Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan y Cynghorydd Maer SE Baldwin

Cofnodion:

Cyn gwneud ei gyhoeddiadau, dywedodd y Maer wrth y Cyngor ei fod wedi nodi yn y Cyngor cyffredin diwethaf bod Cynghorydd Ceidwadol wedi gwneud datganiad anghywir. Dywedodd y Maer ei fod yn anghywir i ddweud mai Aelod Ceidwadol wnaeth y datganiad, gan y gallai fod wedi cael ei wneud, mewn gwirionedd, gan unrhyw Gynghorydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Roedd cyhoeddiad y Maer fel a ganlyn:-

 

"Hoffwn ddweud ei bod wedi bod yn bleser mawr gwasanaethu fel Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2019/2020.    Efallai nad wyf wedi cael popeth yn iawn drwy gydol fy nhymor ond mae pawb yn gwneud camgymeriadau.  Wel, o leiaf rwy'n gwybod ac yn cyfaddef pan fyddaf yn eu gwneud, ac yn dysgu ganddynt.  Nid yw'r flwyddyn wedi mynd yn ôl y bwriad, rwy’n si?r eich bod chi gyd yn ymwybodol o hynny, gyda'r cyfyngiadau a osodwyd arnom fel rhan o bandemig Covid19, gan olygu mai fi bellach yw’r Maer sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Byddwn wedi hoffi gwneud mwy o ddigwyddiadau casglu arian, ond yn anffodus nid yw amser a pandemig wedi caniatáu hynny.  Yn ôl ym mis Tachwedd 2019 trefnais ddigwyddiad prynhawn llwyddiannus iawn o'r enw 'Music with the Mayor' yn Court Colman Manor.  Yn y digwyddiad, cafodd y gwesteion fwynhau canapés a Prosecco diwaelod am yr awr a hanner cyntaf.  Cafodd y gwesteion wledd o adloniant gan artistiaid cerddorol lleol ac artist drag o fri rhyngwladol, 'Pixie Perez'.  Diolch yn arbennig i bob artist a roddodd o'u hamser yn rhad ac am ddim ac i berchnogion y Court Colman Manor am ganiatáu i ni ddefnyddio eu lleoliad yn rhad ac am ddim hefyd. Heb gefnogaeth fy nghyfaill da iawn Ryan Phillips ni fyddwn byth wedi gallu trefnu digwyddiad o’r fath.  Gweithiodd yn ddiflino am fisoedd i wneud yn si?r bod y digwyddiad yn llwyddiant.  Diolch hefyd i bawb a roddodd wobrau raffl ac i'r cynghorwyr hynny a fynychodd y digwyddiad.

 

Gan mai fi yw Maer hoyw cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, roedd yn bwysig i mi ddewis elusen a oedd yn agos at fy nghalon.  Rwyf wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gydol fy mywyd, nid fel Cynghorydd yn unig.  Yr elusen a ddewisais oedd Pride Cymru, a ches bleser mawr o'u hysbysu y byddwn yn trosglwyddo £4954.54 iddyn nhw i gefnogi'r gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud.

 

Trwy gydol y flwyddyn rwyf wedi annog Cynghorwyr i wneud rhoddion i Fanc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn ein cyfarfodydd cyngor llawn misol.  Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i helpu Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr i fwydo'r rhai o fewn ein cymdeithas sydd mewn tlodi bwyd eithafol.  Gwnaeth dychymyg y Cynghorwyr hynny a luniodd yr hamperi adfent gwrthdro argraff arbennig arnaf.  Roedd y Banc Bwyd yn hynod ddiolchgar am bopeth a wnaethom drostyn nhw.

 

Yn ogystal â mynychu llawer o ddigwyddiadau, gosodais dasg i’n hun o wella'r ffordd yr oedd y Cyngor hwn yn cefnogi rôl y Maer.  Yn ystod fy mlwyddyn, mae'n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cyflwyno llwyfan ar-lein newydd i wneud rhoddion fel rhan o wefan y Cyngor.  Cam i'r cyfeiriad cywir yn bendant.

 

Hoffwn ddiolch i holl staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig yr holl Wasanaethau Democrataidd am eu hamynedd wrth ddelio â’m cwestiynau.  Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i Roger am gydlynu fy holl ymweliadau a digwyddiadau Maerol, ac am fy ngyrru iddynt i sicrhau fy mod yn cyrraedd yn brydlon.

 

Gall bywyd Maer fod yn anodd iawn ac yn unig ac ni fyddwn wedi llwyddo oni bai am fy nghonsort gwych, y Cynghorydd Nicole Burnett.  Mae'n wir ddrwg gennyf na phrynais yr holl esgidiau, ffrogiau, a bagiau llaw yr oeddet ti’n credu dy fod yn eu haeddu.

 

Yn olaf oll, rwyf am ddymuno'r gorau i'r Maer a'r Consort newydd trwy gydol eu tymor, ac rwy'n gobeithio eich bod yn ei fwynhau cymaint ag y gwnes i".