Agenda item

Adroddiad Blynyddol Canlyniad Rheoli’r Trysorlys 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro, gyda’r bwriad o gydymffurfio â gofynion Rheolaeth y Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA), i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol ac i adrodd ar Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2019-20. 

 

Adroddodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod y trysorlys y Cyngor yn cael ei reoli o fewn fframwaith Rheolaeth y Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer Rhifyn 2017 (y Cod CIPFA) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg sy’n gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau bob blwyddyn ariannol. Darperir arweiniad i’r Cyngor yngly?n â rheoli’r trysorlys gan Arlingclose ac yn dilyn proses dendro, nhw sydd wedi eu penodi eto am gyfnod o 4 mlynedd, tan Awst 2024. 

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a threfniadau masnachu i’r dyfodol yn parhau i fod yn un o’r prif ddylanwadau ar economi’r DU yn ystod 2019-20.  Symudodd Banc Lloegr, a oedd wedi cadw cyfraddau llog yn gyson ar 0.75% drwy gydol 2019-20 bron, i dorri’r gyfradd o 0.75% i 0.25% ym mis Mawrth 2020 a’i thorri eto’n fuan wedyn i 0.1%, sy’n record. Hysbysodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro y Cyngor fod y pandemig Covid-19 wedi newid y popeth yn gyflym iawn tua diwedd y flwyddyn ariannol gan greu ansicrwydd yn y marchnadoedd arian.

 

Adroddodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ar Ganlyniad Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019-20 gan hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cydymffurfio â’r gofynion deddfol a rheolaethol yn ystod 2019-20. Cyflwynodd grynodeb o’r ddyled allanol a’r sefyllfa fuddsoddi ar gyfer 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2020, ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau tymor hir yn ystod 2019-20 ac ni chafodd unrhyw ddyled ei had-drefnu am nad oedd manteision arbed arian sylweddol, ond byddai’r portffolio benthyciadau’n cael ei adolygu yn ystod  2020-21. Hysbysodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro y Cyngor fod llif arian ffafriol wedi sicrhau cyllid dros ben ar gyfer buddsoddi a bod balans y buddsoddiadau ar y 31 Mawrth 2020 yn £30 miliwn, ar raddfa llog cyfartalog o 0.82%. Gwelwyd cynnydd yn y buddsoddiadau dyledus o ddechrau’r flwyddyn ariannol pan welwyd buddsoddiad o £27.4 miliwn ar raddfa llog cyfartalog o 0.94%. Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro grynodeb a chanlyniad y strategaeth fuddsoddi gan egluro mai’r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cynnal sicrwydd cyllid; sicrhau hylifedd, fel bod cyllid ar gael pan fydd ei angen a dim ond ceisio cynnydd ar y buddsoddiadau wedyn. Hysbysodd y Cyngor fod y mwyafrif o’r buddsoddiadau yn rhai tymor byr oedd yn cael eu dal gydag awdurdodau lleol o fewn y DU a banciau o ansawdd credyd uchel.

 

Nododd aelod o’r Cyngor mai arfer awdurdodau lleol oedd benthyca arian i awdurdodau lleol eraill. Hysbysodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor fod Strategaeth Reoli’r Trysorlys wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor a bod y Swyddogion yn gweithredu’r strategaeth. Eglurodd fod benthyg arian i gynghorau eraill yn fodd i’r Cyngor fuddsoddi. Hysbysodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro yr Aelodau fod y Cyngor yn buddsoddi arian am gyfnod byr gydag awdurdodau lleol y DU gan dderbyn ad-daliad bob tro, ac yn aml iawn yr un arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi. Ceisir cyngor yngly?n â buddsoddi oddi wrth ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys y Cyngor bob amser.

 

Holodd aelod o’r Cyngor a allai’r cyngor ail-drafod benthyciadau LOBO ar sail y cyfraddau llog is cyfredol. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro wrth y Cyngor fod gan y benthyciwr yr opsiwn i awgrymu cyfradd llog newydd a bod gan y Cyngor yr opsiwn, fel yr un sy’n rhoi’r benthyciad, p’un ai i dderbyn y gyfradd honno. Aeth ymlaen i ddweud gan fod y cyfraddau llog mor isel, byddai benthycwyr yn annhebygol o leihau’r cyfraddau. Hysbysodd y Cyngor hefyd y byddai’r Cyngor yn wynebu cosb petai’n ad-dalu’n gynnar.

 

Holodd aelod o’r Cyngor a allai’r Swyddogion ystyried y cyfle i fanteisio ar fenthyciadau rhatach yn sgil cyfraddau llog isel yn achos eu hadroddiad nesaf ar Reoli’r Trysorlys i’r Cyngor. Cytunodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ystyried hyn.

PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

 

  • Cymeradwyo gweithgareddau blynyddol rheoli’r trysorlys ar gyfer 2019-20.

Cymeradwyo gwir ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019-20 yn erbyn y rhai a gafodd eu cymeradwyo yn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20.

Dogfennau ategol: