Agenda item

Pwyllgor y Cabinet - Cylch Gorchwyl ac Adolygiad Aelodaeth Rhianta Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad mewn perthynas â'r mater uchod.

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yn ymrwymo i "archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill, ac os oes angen, i ddiwygio'r ffordd y maent yn derbyn gofal". Atgyfnerthir hyn gan y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb, gyda gofal cymdeithasol yn 1 o'r 5 maes blaenoriaeth, gyda chamau i'w cymryd a'u cyflawni fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn cychwyn ar raglen waith a gweithgarwch ymgysylltu helaeth i ddatblygu dull 'newydd' o ymdrin â rhianta corfforaethol. Mae'r dull newydd yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, a manteisio ar alluoedd sefydliadau unigol, gan gynnwys Siarter Wirfoddol newydd y cyfeirir ati ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Mae'r rhaglen waith yn cynnwys ymgysylltu â charfan eang o blant â phrofiad o ofal i nodi beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu iddynt, a beth yw eu disgwyliadau o'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio’n rheolaidd. Gan weithio gyda'r garfan hon, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyd-lunio Siarter Wirfoddol y gall sefydliadau ei mabwysiadu i nodi eu hymrwymiad a'u cynnig unigryw i ofalu am blant profiadol. Bydd y Siarter Wirfoddol hon yn galluogi'r holl randdeiliaid, ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, ac yn y meysydd sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd heb, i ymrwymo i ddatganiad cyffredin o wella cymorth a gweithredu wrth weithio gyda phlant sydd â phrofiad o ofal. Rhagwelir y bydd y Siarter yn caniatáu i lofnodwyr ddisgrifio sut y maent yn ymgysylltu â phlant sydd phrofiad o ofal a'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud yn wahanol neu ei gynnig yn ogystal â phlant sy'n cael profiad o ofal yn y dyfodol.

 

Parhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant drwy ddweud y byddant hefyd, er mwyn adeiladu ar y cytundebau fel y'u nodir yn y Siarter Wirfoddol, yn ceisio defnyddio pwerau deddfwriaethol presennol i gryfhau canllawiau statudol, i egluro rolau a chyfrifoldebau, ac i ymestyn dyletswyddau ar draws y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy fabwysiadu'r egwyddorion a amlinellir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

Mae aelodaeth Pwyllgor Cabinet presennol y Cyngor - Rhianta Corfforaethol yn cynnwys 15 Aelod Etholedig (6 ohonynt yn Aelodau Cabinet a chanddynt hawliau pleidleisio), y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB) a’r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol. Dangoswyd Cylch Gorchwyl presennol y Pwyllgor ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Yng nghyfarfod diwethaf Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet, trafododd yr Aelodau sut y gellid ei gryfhau a beth fyddai gwerth ymestyn aelodaeth i asiantaethau partner allweddol. Yn bwysig, roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal (neu blant â phrofiad o ofal) yn cael eu clywed.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar rôl estynedig partneriaid i gynorthwyo yn y modd uchod, gan eu bod hefyd yn rhieni corfforaethol, a chroesawodd y syniad o glywed mwy o leisiau Gofalwyr Ifanc a’u tebyg.

 

PENDERFYNIAD:                          Fod y Cabinet wedi:

 

(1)              (1) Nodi goblygiadau lleol rhaglen waith Llywodraeth Cymru a chymeradwyo cychwyn adolygiad o Bwyllgor presennol y Cabinet - Cylch Gorchwyl Rhianta Corfforaethol ac aelodaeth.

      (2) Cymeradwyo sefydlu Gweithgor i gynnal yr adolygiad, dan arweiniad Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, ac i gynnwys cydweithwyr corfforaethol a chynrychiolaeth gan bartneriaid allanol allweddol yn ogystal â phobl ifanc sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, yr Awdurdod. 

   (3) Nodi y bydd canfyddiadau'r Gweithgor ac unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl ac aelodaeth Pwyllgor y Cabinet – Rhianta Corfforaethol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: