Agenda item

Diweddariad O Gynllun Corfforaethol 2018-2022 Wedi Ei Adolygu Ar Gyfer 2020-21, Yn Sgil Effaith Covid-19

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r diweddariadau i Gynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-2022 wedi ei adolygu ar gyfer 2020-21, yn sgil effaith  Covid-19 gael eu cymeradwyo ac i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig.

 

Adroddodd fod Cynllun Corfforaethol 2018-2022 yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, y 3 amcan lles a’r gwerthoedd sefydliadol a’r egwyddorion sy’n sail i’r modd y bydd y Cyngor yn gweithio i gyflawni ei flaenoriaethau. Eglurodd fod y Cynllun yn cynrychioli cyfraniad y Cyngor wrth gyflawni’r 7 amcan lles cenedlaethol fel y nodwyd yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac amcanion cynnydd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. 

 

Eglurodd fod effaith y pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu’r Cyngor i symud ymlaen o safbwynt cyflawni ei amcanion lles yn unol â’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig. Nododd mai da o beth fyddai adolygu’r ymrwymiadau a’r targedau cyfredol a chanolbwyntio ar y prif flaenoriaethau ar gyfer gweddill 2020-21. Cyfeiriodd at newidiadau arfaethedig y Cynllun Corfforaethol oedd yn cynnwys rhai mân newidiadau i ymrwymiadau’r Cyngor yn ogystal ag ambell un newydd i adlewyrchu’r prif feysydd blaenoriaeth y mae angen i’r Cyngor ganolbwyntio arnynt yn ystod gweddill 2020-21. Dywedodd fod nifer o fesurau llwyddiant newydd yn y Cynllun, yn ogystal â rhai cyfresol, a’u targedau wedi eu hadolygu. Yn achos y targedau oedd wedi eu lleihau o ganlyniad i effaith Covid-19 darparwyd eglurhad o’r rhesymeg, er enghraifft, effaith cau canol trefi ar fusnesau a nifer ymwelwyr. 

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cyngor y byddai’r Cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol er mwyn ystyried newidiadau yn y sefyllfa a’r cynnydd a wnaed ochr yn ochr â’r amcanion lles er mwyn sicrhau cyflawni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr ymrwymiadau a’r mesurau diwygiedig yn cymryd lle’r ymrwymiadau a’r mesurau a gynhwysir yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol ac yn dod yn rhan o Gynllun Corfforaethol 2018-2022 wedi ei adolygu ar gyfer 2020-21. Hysbysodd y Cyngor y caiff cyflawniad ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chyfarwyddiaeth cynlluniau busnes a’i fonitro’n chwarterol drwy gyfrwng cyfarfodydd tîm rheoli’r gyfarwyddiaeth a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan ystyried argymhellion y Panel Adferiad. 

 

Pwysleisiodd y prif newidiadau a argymhellwyd yng nghyswllt yr adran deilliannau dysgwyr yn sgil cyflwyno dysgu hybrid a chyfunol a datblygiad amgylchedd diogel mewn ysgolion. Ceir ffocws cynyddol ar gefnogi isadeiledd er mwyn i fusnesau allu goresgyn effaith y pandemig. O safbwynt datblygu cymunedau cadarn, bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol i sicrhau atebion tymor hir er mwyn rheoli adnoddau / gwasanaethu. O safbwynt diwylliant a hamdden roedd angen ailsefydlu cyfranogiad drwy wella mynediad a dileu rhwystrau. Edrychir ar gyfleoedd o safbwynt trawsnewidiadau digidol er mwyn esblygu ffyrdd newydd o weithio ac ailfodeli gwasanaethau.

 

Hysbysodd y Cyngor fod y Cabinet wedi awgrymu newidiadau o safbwynt ychwanegu naratif yng nghyswllt adeiladau gwag a pharcio rhad ac am ddim a pharhau i weithio gyda busnesau sy’n bodoli eisoes a busnesau newydd. O safbwynt gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned, bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda’r trydydd sector. Bydd ychwanegiad hefyd i weithio ar leihau digartrefedd ac i weithio gyda’r rhai sy’n cysgu ar y stryd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn datblygu strategaeth iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant. Bydd y Cyngor hefyd yn datblygu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Cymeradwyodd yr Arweinydd yr adolygiadau i’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Holodd aelod o’r Cyngor p’un ai fyddai oblygiadau ariannol y pandemig yn effeithio ar y nifer o staff sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor. Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cyngor fod effaith ariannol y pandemig yn anhysbys hyd yma am nad oedd cadarnhad yngly?n â chyfraniad ariannol Llywodraeth Cymru. Eglurodd fod gan y Cyngor feichiau newydd ac y gallai fod newid yn rôl rhai aelodau o’r staff er mwyn cyflawni rôl newydd. Mae cronfa Covid wedi ei chreu ac roedd yn hyderus y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu costau unigol, ond roedd yn bryderus yngly?n â’r incwm roedd y Cyngor wedi ei golli. Nododd y byddai angen ystyried gweithio mewn modd gwahanol yn hytrach na lleihau nifer y staff. 

 

Nododd aelod o’r Cyngor y dylai’r strategaeth iechyd meddwl hefyd gynnwys pobl hy?n yn sgil y teimladau o unigrwydd y maent wedi gorfod eu hwynebu yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r strategaeth yn ymdrin ag oedolion a phlant gyda’r bwriad o’i gyfeirio at y bwrdd iechyd a’r trydydd sector. 

 

PENDERFYNWYD: Fod y Cyngor yn cymeradwyo’r diweddariad i’r Cynllun Corfforaethol 2018-22 wedi ei adolygu ar gyfer 2020-21 a atodir fel Atodiad A ac yn mabwysiadu’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig a atodir fel Atodiad B.

Dogfennau ategol: