Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-2022 a adolygwyd ar gyfer 2020-21, yn dilyn effaith Covid-19 (Atodiad A i'r adroddiad), ac i gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol Diwygiedig (Atodiad B) i'r Cyngor gael ei gymeradwyo.
Bydd pandemig Covid-19 yn effeithio ar allu'r Cyngor i wneud cynnydd o ran cyflawni’r amcanion llesiant a nodir yn y Cynllun Corfforaethol newydd. Felly, byddai'n ddoeth ailedrych ar yr ymrwymiadau a'r targedau presennol ac ailffocysu'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweddill 2020-21.
Yn Atodiad A i'r adroddiad eglurhaol amgaewyd dyfyniad o'r Cynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu a oedd yn nodi newidiadau arfaethedig. Roedd hyn yn cynnwys rhai mân newidiadau i ymrwymiadau CBSP yn ogystal â rhai newydd i adlewyrchu'r meysydd blaenoriaeth allweddol y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt ar gyfer gweddill 2020-21.
Mae nifer o fesurau llwyddiant newydd yn y Cynllun hefyd, yn ogystal â rhai cyfredol lle mae'r targedau wedi'u hailystyried.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod ymrwymiadau/gwelliannau newydd wedi'u nodi mewn coch yn y Cynllun newydd, yn ogystal â newidiadau i unrhyw dargedau. Lle'r oedd ymrwymiadau/mesurau wedi'u dileu, dangoswyd y rhain ond â llinell trwyddynt.
Pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r newidiadau yn Atodiad A, byddai’r ymrwymiadau a'r mesurau diwygiedig yn disodli'r ymrwymiadau a'r mesurau hynny a nodir yn y Cynllun Corfforaethol presennol, a byddai’n dod yn Gynllun Corfforaethol 2018-2022 wedi'i ddiweddaru a’i adolygu ar gyfer 2020-2021 fersiwn 2. Amgaewyd hwn yn Atodiad B i'r adroddiad.
Byddai cyflawni'r uchod yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chynlluniau Busnes y Gyfarwyddiaeth, y byddai'r ddau ohonynt yn cael eu monitro'n agos yn y dyfodol canolig/interim.
Awgrymodd yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol rai ychwanegiadau/diwygiadau i'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig ac adlewyrchwyd y rhain yn y penderfyniad isod.
Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad nad oedd angen byrdwn y Cynllun Corfforaethol i gynnwys yr holl wasanaethau a ddarparodd yr Awdurdod, ond yn hytrach y dylai gyflwyno Cynlluniau Gwella'r Cyngor, yn enwedig yn wyneb y pandemig.
PENDERFYNIAD: Fod y Cabinet yn cymeradwyo’r diweddariadau i Gynllun Corfforaethol 2018-22 a adolygwyd ar gyfer 2020-21, sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad, ac yn cytuno ar gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig yn Atodiad B i'r Cyngor, gyda'r cafeatau canlynol:
2. Atodiad A – Amcan Llesiant 2 - Helpu Pobl a Chymunedau i fod yn fwy Iach a Chryf.
a) Lle cyfeirir at weithio mewn partneriaeth, ychwanegu at hyn drwy gynnwys y trydydd sector, yn ogystal â Chynghorau Tref a Chymuned, a Grwpiau Cymuned.
b) Ychwanegu darpariaeth yngl?n â'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gefnogi 'pobl sy'n cysgu ar y stryd' i'w cadw oddi ar y strydoedd, yn ogystal â'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n ddigartref.
Cyffredinol
3. Bod darpariaeth yn cael ei hychwanegu at y Cynllun Corfforaethol o ran datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu cysylltiedig i gefnogi gwaith sy'n cael ei wneud gyda phartneriaid i gefnogi iechyd meddwl Oedolion a Phlant (yn enwedig yng ngoleuni pandemig Covid-19).
Dogfennau ategol: