbarthol newydd ar lefel Llywodraeth y DU bellach yn dod wrth UKIS. Byddai angen datblygu nodweddion er mwyn caniatáu i’r rhanbarth fod yn gystadleuol ac y byddai angen i’r sector gyhoeddus newid. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y CCR y Cyngor at y seiliau cadarn yr adeiladwyd arnynt, a’r modd y gweddnewidiwyd arferion gwaith a chyflymder penderfyniadau. Amlinellodd fraslun o’r Gronfa Fuddsoddi ac Ymyrraeth, gan sôn fod 28 cynllun ar y gweill oedd yn gofyn am gyfanswm buddsoddiad o £390m. Tanlinellodd y cynlluniau a oedd wedi eu cymeradwyo mor belled yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a lle’r oedd buddsoddiad ychwanegol wedi ei sicrhau. Hysbysodd y Cyngor fod y Rhanbarth wedi amlygu ei hun drwy’r cynllun Global Welsh. Rhoddodd Cyfarwyddwr y CCR drosolwg o’r hyn oedd yn oblygedig o safbwynt Pen-y-bont, yn cynnwys adeiladu ar gryfderau a chyfleodd o fod yn lleoliad gweithgynhyrchiol ddwys. Gorffennodd drwy sôn fod y Fargen Prifddinas-Ranbarth wedi ei sefydlu ar seiliau cadarn ar gyfer cam nesaf y daith.

 

Cododd un o aelodau’r Cyngor gwestiwn ynglyn ag effaith y Fargen Prifddinas-Ranbarth yn sgil y penderfyniad i wrthod caniatâd i ffordd liniaru’r M4. Roedd Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi o’r farn fod ymwrthod â’r cynllun yn newyddion drwg o safbwynt busnes yng Nghymru ac y byddai’n effeithio ar fusnes rhyngwladol. Roedd Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn gefnogol i’r cynllun. Eglurodd Cyfarwyddwr y CCR fod yr Awdurdod Trafnidiaeth Ranbarthol yn credu fod angen cysoni’r prif gynlluniau trafnidiaeth ac y byddai cynllun yr HS2 yn effeithio ar y Fargen Prifddinas-Ranbarth.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at y penderfyniad na fyddai unrhyw Fargen Prifddinas-Ranbarth yn y dyfodol gan holi pa raglenni fyddai’n cael eu datblygu i sicrhau fod cyllid ar gael o hyd. Eglurodd Cyfarwyddwr y CCR fod angen cynaladwyedd a bod disgwyl y bydd y Fargen Prifddinas-Ranbarthol yn arwain at fwy o gyllid. Hysbysodd Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi y Cyngor fod y drefn gywir yn ei lle i sicrhau ymddiriedaeth ar bob lefel o lywodraeth er mwyn i’r rhanbarth allu gwrthsefyll rhanbarthau eraill er mwyn sicrhau buddsoddiad addas. Hysbysodd yr Arweinydd y Cyngor fod y rhanbarth yn awyddus i gydweithio â phartneriaid byd-eang o ran darparwyr band eang a thechnoleg. Eglurodd fod y rhanbarth ymysg y rhanbarthau sy’n datblygu gyflymaf o safbwynt poblogaeth a bod angen sicrhau fod buddsoddwyr yn buddsoddi arian yn y rhanbarth er budd yr holl drigolion

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at agosrwydd Pen-y-bont at ranbarth Bargen Dinas Bae Abertawe gan holi os oes cydweithio â’r rhanbarth honno. Hysbysodd Cyfarwyddwr y CCR y Cyngor fod cryn drafod â rhanbarth Bargen Dinas Bae Abertawe a bod cydweithredu o safbwynt sicrhau fod y rhaglenni’n aliniedig. Mae Bargen Dinas Bae Abertawe’n wahanol i’r Fargen Prifddinas-Ranbarthol am fod gan y rhanbarth wneuthurwr lled-ddargludydd cyfansawdd. Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio at y ffaith fod lleoliad Pen-y-bont yn ymyl Bargen Dinas arall yn fantais a bod Pen-y-bont wedi bod yn ganolbwynt trafnidiaeth erioed ac roedd yn awyddus i Ben-y-bont ddatblygu fel canolbwynt o’r gorllewin i gysylltu â Maes Awyr Caerdydd. Soniodd am y gwasanaeth rheilffordd anghyson i gyfeiriad Y Pîl ac am yr angen i fuddsoddi yn yr orsaf a sicrhau gwasanaeth bob awr yn ystod yr wythnos ac am adnodd parcio a theithio er mwyn cysylltu â Phorthcawl a chymunedau yn y cymoedd. Holodd aelod o’r Cyngor os oedd cynlluniau i sicrhau integreiddio’r Pîl a Phorthcawl. Eglurodd yr Arweinydd fod cyllid ar gael o’r Fargen Prifddinas-Ranbarthol a Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad sylweddol yng ngorsaf Y Pîl er mwyn gwella’r cysylltiadau â Phorthcawl. Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’n gweld fod y ffaith fod Pen-y-bont ar y ffin â Bargen Dinas Bae Abertawe fel mantais ac mewn lleoliad unigryw o safbwynt denu busnesau byd-eang gan mai yno oedd gorsaf drenau ail brysuraf y rhanbarth gyda chysylltiadau â’r maes awyr. 

 

Holodd aelod o’r Cyngor yngly?n ag effaith Covid-19 ar y cynlluniau ar gyfer y Fargen Prifddinas-Ranbarthol. Eglurodd Cyfarwyddwr y CCR fod pob cynllun wedi ei adolygu yn sgil Covid-19 a bod arolwg cynhwysfawr wedi ei gynnal er mwyn sicrhau fod buddsoddiad a chefnogaeth ar gael ar gyfer mentrau bach a chanolig. Hysbysodd yr Arweinydd y Cyngor fod busnesau yn cael eu gwahodd i wneud cais i’r Gronfa Sialens, yn enwedig o blith y sector technoleg feddygol. Eglurodd Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi wrth y Cyngor fod y Gronfa Sialens yn edrych i fynd i’r afael â phroblemau economaidd a chreu cyfleoedd. 

 

Holodd aelod o’r Cyngor beth fyddai effaith cymdeithasol-economaidd Covid-19 gan ofyn am sicrwydd y byddai hyblygrwydd o fewn y strategaeth i addasu i sefyllfaoedd gwahanol. Eglurodd Cyfarwyddwr y CCR na allai’r rhaglen aros yn ei hunfan a bod angen sicrhau cydbwysedd o fewn y rhaglen gan mai’r amcan oedd gwella bywydau. Soniodd Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi fod bas tystiolaeth yn cael ei gadw’n gyfredol a bod 2 fyfyriwr PHD yn monitro’r gweithgareddau yma. Nododd ei bod hi’n anodd rhagweld effaith Covid-19 ond bod angen darparu’r data gorau posibl. Hysbysodd yr Arweinydd y Cyngor fod y Fargen Prifddinas-Ranbarthol wedi ymateb i’r pandemig drwy ailstrwythuro’r rhaglen a gwneud hynny yn y fath fodd er mwyn gallu ymateb i newidiadau.  

 

PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

 

(1)  Nodi cyflwyniad Cyfarwyddwr y Fargen Prifddinas-Ranbarthol Dinas a Chadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi.

 

(2)  Nodi’r rhaglen ar gyfer cyflwyniadau i’r Cyngor yn y dyfodol fel yr amlinellwyd. 

 

Gohiriwyd y cyfarfod am 16.55 gan ailddechrau eto am 17.00.         

Dogfennau ategol: