Agenda item

Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd 2020

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoliadol, adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd (APR) Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2020, sy’n seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gafwyd yn 2019. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn cyflwyno fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru cyn 30 Medi 2020, yn ogystal ag i ystyried y Cynllun Gweithredu Drafft mewn perthynas ag allyriadau aer yn Park Street, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yna cyflwynodd Swyddogion o’r adran Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) i gyflwyno'r adroddiad.

 

Cynghorwyd yr Aelodau, o dan Adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, bod gan bob awdurdod lleol rwymedigaeth i adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd, ac i benderfynu a yw amcanion ansawdd aer i ddiogelu iechyd yn debygol o gael eu cyflawni.  Pan fo adolygiadau ansawdd aer yn nodi nad yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu nad ydynt yn debygol o gael eu cyflawni, mae adran 83 o Ddeddf 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer ('AQMA'). Mae Adran 84 o'r Ddeddf yn sicrhau bod rhaid gweithredu wedyn ar lefel leol, a amlinellwyd mewn Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) penodol, i sicrhau bod ansawdd aer yn yr ardal a nodwyd yn gwella. 

 

Rhoddodd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol, a atodir yn Atodiad 1 i'r prif adroddiad, fanylion am y data a gadarnhawyd ar gyfer monitro ansawdd aer a gynhaliwyd yn 2019 o fewn CBSP.

 

Cafodd Gorchymyn AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ei weithredu'n swyddogol ar 1 Ionawr 2019. Mae’r ardal a ddynodwyd yn Orchymyn Rhif 1 Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Park Street wedi ei amlinellu yn Ffigur 1, a ddangosir ar y cynllun ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Amlinellodd Adroddiad Cynnydd Blynyddol (APR) 2020 y diwygiadau a wnaed i rwydwaith monitro NO2 anawtomatig a ddefnyddiwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2019. Digomisiynwyd y lleoliadau monitro NO2 anawtomatig presennol i ganiatáu cydymffurfiaeth barhaus, a chomisiynwyd lleoliadau monitro NO2 newydd er mwyn cryfhau’r ddealltwriaeth mewn ardaloedd monitro presennol, megis AQMA Park Street a Cowbridge Road.

 

Mae APR 2020 yn cadarnhau bod ansawdd aer wedi parhau i fod yn bryder cyffredin yn 2019, ar hyd Park Street gan gyd-daro â ffin ddaearyddol Gorchymyn AQMA Park Street, Pen-y-bont ar Ogwr a godwyd ar 1 Ionawr 2019. Nododd hefyd bod cyfartaleddau blynyddol uwch o ran lefel ansawdd aer i’w cael yn agos i Park Street, ar hyd rhwydweithiau ffyrdd cyfagos lle mae cysylltiad perthnasol yn amlwg. Mae Ffigur 2 yn dangos y safleoedd monitro anawtomatig sydd wedi'u lleoli yn AQMA Park Street a’r cyffiniau. Eglurwyd rhagor o fanylion am hyn yn yr adroddiad.

 

Roedd yn hanfodol bod y safleoedd monitro a amlygwyd yn cael eu harchwilio'n ofalus a bod camau addas yn cael eu cymryd pan fo angen. Gall camau o'r fath olygu diwygio Gorchymyn AQMA Park Street, gan gynnwys diwygio'r ffin ddaearyddol er mwyn cynnwys ardal ehangach, a'r rhesymau dros ddatgan.

 

Yn ogystal â'r rhwydwaith monitro nad yw'n awtomataidd sy'n benodol i AQMA Park Street, mae'n hanfodol bod SRS/CBSP yn gwella'r galluoedd monitro ansawdd aer ar hyd Park Street drwy gyflwyno system monitro ansawdd aer awtomataidd (AMS).

 

Fel rhan o ddyletswyddau statudol LAQM, o ddyddiad y Gorchymyn AQMA (sef 1 Ionawr 2019 yn yr achos hwn) mae gan SRS a CBS Pen-y-bont ar Ogwr 18 mis i baratoi cynllun gweithredu DRAFFT i wella ansawdd aer yn yr ardal, ac unwaith y cytunir arno, rhaid i'r cynllun hwn gael ei fabwysiadu'n ffurfiol cyn pen dwy flynedd.

 

Er mwyn datblygu syniadau a sicrhau AQAP effeithiol sy'n rhoi ystyriaeth i bob agwedd ac yn blaenoriaethu iechyd y cyhoedd, mae Gr?p Llywio Gwaith AQAP wedi'i lunio sy'n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol adrannau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â phersonau o'r BGC'au lleol.

 

Mae graddau'r lefelau ansawdd aer a archwiliwyd ar Park Street, a gytunwyd gan Gr?p Llywio Gwaith yr AQAP ac sy’n cyd-daro â'r adborth a gafwyd yn sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2019, yn deillio o natur llif y traffig sy'n defnyddio'r rhwydwaith. Ymddengys mai ciwio a llif traffig anghyson yw prif achos y lefelau ansawdd aer gwael a adroddir.

 

Yn dilyn y Dadansoddiad Cost a Budd dangosol, gwnaed penderfyniad gan Gr?p Llywio Gwaith yr AQAP i fynd ar drywydd yr opsiynau lliniaru hynny a fyddai’n rheoli ac yn gwella llif y traffig drwy AQMA Stryd y Parc, a thrwy hynny sicrhau gwelliannau o ran ansawdd aer cyn gynted ag sy’n bosibl, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a BCBC, ac i ostwng y lefelau cymaint ag sy’n rhesymol ymarferol.

 

Yna eglurodd Swyddogion yr SRS rai cynigion a awgrymwyd i gyflawni'r uchod.

 

Daeth y Swyddogion a’u hadroddiad i ben drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod casglu data ansawdd aer yn wasanaeth hanfodol, ac ailddechreuwyd y gwaith monitro ym mis Mai 2020. Bydd angen cywiro/cadarnhau'r canlyniadau ar gyfer 2020, sydd i’w cofnodi yn Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2021, o ystyried y bylchau yn y setiau data blynyddol oherwydd sefyllfa COVID.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles ganmoliaeth i’r adroddiad a’r holl waith caled a wnaed i’w greu, gan gynnwys sesiynau galw heibio yn Halo ddiwedd y llynedd.

 

Diolchodd hefyd i Aelodau lleol y Ward yn ardal Park Street, am eu cyfraniadau.  Tynnodd sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn seiliedig ar ddata 2019 a oedd yn cefnogi canfyddiadau 2018 a ddeilliodd o'r Gorchymyn Rheoli Ardal, a grëwyd o ganlyniad i giwio traffig yn yr ardal hon o Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Estynnodd yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles ei diolch hefyd i'r aelodau hynny o'r cyhoedd a fu’n rhan o’r ymgynghoriadau â hi, staff yr SRS, aelodau lleol, a staff eraill y Cyngor yngl?n â'r mater hwn, a oedd yn broblem iechyd y cyhoedd. Roedd angen lleihau'r lefelau nitrogen deuocsid yn Park Street i’r lefel isaf posibl cyn gynted â phosibl. Ychwanegodd y byddai'r cynigion yn y Cynllun Gweithredu Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn cael eu monitro wrth symud ymlaen, gan gynnwys unrhyw fesurau nad ydynt wedi'u gweithredu eto.

 

Nododd yr Arweinydd awgrym y gellid, er mwyn mynd i'r afael â'r broblem uchod, hwyluso ffordd osgoi yn y lleoliad hwn, h.y. ar ben Park Street ger y goleuadau traffig, er mwyn lleddfu ar dagfeydd traffig a phroblemau ansawdd aer. Fodd bynnag, teimlai fod hwn yn fater sylweddol o ran adnoddau ac y byddai darparu hyn, mae'n debyg, ond yn symud y broblem, gan achosi mwy o broblemau traffig/materion ansawdd aer mewn mannau eraill.

 

Dywedodd Swyddog SRS fod nifer o atebion lliniarol yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynigion Rheoli Ansawdd Aer Lleol, ond bod yn rhaid iddynt fod yn opsiynau hyfyw a chyraeddadwy, a’n rhai y gellid eu gweithredu o fewn amserlen briodol.

 

Roedd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yn adleisio y byddai darparu ffordd osgoi yn ddatrysiad drud iawn i'r broblem. Gellid edrych ar ffactorau lliniarol eraill, dywedodd, megis annog y defnydd o gerbydau allyriadau carbon isel gan y cyhoedd, rhywbeth a oedd yn uchel ar agenda'r Llywodraeth, a ffyrdd o atal cerbydau'n troi’n weili mewn lleoliadau fel Park Street, er bod hyn wastad yn anodd ar rwydweithiau priffyrdd lle ceir goleuadau traffig, a cheir yn cael eu dal mewn traffig yn rheolaidd. Gallai defnyddio mwy ar lwybrau Teithio Llesol gyfrannu at yr ateb hefyd, ychwanegodd.

 

Daeth yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio â’r ddadl ar yr adroddiad i ben drwy ddweud fod llwybr beicio/cerdded o Ben-y-fai i Gefn Glas yn bosibilrwydd hirdymor gwerth ei ystyried, yn enwedig o gofio bod y darn o briffordd sy’n cysylltu’r ddau leoliad ar hyn o bryd yn beryglus iawn i feicwyr a cherddwyr.

 

PENDERFYNIAD:                            Fod y Cabinet wedi:

 

(1)   Yn nodi a derbyn canlyniadau’r monitro ansawdd aer a gasglwyd yn 2019.

(2)   Yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran datblygu'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Park Street, ac yn cymeradwyo'r penderfyniad i fwrw ymlaen ag asesiadau trafnidiaeth ac ansawdd aer manwl i helpu i fesur yr effaith y gallai'r mesurau a ffafrir ei chael ar ansawdd aer yn AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

(3)   Cytuno y dylid cwblhau'r Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd 2020 (sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) i'w gyflwyno fel fersiwn terfynol i Lywodraeth Cymru cyn 30 Medi 2020.

 

Dogfennau ategol: