Agenda item

Polisi Teithio gan Ddysgwyr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, a'i ddiben oedd:

 

·         rhoi diweddariad i’r Cabinet ar ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori a gymeradwywyd gan y Cabinet ynghylch y newidiadau arfaethedig i Bolisi Teithio gan Ddysgwyr yr awdurdod lleol; 

·         cynorthwyo'r Cabinet i benderfynu a ddylid parhau ag unrhyw un o'r cynigion ai peidio;

·         nodi sut y byddai'r cynigion yn cyfrannu at yr arbedion cyffredinol i strategaeth ariannol tymor canolig y Cyngor; ac

·         adrodd ar ganlyniadau'r adolygiad strategol annibynnol o drafnidiaeth.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad mai un o nodau ac amcanion yr adroddiad oedd canfod sut y gallai'r Cyngor wireddu’r arbedion a nodwyd ar gyfer maes Teithio gan Ddysgwyr, a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r gorwariant sylweddol presennol.

 

O ran cefndir yr adroddiad, dywedodd wrth y Cabinet fod nifer sylweddol o gymhlethdodau yn cael eu hamlinellu ynddo, a rhoddodd grynodeb ohonynt fel a ganlyn:-

 

  1. Mynd i'r afael â chyfrifoldeb statudol yr Awdurdod Lleol a nodwyd ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ac, yn benodol, pellteroedd statudol ac argaeledd llwybrau cerdded i ysgolion.
  2. Mae'r gyllideb Teithio gan Ddysgwyr o dan bwysau sylweddol, oherwydd bod arbedion o £1.9m wedi'u gwneud ers 2014/15 heb unrhyw newid polisi cyfatebol.
  3. Er y gwnaethpwyd newid polisi o'r fath yn 2015, nid oedd yn ddigon arwyddocaol i gyfrif am yr holl arbedion disgwyliedig a nodwyd yn yr MTFS
  4. Mewn gwirionedd, mae costau wedi cynyddu ar draws sawl agwedd ar gludiant i'r ysgol, er enghraifft ar gyfer disgyblion ADY, disgyblion anabl, a disgyblion ag anghenion meddygol cymhleth.
  5. Daeth yr asesiadau o lwybrau diogel (i ysgolion) i ben yn ddiweddar, gan gefnogi ein gallu i weithredu newid polisi gyda'r nod o wneud arbedion sylweddol a dod â’n hunain o ddiffyg, ac i fynd i'r afael â manylion yr hyn a gyflwynwyd yn y Polisi Teithio gan Ddysgwyr 2015 presennol. Er enghraifft, bydd gan rai disgyblion sydd â brodyr a chwiorydd gymhwysedd i gael cludiant, a rhai sydd heb rai yn anghymwys. Mae rhai disgyblion h?n a arferai dderbyn cludiant i'r ysgol ar bellter y polisi blaenorol yn parhau i elwa ohono, tra bo disgyblion ieuengach ddim.

 

Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, dywedodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad fod y Cabinet wedi cytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth a Pherfformiad Busnes yr Aelodau at dudalen 639 o'r adroddiad (Tabl 1) i weld yr arbedion MTFS a chynnydd y gyllideb yn eu cyfanrwydd, a wnaed er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau ariannol hwn.

 

Yna cyfeiriodd at dudalen 642 o'r adroddiad a’r pum cynnig a ystyrir yno i fynd i'r afael â rhai o'r materion y cyfeirir atynt uchod, ac a nodwyd yn y rhan hon o'r adroddiad eglurhaol ac yn y ddogfen Ymgynghori â'r Cyhoedd (Atodiad 1 i'r adroddiad).

 

Rhoddodd Tabl 2 yr adroddiad fanylion am sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar ddisgyblion a myfyrwyr.

 

O ran yr ymgynghoriad, cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad fod ychydig o dan 1400 o ryngweithiadau wedi bod yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, ymateb a oedd yn gadarnhaol.

 

O'r manylion a geir ar dudalennau 649 i 651 o'r adroddiad ac yn Atodiad 2 (yr adroddiad Ymgynghori), gallai’r Aelodau ddirnad cryfder teimladau'r cyhoedd o blaid ac yn erbyn y cynigion polisi.

 

Roedd tudalen 651 o'r adroddiad yn cynnwys asesiad o bob un o'r cynigion hyn.

 

Roedd Tabl 5 yr adroddiad yn nodi’r elfen bolisi gyntaf o ran cymhwysedd a llwybrau cerdded diogel, ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael i'r Cabinet, yn ogystal â'r risgiau sy'n gysylltiedig â derbyn y cynnig hwnnw neu beidio.

 

Pwysleisiodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad fod dau fater pwysig i'w hystyried, sef, yn gyntaf: bod asesiadau o ran gweithredu’r llwybrau cerdded wedi'u cwblhau yn unol â deddfwriaeth, a rhaid ystyried y llwybrau un ai fel rhai sydd ar gael neu rhai sydd ddim ar gael, yn unol â'r asesiadau. Fodd bynnag, mae modd y gweithredir neu cymhwysir yr asesiadau hyn i’w ddewis yn ôl disgresiwn y Cabinet.

 

Ac yn ail: o ran y cynnig i ddileu darpariaeth feithrin fel y dangosir ar dudalen 662 o'r adroddiad, eglurodd effaith anghymesur debygol y cynnig hwn ar addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg seiliedig ar ffydd, ond yng nghyd-destun y broses nodwyd bod cludo plant meithrin yn y bysiau mawr presennol yn cael ei ystyried yn anniogel i ddisgyblion meithrin.

 

Aeth yr adroddiad ymlaen wedyn i fanylu ar yr opsiynau a nodwyd i fynd i'r afael â'r materion diogelwch uchod er mwyn i’r Cabinet eu hystyried, er enghraifft, drwy daliadau uniongyrchol neu ddefnyddio cerbydau llai, gan na ellid addasu'r cerbydau mwy sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ateb anghenion gofynion diogelwch disgyblion meithrin.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Strategaeth Fusnes a Pherfformiad, ei fod, drwy gydol yr adroddiad, wedi cyfeirio at ddyletswydd statudol y Cyngor o ran darparu cludiant i'r ysgol, yn enwedig i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â'r arbedion posibl yr oedd angen eu gwireddu.

 

Roedd hefyd wedi cyfeirio at y newidiadau i'r cynigion polisi a’u heffaith, ac er nad oes dyletswydd gyfreithiol gyfatebol ar gyfer addysg seiliedig ar ffydd, roedd hyn wedi'i ystyried yn yr un cyd-destun, yn enwedig lle gallai'r cynigion polisi gael effaith anghymesur.

 

Daeth i gasgliad drwy ddweud bod gweddill yr adroddiad yn canolbwyntio ar ganlyniad yr Adolygiad Strategol Annibynnol o Drafnidiaeth, a oedd yn cynnwys argymhellion annibynnol ar adroddiad y Cabinet.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio i'r Swyddog am yr adroddiad a'r gwaith caled a wnaed yn hyn o beth er mwyn adlewyrchu'r holl newidynnau ac opsiynau a oedd ar gael i'r Cabinet er mwyn gwneud penderfyniad cytbwys ar yr eitem hon.

 

Fodd bynnag, ychwanegodd fod ganddo nifer o gynigion diwygiedig a awgrymwyd i ffurfio penderfyniad ar yr adroddiad. Yna eglurodd y rhesymeg y tu ôl i bob un o'r rhain er budd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cytunodd y Cabinet ar y cynigion diwygiedig hyn ac fe'u hadlewyrchwyd yn ei benderfyniad fel y nodir isod. 

 

PENDERFYNIAD:                          Fod y Cabinet yn cynnig:

 

 (1) Y dylid gohirio'r argymhelliad ynghylch pellteroedd statudol i ysgolion ac y dylid aros am fanylion cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2020 ynghylch ei adolygiad o'r terfynau statudol ar gyfer teithio gan ddysgwyr, er mwyn i'r awdurdod lleol allu ystyried sut rydym yn cysoni canllawiau CSBP â chynigion ariannu Llywodraeth Cymru a therfynau statudol.

 

(2) O ran Teithio ADY, bod EDSU yn ymchwilio i system o daliadau uniongyrchol i rieni, gwarcheidwaid, a gofalwyr. Gallai hyn arwain at arbedion, tra hefyd yn defnyddio cyllideb i roi mwy o hyblygrwydd a dewis o ddulliau trafnidiaeth i rieni, gwarcheidwaid, a gofalwyr.

 

(3) Dileu, fel yr argymhellwyd, enghreifftiau penodol o'r amgylchiadau arbennig lle bydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant dewisol o Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol/Coleg yr awdurdod lleol.

 

(4) O ran Teithio Ôl-16, bod swyddogion Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ynghyd â Swyddogion Trafnidiaeth yn parhau â’r drafodaeth a gychwynnwyd gyda First Cymru yn ddiweddar. Rydym yn ceisio ymgysylltu â First Cymru, darparwyr trafnidiaeth eraill yn y sector preifat, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, a darparwyr 16+ eraill, er mwyn gwneud arbedion, ond yn bennaf i greu cyllideb a fydd yn rhoi "pàs teithio" i fyfyrwyr. Byddai hyn yn fwy hyblyg na chludiant traddodiadol o'r cartref i ddysgu a byddai'n ateb mwy "aeddfed" i bobl ifanc. Byddai hyn yn helpu i greu cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, a byddai'n fwy addas ar gyfer y strategaeth a fabwysiadwyd yn ddiweddar gan CBSP ar gyfer addysg 16+ a chweched dosbarth. Rhagwelir hefyd y sefydliad o "rwyd ddiogelwch" trafnidiaeth fwy confensiynol i nifer fach o fyfyrwyr heb sydd heb fynediad rhesymol i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

(5) O ran Trafnidiaeth Meithrin, derbynnir y pryderon a amlinellir yn yr adroddiad a chaiff ei gydnabod na all darpariaeth cludiant meithrin barhau ar ei ffurf bresennol a'i bod yn ofynnol iddi newid yn y dyfodol agos oherwydd materion iechyd a diogelwch. Cydnabyddir nad yw hyn wedi’i ysgogi gan doriad yn y gyllideb, ond fodd bynnag, rhaid i ateb fod yn gost-effeithiol oherwydd ei bod yn swyddogaeth anstatudol. Felly, gofynnir i swyddogion fynd ati’n chwim i archwilio gweithgareddau lliniaru addas er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, defnyddio clustogau atgyfnerthu a/neu gyflogi hebryngwr ychwanegol ar bob bws, wedi'i hyfforddi'n benodol i oruchwylio teithwyr oedran meithrin. Mae'r Cabinet yn gofyn i'r dewisiadau amgen a'r costau a ragwelir i gael eu dwyn gerbron yr Aelodau fel rhan o adroddiad pellach, cyn gynted â phosibl.

 

Dogfennau ategol: