Agenda item

Panel Adfer Trawsbleidiol - Canfyddiadau ac Argymhellion Cam 1

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol adroddiad (ar ran y Pwyllgor) i hysbysu’r Cabinet am Ganfyddiadau ac Argymhellion Cam 1 y Panel Adfer Trawsbleidiol sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Bwrdd Gweithredol nodi y bydd gwaith y Panel Adfer Trawsbleidiol yn parhau, gydag adolygiadau rheolaidd o'r gwaith er mwyn helpu i sicrhau effeithiolrwydd ac ymateb i unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y cytunwyd i sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar 13 Gorffennaf 2020. Mae aelodau'r Panel Adfer yn cynnwys y 12 Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ynghyd â 4 Aelod ychwanegol: 2 Llafur; 1 Cynghrair Annibynnol, ac 1 Ceidwadwr, i’w henwebu gan Arweinwyr Gr?p.  Sefydlwyd y Panel gyda'r nod o lunio, hysbysu, a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adfer y Cyngor, a fyddai’n sail i'r cyfnod o adfer yn sgil pandemig Covid-19.

 

Cyfarfu'r Panel Adfer Trawsbleidiol chwe gwaith yn ystod mis Awst ac fe'u cefnogwyd gan yr Uwch Swyddog Democrataidd – Craffu, dau Swyddog Craffu, a Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Democrataidd a Chyfreithiol.  Yn ystod ei gyfarfodydd, ystyriodd y Panel Adfer Trawsbleidiol gyflwyniadau gan wahoddedigion, gan gynnwys: Swyddogion Tîm y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB); Prif Weithredwr, Rheolwr Gweithredol, a Llywiwr Cymunedol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO); y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Phennaeth y Gwasanaethau i Oedolion; Cyfarwyddwr Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr; y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a’r Rheolwr Gr?p - Tai.

 

Ychwanegodd fod y Panel Adfer Trawsbleidiol, yng Ngham 1, wedi mabwysiadu dull strwythuredig o ddethol meysydd allweddol o'r rhai a nodwyd i dderbyn blaenoriaeth, a hynny er mwyn bwydo i mewn i'r broses adfer, a’u bod wedi nodi materion allweddol yn dilyn archwiliad.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi derbyn adroddiad ar ganfyddiadau'r Panel Adfer Trawsbleidiol ar 7 Medi 2020, a chymeradwyodd y dylid anfon argymhellion y Panel i'r Cabinet fel rhan o'r broses adfer, er mwyn bwydo’r broses o adlinio Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y camau dilynol a gynigiwyd ar gyfer y Panel Adfer, ac ystyriodd a oedd yn dymuno i waith y Panel barhau y tu hwnt i fis Medi.  Cydnabuwyd bod adferiad y Fwrdeistref Sirol yn sgil pandemig Covid-19 yn rhaglen sylweddol a chymhleth sy’n allweddol i fywiogrwydd economaidd a gwydnwch cymunedol y fwrdeistref sirol a'i thrigolion.

 

Cwblhaodd y Cadeirydd ei chyflwyniad drwy gyfeirio’r Aelodau at yr 16 Argymhelliad a wnaed gan y Panel Adfer Trawsbleidiol ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, sydd wedi’u hatodi i'r adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Aelodau'r ddau gorff uchod am y gwaith yr oeddent wedi'i gyfrannu, fel yr adlewyrchir yn Atodiad yr adroddiadau.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai'r argymhellion yn cael eu harchwilio ar y cyd â Chynllun Corfforaethol diwygiedig a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn y man. Y rhain ynghyd â ffactorau cyfrannol eraill fyddai’n llunio Cynllun Adfer y Cyngor.

 

Cwblhaodd yr Arweinydd ddadl ar yr eitem drwy sicrhau y byddai'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn rhoi blaenoriaeth i unrhyw argymhellion a oedd yn sensitif i amser.

 

PENDERFYNIAD:                              Fod y Cabinet wedi:

 

(1) Ystyried canfyddiadau ac argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol (Atodiad A i'r adroddiad) a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol fel rhan o'r broses adfer, er mwyn bwydo adliniad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Corfforaethol y Cyngor;

 

(2) Nodi y bydd gwaith y Panel Adfer Trawsbleidiol yn parhau ac y bydd argymhellion pellach yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a'r Cabinet i'w cymeradwyo

 

Dogfennau ategol: